Ymunodd Chwaraeon Cymru â Savanta i gael gwybodaeth am arferion ac ymddygiadau gweithgarwch y genedl. Wedi’i roi ar waith i olrhain lefelau gweithgarwch yn ystod pandemig y Coronafeirws, mae’r arolwg wedi parhau’n rheolaidd i wirio lefelau gweithgarwch yng Nghymru.
Mae’r arolygon, a gynhelir ar wahanol adegau o’r flwyddyn, yn rhoi gwybodaeth am weithgarwch corfforol a chwaraeon, yn ogystal ag agwedd pobl Cymru tuag at ymarfer corff.
Mae’r data wedi cael eu pwysoli i fod yn ddemograffig gynrychioliadol o oedolion 16+ oed Cymru yn ôl rhywedd, oedran a’r amcangyfrif o gartrefi gyda phlant dan 16 oed.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch insightteam@sport.wales.