Main Content CTA Title

Dosbarthiadau Meistr Cyfryngau Cymdeithasol LADbible ar gyfer Athletwyr - Gemau'r Gymanwlad

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Datblygu Athletwr
  4. Dosbarthiadau Meistr Cyfryngau Cymdeithasol LADbible ar gyfer Athletwyr - Gemau'r Gymanwlad

Fel llais blaenllaw wrth greu cynnwys cymdeithasol sy’n trendio, mae LadBible wedi ymuno â’r Loteri Genedlaethol i gynnig dosbarth meistr cyfryngau cymdeithasol unigryw i athletwyr a chyrff rheoli i baratoi ar gyfer Gemau’r Gymanwlad Birmingham 2022. 

Byddwch yn dysgu'r holl awgrymiadau a'r triciau diweddaraf - beth sy'n newydd a phwy sy'n gwylio - yn ogystal â sut i greu cynnwys dilys i adeiladu eich brand personol eich hun ar gyfryngau cymdeithasol.

Cyflwnwr

Mae Grŵp Ladbible yn un o'r cyhoeddwyr cyfryngau cymdeithasol mwyaf erioed, gyda mwy na 311M o ddilynwyr ledled y byd. Mae Grŵp Ladbible yn creu cynnwys dan arweiniad cymdeithasol sy'n gwneud i bobl STOPIO, MEDDWL a GWEITHREDU. Gan gyrraedd mwy na hanner holl oedolion y DU, Grŵp Ladible yw'r lle i fod ar gyfer Newyddion, chwaraeon, adloniant a thueddiadau ffordd o fyw.