Sut gallwn ni sicrhau bod manteision iechyd meddwl chwaraeon ar gael i bawb?
Sut gallwn ni sicrhau bod manteision iechyd meddwl chwaraeon ar gael i bawb?
Disgrifiad o'r sesiwn
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl wedi deffro ac yn sylweddoli y gall bod yn actif wneud i chi deimlo'n dda. Mae'n lleihau'r risg o ddatblygu iselder hyd at 30% a dylai fod yn un o'r triniaethau cyntaf a argymhellir gan feddygon teulu pan fyddwch yn dweud eich bod yn teimlo braidd yn isel. Fe'i disgrifir yn aml fel 'iachâd gwyrthiol' ond mae mwy i'r darlun na hynny.
Ymunwch â Mind yn genedlaethol a Mind Casnewydd i gael gwybod sut gall gweithgarwch corfforol newid bywydau ac weithiau achub bywydau, ond yn yr un modd sut gall y rhwystrau deimlo'n enfawr ac i rai gall gweithgarwch corfforol ei hun ddod yn broblem. Edrychwch ar y dystiolaeth o werthusiad Prifysgol Loughborough o'r rhaglen Get Set to Go, drwy brofiadau Mind Casnewydd o gyflwyno'r model yn eu hardal leol. Cewch wybod am adnoddau ac offer a all eich cefnogi chi i wneud eich rhaglenni eich hun yn fwy cynhwysol a chefnogi'r 1 o bob 4 ohonom sy'n profi problemau iechyd meddwl.
Am y cyflwynwyr
Hayley Jarvis yw Pennaeth Gweithgarwch Corfforol Mind yn genedlaethol. Ers bron i chwe blynedd mae wedi arwain dull Mind o ddefnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol i gefnogi pobl i gadw'n iach a chyflwyno rhaglenni i gefnogi adferiad iechyd meddwl a mynd i'r afael â stigma iechyd meddwl.
Mae ei phortffolio'n cynnwys partneriaeth gwerth £3.3m gyda Sport England, cefnogaeth Mind i'r Siarter Iechyd Meddwl ar gyfer Chwaraeon a Hamdden sydd â mwy na 450 o lofnodion bellach a phartneriaethau gydag ASICS a Chynghrair Bêl Droed Lloegr (EFL) sy'n golygu bod logo Mind wedi bod ar gefn pob un o'r 72 crys clwb am y 2.5 tymor diwethaf.
Georgia Howard yw Cydlynydd Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Mind Casnewydd. Mae Mind Casnewydd wedi bod yn cefnogi pobl ers dros 40 mlynedd a dyma'r unig Mind lleol yng Nghymru i gael trwydded i ddarparu'r cwrs hyfforddi 'Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol' ac maent wedi'i ddarparu ar ran y Cynllun Atgyfeirio at Ymarfer Cenedlaethol a Chymdeithas Bêl Droed Cymru.
Georgia sy'n arwain y rhaglen Get Set to Go gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru gan weithio'n agos gyda phartneriaid lleol i ddefnyddio gweithgarwch corfforol i gefnogi gwell iechyd meddwl.