Skip to main content
  1. Hafan
  2. Chwaraeon Perfformiad
  3. Athletwyr Cymru ym Mharis 2024

Athletwyr Cymru ym Mharis 2024

Dyma’r genhedlaeth nesaf o athletwyr o Gymru a fydd yn cynrychioli Tîm Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd ym Mharis 2024 yr haf hwn.

Ffeithiau Olympaidd Cymru

Olympiad mwyaf llwyddiannus: Paulo Radmilovic (Polo Dŵr, Nofio)
Gemau Olympaidd mwyaf llwyddiannus: Rio 2016. 4 medal aur, 7 medal arian gydag 6 ohonynt yn ferched.

Sut perfformiodd athletwyr Cymru yn Tokyo 2020: daeth27 o athletwyr gartref gyda 3 medal aur (4 enillydd medal aur), 3 medal arian a 2 fedal efydd (4 enillydd medal efydd)

Troeon Cyntaf Paris 2024 i Gymru

Anna Hursey fydd y chwaraewr tennis bwrdd Olympaidd cyntaf erioed o Gymru. 

Ella Maclean-Howell fydd beiciwr mynydd Olympaidd cyntaf erioed Cymru.

Jasmine Joyce fydd y chwaraewr rygbi Prydeinig cyntaf i ymddangos mewn tri o Gemau Olympaidd gwahanol.

Ruby Evans fydd y gymnast cyntaf o Gymru i gystadlu yn y Gemau Olympaidd ers 1996.

Diolch i'r Loteri Genedlaethol

Mae cyllid y Loteri Genedlaethol wedi newid y gêm i’r byd chwaraeon yng Nghymru ers bron i 30 mlynedd. Diolch i Raglen Safon Byd UK Sport sy’n cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol, mae ein hathletwyr gorau ni o Gymru yn gallu hyfforddi’n llawn amser, cael mynediad at hyfforddwyr gorau’r byd ac elwa o gefnogaeth feddygol arloesol.

Hefyd mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn cefnogi’r clybiau ar lawr gwlad maent yn dod i’r amlwg drwyddynt ac mae wedi cael ei fuddsoddi i greu cyfleusterau chwaraeon o safon byd fel Felodrom Geraint Thomas yng Nghasnewydd a Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Olympiaid Cymru ym Mharis 2024

Sylwch: Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd ac nid yw rhai athletwyr wedi'u cyhoeddi eto. Byddwn yn rhannu manylion am ein hathletwyr Paralympaidd yn fuan hefyd.