Beverley Lewis, Prif Swyddog Gweithredol Triathlon Cymru
Os mai newid yw'r cyson newydd, sut allwn ni baratoi ein hunain a'r rhai o'n cwmpas i berfformio'n dda yn yr amgylchedd hwn?
Dyma'r cwestiwn y gwnaethom geisio edrych arno’n fanwl drwy gydol y gyfres. Nod pob sesiwn ac adran o'r gyfres oedd rhannu syniadau, straeon, adnoddau a thechnegau y gellid eu defnyddio yn ein cyd-destunau unigol. Roedd yn gyfle i neilltuo amser o'n tasgau a'n cyfarfodydd dyddiol, gan gysylltu fel sector i feddwl tybed sut gallwn ni fod ar ein mwyaf dyfeisgar.
Roedd y Gyfres Ddysgu’n ffordd newydd o rannu a dysgu, creodd yr amgylchedd rhithwir gyfle i recordio sesiynau byw, felly maent ar gael fel adnodd i'w rannu neu i edrych arno eto pan fydd angen. Roedd cynnig i gymryd rhan yn y rhaglen yn llawn, rhoi ychydig o sesiynau yn y dyddiadur neu gadw amser pan oedd yr amser yn briodol i chi.
Beverley Lewis, Prif Swyddog Gweithredol Triathlon Cymru
Beverley Lewis sy’n rhannu ei meddyliau am y gyfres:
Beth oedd eich agwedd chi at y gyfres ddysgu a pham wnaethoch chi benderfynu gwneud hyn?
Fel unigolyn daeth y Gyfres Ddysgu ar amser da i mi, pan oedd canolbwyntio ar yr hunan yn bwysig. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd fel Prif Swyddog Gweithredol Triathlon Cymru gyda heriau proffesiynol a phwysau cyffredinol rheoli argyfwng.
Rydw i hefyd eisiau annog a chefnogi aelodau’r staff i feithrin eu gwytnwch, sydd wedi dod i’r amlwg gen i yn ystod Covid, a datblygu sgiliau a dealltwriaeth a ddysgais i yn ddiweddarach mewn bywyd, ac rydw i'n dal i ddysgu! Fe hoffwn i iddyn nhw ddysgu'r sgiliau hyn nawr a bod yn hyddysg mewn hunanadlewyrchu, gwytnwch, cynllunio hyblyg, ymddygiadau cynhwysol a meithrin perthnasoedd a fydd yn gwella eu bywyd personol a'u sgiliau cyflogaeth.
Felly, fe wnes i ymgysylltu â'r rhaglen ac annog y staff i wneud yr un peth.
Beth ydi’r prif bethau rydych chi wedi’u dysgu?
- Dydych chi byth yn stopio dysgu
- Mae llawer o'r sesiynau hyn yn gwella'ch bywyd chi, nid dim ond eich amgylchedd gwaith
- Nid yw popeth at ddant pawb, neu nid i bawb nawr, yn eu gofod dysgu cyfredol
- Rhowch amser i stopio a meddwl. Mae ffyrdd i bawb gofleidio adlewyrchu hyd yn oed os ydych chi'n berson egnïol iawn sy'n canolbwyntio ar atebion fel fi
- Dewch ag eraill gyda chi i helpu i gefnogi'ch siwrnai a chreu'r diwylliant priodol o'ch cwmpas chi
- Rhowch gynnig ar bethau newydd - gallant weithio neu beidio, ond maen nhw'n cadw amgylcheddau yn ffres a gallwch chi gael eich synnu'n fawr gan yr hyn sy'n gweithio
- Mae rhai o'n gweithgareddau ni wedi rhoi egni newydd i’r tîm mewn ffyrdd nad oeddwn i wedi dychmygu.