Gwneud y Cae Chwarae'n Decach
Cyfle i gael gwybod beth sydd angen digwydd i ddylanwadu ar ddyfodol chwaraeon yn y DU. Rydym yn falch iawn o groesawu Ladi Ajayi, Pennaeth Chwaraeon AKD Solutions, a fydd yn rhannu eu canfyddiadau o brosiect ymchwil Profiad Byw #RhannwchEichStori ledled y DU yn 2021, oedd yn edrych ar effaith hil a hiliaeth mewn chwaraeon.
Manteisiwch ar y cyfle yma i glywed beth mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym a dechrau edrych ar sut mae'n rhaid i ni, yn unigol, yn sefydliadol ac fel sector ar y cyd, arwain newid i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy cynhwysol, o'r ystafell fwrdd i glybiau cymunedol ar lawr gwlad.
Mae Ladi yn strategydd medrus iawn gyda phrofiad gweithredol helaeth ym maes Chwaraeon, Cymunedau a Datblygu Arweinyddiaeth. Mae'n eiriolwr cadarn dros bŵer gweithgarwch corfforol i newid bywydau ac mae'n credu y "Dylai creadigrwydd ac arloesedd fod y tu ôl i unrhyw ddarpariaeth." Mae Ladi yn aelod o banel ymgynghorol UK Coaching ac yn aelod o fwrdd BComs.