Weithiau gall fod yn her cael eich newyddion i gyrraedd y cynulleidfaoedd rydych chi’n dymuno iddo eu cyrraedd gan eich bod yn aml yn cystadlu yn erbyn straeon chwaraeon eraill a'r agenda newyddion ehangach. Ond mae’n rhaid i chi allu torri drwy'r sŵn a gwneud eich cynnwys yn unigryw.
Bydd enghreifftiau real yn cael eu defnyddio yn ystod y sesiwn yma i ddangos yr hyn mae Graham yn addysgu yn ei gylch, gan gynnwys straeon diweddar a gafodd sylw ar gyfer Dai Sport, Sky Sports News a phapurau Sul lle mae chwaraeon ac enwau proffil is wedi llwyddo i dorri drwodd at gynulleidfa ehangach, dorfol.
Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i'r pynciau canlynol:
• Creu effaith drwy adrodd straeon cadarn
• Pŵer cynnwys ysgrifenedig ffurf hirach i gefnogi gweithgareddau ar gyfryngau cymdeithasol
• Gwerth creu cysylltiadau
AM GRAHAM THOMAS
Newyddiadurwr a darlledwr yw Graham Thomas sydd wedi gweithio yn y byd chwaraeon yng Nghymru ers bron i 30 mlynedd.
Ar ôl gweithio i bapurau newydd, gan gynnwys y South Wales Evening Post, y South Wales Echo a’r Sunday Mirror, symudodd i fyd darlledu a threuliodd 14 mlynedd gyda'r BBC fel gohebydd chwaraeon a chyflwynydd ar y teledu, y radio ac ar-lein.
Yn gyn gyflwynydd ar Scrum V a Week In, Week Out ar BBC Cymru Wales, ers hynny mae wedi gweithio i Sky Sports News fel gohebydd yn ogystal â chydsylfaenu gwefan Dai Sport dair blynedd yn ôl.
Mae'n gyn Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn Cymru, yn awdur tri bywgraffiad chwaraeon, a chynhaliodd lansiad llyfr Geraint Thomas yng Nghymru yn 2018.