Os mai newid yw'r cysondeb newydd, sut gallwn ni baratoi ein hunain a'r rhai o'n cwmpas ni i berfformio'n dda yn yr amgylchedd yma?
Cyfres Ddysgu Mai 2021
Wrth i’r cyfyngiadau lacio ac wrth i ni weithio gyda'n cymunedau i agor mwy o gyfleoedd ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol, bydd yn hawdd i ni ddechrau rasio ar olwyn y bochdew unwaith eto!
Yn ystod y Gyfres Ddysgu hon cawsom gyfle i fuddsoddi amser ac ystyried gyda’n gilydd sut gallwn fod ar ein mwyaf dyfeisgar mewn amgylchedd sy'n esblygu'n barhaus.
Gallwch ddarganfod ac ailwylio cynnwys y gyfres isod.
Fideos Sesiwn
Rhoi Amser i Adlewyrchu
Rydym yn eich gwahodd i adlewyrchu ar eich profiad o'r Gyfres Ddysgu -
- Beth yw’r prif bethau allweddol rydych chi wedi’u dysgu o'r Gyfres Ddysgu?
- Pa negeseuon oedd yn taro deuddeg gyda chi fwyaf?
- Ystyriwch dair neges, sut allwch chi eu cymhwyso i'ch rôl? I'ch bywyd?
Os ydych yn hapus i rannu byddem wrth ein bodd yn clywed yr hyn rydych wedi'i ddysgu a sut rydych yn bwriadu cymhwyso'r dysgu hwn.
Cysylltwch a rhannu eich adborth!
Dyma’r Gyfres Ddysgu gyntaf i ni ei chynnal a byddem wir yn hoffi clywed eich barn. Pan mae gennych amser, mae gennym ddiddordeb mewn cael gwybod:
- Beth fyddech yn hoffi gweld mwy neu lai ohono?
- Pe baem yn cynnal sesiynau heddiw eto beth allem ei wneud yn wahanol yn eich barn chi?
- Beth wnaeth yr amser wnaethoch ei dreulio yn ein sesiwn (sesiynau) yn amser gwerth ei dreulio?
- Beth yw’r pethau mwyaf rydych chi wedi’u dysgu o’r sesiwn (sesiynau)?
- Unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu.
Os yw’n well gennych chi sgwrsio drwy eich adborth, cysylltwch â Claire Ewing (claire.ewing@sport.wales) neu Eleanor Ower (Eleanor.ower@sport.wales) a gallwn drefnu amser i ni siarad.
Rydym wedi mwynhau dysgu gyda chi, diolch i chi am eich amser a’ch egni!
Diolch yn fawr
#DysguGydanGilydd