O ran chwaraeon elitaidd yng Nghymru, rydyn ni eisiau i athletwyr gyrraedd eu potensial llawn. Nid yn unig yn eu camp, ond fel pobl hefyd. Rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylcheddau ffyniannus sy'n eu helpu i dyfu, cadw'n iach, a datblygu i fod yn bobl penigamp.
Rydyn ni’n buddsoddi mewn partneriaid, yn cynnig grantiau i athletwyr talentog ac rydyn ni wedi helpu i adeiladu cyfleusterau hyfforddi a chystadlu gwerth miliynau o bunnoedd.