Skip to main content
  1. Hafan
  2. Chwaraeon Perfformiad
  3. Paralympiaid: Athletwyr Cymru ym Mharis 2024

Paralympiaid: Athletwyr Cymru ym Mharis 2024

Ffeithiau Paralympaidd am Gymru

Paralympiad Mwyaf Llwyddiannus: Y Farwnes Tanni Grey Thompson a David Roberts, mae'r ddau yn rhannu'r un cyfanswm o 15 o fedalau (11 medal Aur, 4 medal Arian ac 1 fedal Efydd).

Gemau Paralympaidd Mwyaf Llwyddiannus: Sydney 2000. 10 medal Aur, 6 medal Arian a 6 medal Efydd.

Sut perfformiodd athletwyr Cymru yn Tokyo 2020?: Daeth 21 o athletwyr gartref gyda 14 o fedalau, 4 medal Aur, 3 medal Arian a 7 medal Efydd.

Diolch i'r Loteri Genedlaethol

Mae cyllid y Loteri Genedlaethol wedi newid y gêm i’r byd chwaraeon yng Nghymru ers bron i 30 mlynedd. Diolch i Raglen Safon Byd UK Sport sy’n cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol, mae ein hathletwyr gorau ni o Gymru yn gallu hyfforddi’n llawn amser, cael mynediad at hyfforddwyr gorau’r byd ac elwa o gefnogaeth feddygol arloesol.

Hefyd mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn cefnogi’r clybiau ar lawr gwlad maent yn dod i’r amlwg drwyddynt ac mae wedi cael ei fuddsoddi i greu cyfleusterau chwaraeon o safon byd fel Felodrom Geraint Thomas yng Nghasnewydd a Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Paralympiaid Cymru ym Mharis 2024

Dyma'r athletwyr o Gymru sy'n cynrychioli ParaGB ym Mharis 2024. Dysgwch fwy am Chwaraeon Anabledd Cymru.