Mae’r gyn chwaraewraig hoci ryngwladol a’r chwaraewraig rygbi cyffwrdd, Mandy Powell, yn gydsylfaenydd The Goodwash Company yn y Barri, de Cymru. Y nod yw newid y byd un golch ar y tro, gyda’r holl elw o werthiant a chodi arian yn gysylltiedig â sebonau a chynhyrchion ymolchi eraill yn mynd tuag at greu gwelliant real a pharhaus i fywydau anifeiliaid a phobl.
Bydd Mandy yn rhannu stori Goodwash hyd yma gyda ni. Bydd yn siarad am sut gwnaeth hi a Kelly Davies ddatblygu’r brand o syniad cychwynnol yn ôl yn 2017 i fod yn gwerthu cynhyrchion ledled y byd heddiw a chreu partneriaethau parhaus gyda chymunedau, cwsmeriaid ac arweinwyr busnes ar hyd y daith. Hefyd mae Goodwash wedi agor ei siop gyntaf yn ddiweddar yn y Barri (Awst 2020).
Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i’r pynciau canlynol:
- Pwysigrwydd bod â chenhadaeth fusnes glir o’r diwrnod cyntaf
- Dealltwriaeth o’r strategaeth farchnata gyffredinol (sut cafodd ei datblygu a sut mae’r ymdrechion marchnata wedi esblygu wrth i boblogrwydd y cwmni gynyddu)
- Gwybodaeth am gynulleidfaoedd targed Goodwash a’r strategaeth ar gyfer cyfathrebu a gweithio’n effeithiol gyda hwy
- Gwybodaeth am sut mae Goodwash yn cynllunio ei raglen ymgysylltu a hyrwyddo (gan gynnwys amser cynllunio a dulliau dewis)
AM MANDY POWELL
Roedd Mandy, cyn chwaraewraig hoci ryngwladol a chwaraewraig rygbi cyffwrdd, yn arfer gweithio fel Rheolwr Busnes a Marchnata’r DU gyda chorfforaeth am fwy na 10 mlynedd. Yn sylfaenol, fel tarfwr gyda dyhead i wneud gwahaniaeth, cwestiynodd Mandy y pwrpas mwy. Mae Mandy yn teimlo’n angerddol am wella bywydau anifeiliaid a sbarduno symudiad ymwybodol ymhlith defnyddwyr.
Graddiodd Mandy o Brifysgol Met Caerdydd ac enillodd gymhwyster TAR o St Lukes, Caerwysg ac mae’n gobeithio defnyddio popeth mae wedi’i ddysgu o’r byd chwaraeon a masnachol i greu busnes cynaliadwy sy’n creu newid cymdeithasol ar gyfer anifeiliaid a phobl.
Mwy o wybodaeth am The Goodwash Company yma https://goodwash.co.uk/