Mae arfer adlewyrchol yn cael ei dderbyn yn ehangach fel mecanwaith a all hwyluso dysgu o brofiad a gwella arferion hyfforddi.
Fodd bynnag, mae dadl yn parhau ynghylch sut gellir gwneud arfer adlewyrchol yn bwrpasol ac yn ystyrlon i'r graddau ei fod yn arwain at ganlyniadau y gellir eu haddasu.
Bydd y sesiwn yma’n canolbwyntio ar amlinellu’r cysyniad o arfer adlewyrchol beirniadol, sut caiff ei hwyluso a’i gefnogi, a sut gall adlewyrchu ar y lefel hon gynorthwyo datblygiad hyfforddwr.
Darparwr
Brendan Cropley - Athro mewn Hyfforddiant Chwaraeon ym Mhrifysgol De Cymru
Mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol at y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer, yn enwedig ym maes Seicoleg Chwaraeon ac Addysg Hyfforddwyr Chwaraeon.