Gwybodaeth am beth yw goblygiadau ein trydedd ton o ymchwil ComRes i ddychwelyd i chwaraeon ar ôl y cyfyngiadau symud
DISGRIFIAD O'R SESIWN
Bydd Tim Evans, un o Uwch Arweinwyr Gwybodaeth Chwaraeon Cymru, yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil diweddaraf ComRes, gan adeiladu ar yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu yn y ddwy rownd flaenorol, ac ymchwilio i'r hyn y mae pobl wedi'i ddweud am ddychwelyd at chwaraeon; sut maen nhw'n teimlo am fod yn actif a beth maen nhw'n awyddus i ddychwelyd iddo.
Un agwedd allweddol ar yr wybodaeth a gasglwyd sy'n profi'n amserol iawn yw deall yr hyder sydd gan y cyhoedd o ran y lleoliadau lle gallant ddychwelyd at chwaraeon. Mae astudiaethau a gynhaliwyd yn y gorffennol gan Chwaraeon Cymru wedi dangos, pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio o'r blaen, bod y cyfranogwyr hynny a ddychwelodd i gyfleusterau dan do yn teimlo'n gyfforddus ar y cyfan, ac mae llawer wedi mynegi diddordeb mewn dychwelyd at eu gweithgaredd o ddewis. Byddwn yn ymchwilio i effaith y rhaglen frechu, agweddau at wirfoddoli mewn chwaraeon, yr effaith ar arferion ac yn edrych eto ar sut effeithiwyd ar weithgarwch plant.
Bydd y sesiwn am ddim yma'n eich helpu chi i ddeall yn well effaith llacio'r cyfyngiadau ac yn eich helpu i baratoi ar gyfer y misoedd sydd i ddod.