Cyfwelodd Savanta ComRes 1,007 o oedolion o Gymru (16+ oed) ar-lein rhwng 8fed Mai a 12fed Mai 2020. Pwysolwyd y data i fod yn gynrychioliadol yn ddemograffig o oedolion 16+ oed Cymru yn ôl rhywedd, oedran a'r aelwydydd a amcangyfrifir sydd â phlant o dan 16 oed.
PA MOR ACTIF YW OEDOLION YNG NGHYMRU AR HYN O BRYD?
- Mae mwy na hanner (51%) yr oedolion yn teimlo bod y sefyllfa bresennol wedi effeithio ar eu trefn ymarfer.
- Mae oedolion hŷn a'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o ddweud bod eu trefn wedi cael ei heffeithio.
- Dywedodd mwy nag un o bob pump oedolyn (22%) nad oeddent wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Fodd bynnag, dywedodd 59% eu bod wedi gwneud gweithgaredd ar 3 diwrnod neu fwy (ac roedd un o bob tri wedi gwneud gweithgaredd ar bum diwrnod neu fwy).
- Mae merched yn fwy tebygol o fod wedi gwneud gweithgarwch corfforol ar 1-4 diwrnod yn ystod yr wythnos ddiwethaf, tra bo dynion yn fwy tebygol o fod wedi gwneud ymarfer corff ar bum diwrnod neu fwy.
- Mae'r canfyddiadau'n awgrymu nad yw lefelau net gweithgarwch corfforol wedi newid yn sylweddol (dywed 34% o oedolion eu bod yn gwneud mwy ar hyn o bryd na chyn cyfyngiadau COVID-19, tra bod 33% yn dweud eu bod yn gwneud llai).
- Fodd bynnag, mae amrywiadau sylweddol o fewn rhai grwpiau demograffig. Mae cynnydd net yn y lefelau gweithgarwch ymhlith y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (+7 pwynt canran), ond mae gostyngiad net ymhlith y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is (-4 pwynt canran).
- Yn yr un modd, er bod cynnydd net mewn lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion iau 16-34 oed (+15 pwynt canran), ar gyfer y rhai 35-54 oed a 55+ oed, mae'n ymddangos bod gostyngiad net (-2 a -5 pwynt canran yn y drefn honno).
- Yn gyffredinol, mae'r rhai sydd wedi gwneud gweithgarwch yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn dweud eu bod yn gwneud mwy o weithgarwch nag mewn wythnos nodweddiadol cyn cyfyngiadau COVID-19. Mae hyn yn wir am bob categori o weithgareddau yr adroddwyd arnynt.