3 pheth y byddwn i’n hoffi bod wedi cael eu dysgu am farchnata a hyrwyddo pan oeddwn i’n dechrau arni
1. Mae strategaeth yn syml
Mae fersiynau dirifedi o hyn ar gael, ond mae’r rhan fwyaf o ddogfennau strategaeth, cynlluniau a briffiau wedi’u strwythuro fel hyn:
• Y sefyllfa bresennol
• Ble rydych chi eisiau cyrraedd
• Sut ydych chi am gyrraedd yno
Ym maes cyfathrebu a marchnata, fel rheol mae ‘ble rydych chi eisiau cyrraedd’ yn cynnwys ceisio darbwyllo pobl i wneud rhywbeth yn wahanol. Felly, mae’n bwysig bod yn glir am bwy ydych chi’n siarad â hwy, a beth ydych chi’n mynd i’w ddweud neu ei wneud i’w darbwyllo. Mae perygl o neidio yn syth i dactegau – ‘mae’n rhaid i ni gael fideo cymdeithasol’ – heb fod yn glir ynghylch pam rydych chi’n gwneud rhywbeth neu ddeall beth rydych chi’n ceisio ei wneud yn iawn.
2. Estyn allan, mae perthnasoedd yn bwysig
Roedd un o fy mhrif randdeiliaid i’n creu anhawster. Anodd cysylltu ag ef. Ddim y gorau am rannu gwybodaeth, a doedd ganddo ddim llawer o amser i siarad am hyrwyddo.
Fe wnes i weithio’n galed i greu argraff arno gydag ystadegau, cynlluniau, bod yn drefnus iawn. Fe gymerodd sbel i mi sylweddoli er fy mod i’n gweld y person yma unwaith yr wythnos o leiaf, roedd hynny bob amser gyda phobl eraill. Doedd gen i ddim perthynas gyda’r person yma.
Mae perthnasoedd da gyda rhanddeiliaid yn seiliedig ar ymddiriedaeth a dealltwriaeth – ac mae hyn yn cymryd amser.
Byddwch yn ddefnyddiol, dangoswch ddiddordeb yn yr hyn maen nhw’n ei wneud, a byddwch ar yr un dudalen.
Mae dylanwadu a darbwyllo’n dod yn llawer llai o broblem pan mae gennych chi ymddiriedaeth a dealltwriaeth yn eu lle.
3. Rhaid i chi fod yn unigryw
Ydych chi eisiau cyfleu neges? Os felly rhaid i chi hawlio sylw pobl.
Gallech chi fod o flaen y bobl gywir, ar yr amser cywir, ond a ydyn nhw’n sylwi arnoch chi?
NID GWEIDDI’N UWCH NA PHAWB ARALL MAE HYN YN EI OLYGU. Mae sut rydych chi’n gwneud hyn yn dibynnu ar gyda phwy rydych chi’n siarad a pha blatfform ydych chi’n ei ddefnyddio.
Dau beth i’w hystyried…
Creadigrwydd – mae digon o dystiolaeth i ategu effeithiolrwydd y gwaith ymgyrchu creadigol a’r hysbysebu. Mae gwreiddioldeb a newydd-deb yn mynd yn bell fel rheol. Peidiwch â bod yr un fath â phawb arall.
Perthnasedd – sut byddaf i’n elwa? Dywedwch wrthyf, neu well fyth, dangoswch i mi, sut mae’n fy helpu i gyda fy mywyd.