Sut Rydym Yn Defnyddio Eich Data
Wrth gofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein CLIP rydych chi'n cytuno i’r canlynol:
- Chwaraeon Cymru yn casglu ac yn prosesu'r data personol rydych yn eu darparu wrth gofrestru er mwyn darparu mynediad i'r gwasanaeth ac i sicrhau'r gwasanaeth gorau posib i'w ddefnyddwyr. Rydym yn gwneud hyn o dan yr amod cyfreithiol o ddarparu gwasanaeth.
- Chwaraeon Cymru yn cael mynediad at ac yn prosesu’r data personol rydych yn eu darparu ar Eventbrite a PayPal er mwyn cynnal digwyddiadau a rheoli aelodaeth. Rydym yn gwneud hyn o dan yr amod cyfreithiol o ddarparu gwasanaeth, ac i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol.
- Eich bod dros 16 mlwydd oed.
Dim ond at ddibenion gweithredu Rhaglen CLIP y defnyddir gwybodaeth a rennir gyda Chwaraeon Cymru sy'n ymwneud â'ch aelodaeth CLIP.
Gallwch gael gwybod mwy am sut mae Chwaraeon Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol drwy edrych ar ein Polisi Preifatrwydd https://www.sport.wales/privacy/
Os hoffech chi drafod sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ymhellach, anfonwch e-bost i dpo@sport.wales.
Pa wybodaeth rydym yn ei defnyddio?
Bydd Chwaraeon Cymru yn defnyddio’r canlynol:
- Eich enw
- Eich cyfeiriad e-bost
- Enw eich sefydliad neu'ch corff chwaraeon
- Gwybodaeth dechnegol am eich dyfais, gan gynnwys cyfeiriad IP a gwybodaeth a gasglwyd gan Gwcis.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?
Er mwyn ein galluogi i weithredu CLIP, bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda Grandad Digital, ein darparwr gwasanaeth gwe. Ac, os byddwch yn cofrestru ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau neu danysgrifiadau, efallai y caiff eich gwybodaeth ei rhannu gydag Eventbrite, ein partner tocynnau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae ein partneriaid yn defnyddio eich gwybodaeth isod:
Grandad Digital https://grandadlondon.com/privacy-policy/}
Eventbrite https://www.eventbrite.co.uk/support/articles/en_US/Troubleshooting/eventbrite-privacy-policy?lg=en_GB}
Am faint fyddwch yn cadw fy nata?
Bydd data a gesglir ar gyfer eich aelodaeth o CLIP yn cael eu cadw gan Chwaraeon Cymru yn ystod oes y rhaglen.
Beth yw fy Hawliau?
Mae gennych hawl i gael diweddaru/cywiro eich gwybodaeth, derbyn cofnod o'ch gwybodaeth, a'r hawl i gael dileu'r holl wybodaeth yn barhaol, oni bai fod gan Chwaraeon Cymru hawl gyfreithiol i gadw cofnod i fodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol (fel cofnodion talu).
Gallwch gysylltu â communications@sport.wales ar unrhyw adeg i ofyn am i’ch cyfrif a’i ddata cysylltiedig gael eu dileu.
Defnyddio o blatfformau trydydd parti
Eventbrite
Mae angen archebu lle yn rhai o sesiynau CLIP drwy Eventbrite.
Wrth ddefnyddio Eventbrite, eich cyfrifoldeb chi yw cydsynio i'r holl delerau gwasanaeth a pholisïau preifatrwydd sy’n ofynnol i ddefnyddio Eventbrite, a chydymffurfio â hwy. Nid yw Chwaraeon Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd am ddefnydd Eventbrite o’ch data personol, nac unrhyw gamymddwyn ar y platfform gan ddefnyddiwr CLIP.
Rhyngweithio â chynnwys CLIP
Bydd cofrestru ar gyfer cyfrif CLIP yn rhoi mynediad i chi at gynnwys sydd ar gael i aelodau CLIP yn unig. Mae cyfyngu cynnwys i ddefnyddwyr â chyfrif yn ein helpu ni i barhau i weithredu’r rhaglen a sicrhau’r rhaglen orau bosib ar gyfer ein defnyddwyr.
Ni ddylech rannu cynnwys CLIP ag eraill drwy gysylltu â fideos neu drwy gopïo a gludo deunydd ysgrifenedig.
Drwy gofrestru ar gyfer cyfrif a defnyddio adnoddau, rydych chi’n gwneud y canlynol:
Derbyn telerau defnydd y platfform hwn
Rhoi caniatâd ar gyfer defnyddio fy ngwybodaeth bersonol at y dibenion a nodir uchod