Darganfyddwch beth yw goblygiadau ein cylch diweddaraf o ymchwil ComRes i chwaraeon yn 2022
Yn y sesiwn yma, bydd tîm Dirnadaeth Chwaraeon Cymru yn cyflwyno canfyddiadau o’r cylch diweddaraf o ymchwil ComRes, gan adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu ym mhedwar cylch blaenorol yr arolwg ac ymchwilio i’r hyn y mae oedolion yn ei ddweud am chwaraeon yn y cam hwn yn y pandemig.
Wrth i gyfyngiadau a gofynion ynghylch covid-19 barhau i gael eu llacio…
- Pa chwaraeon mae oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan ynddyn nhw?
- Pa chwaraeon yr hoffai oedolion wneud mwy ohonynt a beth fyddai'n eu helpu i'w wneud?
- Ydi oedolion yn dychwelyd i swyddogaethau gwirfoddoli yr oeddent yn eu gwneud yn flaenorol?
- Pa mor hyderus mae pobl yn teimlo am gymryd rhan mewn gwahanol leoliadau?
- Beth fyddai'n gwneud chwaraeon yn fwy pleserus i bobl?
- Ydi oedolion yn teimlo y gallant gael mynediad i gyfleusterau o ansawdd uchel yn eu hardal?