Josh Tarling - Beicio
Enw: Josh Tarling
Tref Enedigol: Aberaeron
Clwb Cyntaf: CRT Gorllewin Cymru
Cystadleuaeth: Ffordd y Dynion, Treial Amser y Dynion
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y Tro Cyntaf
Gorffennodd Josh Tarling yn 4ydd yn y Treial Amser Unigol i Ddynion a gorffen yn 47fed yn Ras Ffordd y Dynion.
Ydych chi’n feiciwr ifanc sydd eisiau datblygu eich sgiliau a chael profiad rasio? Mae gwybodaeth yma am sut gall Beicio Cymru eich helpu chi.
Yn ystod 2023/24, dyfarnwyd £127,134 i glybiau beicio yng Nghymru o Gronfa Cymru Actif - sy’n defnyddio arian y Loteri Genedlaethol - i helpu i wella cyfleoedd ar lawr gwlad.