Cyfwelodd Savanta ComRes 1,007 o oedolion o Gymru (16+ oed) ar-lein rhwng 9fed Hydref a 12fed Hydref 2020. Pwysolwyd y data i fod yn gynrychioliadol yn ddemograffig o oedolion 16+ oed Cymru yn ôl rhywedd, oedran a'r aelwydydd a amcangyfrifir sydd â phlant o dan 16 oed.
CANFYDDIADAU ALLWEDDOL:
- Mae’n ymddangos bod lefelau cyffredinol gweithgarwch corfforol oedolion yn debyg i'r rhai cyn cyflwyno cyfyngiadau COVID-19 am y tro cyntaf ym mis Mawrth.
- Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y pandemig wedi ehangu anghydraddoldeb o ran cyfranogiad ar draws rhywedd, statws economaidd-gymdeithasol, salwch neu gyflyrau tymor hir, ac oedran.
- Er bod tystiolaeth i awgrymu pegynnu o ran gweithgarwch yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol (gyda chynnydd yn nifer y bobl yn gwneud 'dim gweithgarwch corfforol' a gweithgarwch corfforol 'bob dydd'), mae'r arolwg presennol yn awgrymu gwrthdroi'r duedd hon gyda mwy o oedolion bellach yn gwneud 'rhywfaint' o weithgarwch.
- Ers mis Mai bu cynnydd yng nghyfran yr oedolion sy'n ymgymryd â gweithgareddau y tu allan i'r cartref, a gostyngiad ar yr un pryd mewn gweithgareddau yn y cartref.
- Mae'r adborth o'r arolwg hwn yn awgrymu bod plant yng Nghymru bellach yn gwneud mwy o chwaraeon/gweithgarwch corfforol y tu allan i'r ysgol na chyn cyflwyno cyfyngiadau COVID-19 am y tro cyntaf. Mae'r eithriad yma ar gyfer oedolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is sy'n fwy tebygol o ddweud bod eu plentyn/plant yn gwneud llai o weithgarwch nawr ar ddiwrnod nodweddiadol dros y penwythnos.
- Mae dwy ran o dair o oedolion yng Nghymru yn cytuno ei bod yn bwysig ymarfer yn rheolaidd. Bu cynnydd bach yng nghyfran yr oedolion sy'n ymarfer i helpu i reoli eu hiechyd corfforol a meddyliol yn ystod y pum mis diwethaf.
- Mae cyfran yr oedolion sydd wedi cael eu hannog i ymarfer gan ganllawiau'r Llywodraeth wedi gostwng o 43% ym mis Mai i 35% ar hyn o bryd.
- Dywed llai o bobl eu bod yn colli'r mathau o weithgarwch yr oeddent yn gallu eu gwneud cyn cyflwyno cyfyngiadau COVID-19 am y tro cyntaf (o 56% yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol i 49% ar hyn o bryd).
- Parciau yw'r lleoliad lle mae oedolion fwyaf tebygol o deimlo'n hyderus yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd – mae 61% yn dweud eu bod yn teimlo'n hyderus i gymryd rhan yn y gofod hwn. Mae hyn yn cymharu â 25% mewn pyllau nofio, 25% mewn campfeydd, ac 20% mewn neuaddau chwaraeon.
- Er bod 48% o oedolion yn poeni am adael y cartref i ymarfer neu fod yn actif yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol, mae'r ffigur hwn bellach wedi gostwng i 36%.
- Mae oedolion yng Nghymru yn fwyaf tebygol o droi at y GIG, cynghorau lleol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol/meddygon teulu am wybodaeth ddibynadwy am sut i fod yn actif.
- Roedd 25% o oedolion yng Nghymru wedi chwilio am wybodaeth ac arweiniad am chwaraeon/gweithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac, o blith y rhain, llwyddodd tri chwarter i gael gafael ar y manylion. Dywedodd 83% o'r rhai a gafodd yr wybodaeth ei bod yn 'glir'.
- Dywed llai o oedolion bod ganddynt 'fwy o amser' (58%) i fod yn gorfforol actif ar hyn o bryd o gymharu ag yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ym mis Mai (66%).
- Yn gyffredinol, mae oedolion yng Nghymru’n tueddu i gytuno y dylid rhoi eithriadau i bobl sydd dan gyfyngiadau lleol fel eu bod yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus, yn enwedig athletwyr proffesiynol. Dylid nodi, fodd bynnag, nad yw oedolion hŷn, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a'r rhai sydd â chyflwr neu salwch tymor hir yr un mor debygol o gytuno.
- O blith yr oedolion hynny sydd wedi dweud eu bod wedi defnyddio campfeydd dan do/ ystafelloedd iechyd a ffitrwydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd 82% eu bod yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r cyfleuster. Roedd cyfran debyg (81%) o oedolion a ddefnyddiodd byllau nofio dan do hefyd yn teimlo'n gyfforddus.