Fel rhan o'r hyfforddiant cyfryngau, cynigiodd y Loteri Genedlaethol Ddosbarth Meistr Cyfryngau Cymdeithasol i athletwyr yn y cyfnod cyn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Nod y dosbarth meistr dwy ran, dan arweiniad y brand cymdeithasol poblogaidd LADbible, oedd helpu athletwyr i greu eu brand personol ar gyfryngau cymdeithasol a chynnig gwybodaeth am greu cynnwys dilys, difyr ar draws amrywiaeth o blatfformau.
Mae'r gyfres dosbarth meistr yn adnodd gwych i helpu athletwyr yn eu rôl fel llysgenhadon ar gyfer y Loteri Genedlaethol a dod o hyd i ffyrdd dilys o ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth i Team GB a Paralympics GB.