Skip to main content

Cronfa Cymru Actif

Gyda Chronfa Cymru Actif, gall clybiau a sefydliadau cymunedol sydd â ffyrdd newydd o gyflwyno gweithgareddau a phrosiectau chwaraeon wneud cais am gyllid. Gall clybiau hefyd brynu offer hanfodol fel peli, bibiau, gwisg, ac offer chwaraeon arall, a gallant hefyd gyllido cyrsiau hyfforddi ar gyfer eu gwirfoddolwyr a all alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.

 

Os oes gennych chi gais arfaethedig gyda ni eisoes, gallwch chi fewngofnodi o hyd i’n porthol ceisiadau.

Sylwch na fydd y Tîm Buddsoddiadau yn y swyddfa rhwng 25 Rhagfyr 2024 ac 1 Ionawr 2025.

Mae Cronfa Cymru Actif ar agor ar hyn o bryd ac yn derbyn ceisiadau am gyllid.

Mae cyfanswm o £1m yn weddill ar gael ar gyfer clybiau chwaraeon a sefydliadau nid-er-elw yn ystod y ffenestr hon.

Bydd angen cwblhau'r ceisiadau yn llawn erbyn10am ar ddydd Llun 13eg Ionawr.

Os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus yn eich cais am grant gan Gronfa Cymru Actif ers 1 Ebrill 2024, nid ydych yn gymwys i wneud cais eto tan 1 Ebrill 2025 ac mae eich grant llwyddiannus wedi ei gau.

Cyflwynwch ddatganiad o ddiddordeb yn gynnar i sicrhau eich bod yn gadael digon o amser i gwblhau eich cais cyn y dyddiad cau.

Mae'r Tîm Buddsoddiadau yn derbyn nifer fawr o Ddatganiadau o Ddiddordeb ar hyn o bryd. Byddwn yn anelu at ymateb o fewn dau ddiwrnod gwaith, ond gall gymryd ychydig yn hirach nag arfer.

Oherwydd galw uchel, efallai na fydd yn bosibl cefnogi pob cais cymwys. Felly, bydd prosiectau'n cael eu blaenoriaethu ar sail eu heffaith gymunedol. Rydym yn annog unrhyw ymgeiswyr aflwyddiannus i ailymgeisio yn ystod y ffenestr gyllido nesaf ym mis Ebrill 2025.

Dyma ragor o wybodaeth am ddiweddariad Cronfa Cymru Actif.

Beth yw Cronfa Cymru Actif?

Mae Cronfa Cymru Actif yn rhaglen grant sy’n helpu clybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i wella mynediad at weithgarwch corfforol. Mae'n darparu rhwng £300 a £50,000 i gefnogi prosiectau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac arloesi mewn chwaraeon.

Pwy sy'n gymwys?

Gall pob clwb neu sefydliad nid-er-elw yng Nghymru wneud cais, dim ots beth yw eu maint neu leoliad, os oes gan eich clwb yr holl ofynion perthnasol i gyllid yn eu lle.

I fod yn gymwys ar gyfer Cronfa Cymru Actif, rhaid i'ch sefydliad fod fel a ganlyn:

  • Clwb chwaraeon neu sefydliad cymunedol nid-er-elw.
  • Cael ei gynnal yng Nghymru a bod ar gyfer pobl Cymru yn bennaf.
  • Mae’r cyllid yn gymwys ar gyfer prosiectau neu weithgareddau sydd heb ddechrau eto.
  • Defnyddio’r arian ar gyfer y gymuned gyfan, nid dim ond er budd ysgol benodol.
  • Bodloni gofynion y ffurflen Mynegi Diddordeb.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac arloesedd mewn prosiectau chwaraeon.
  • Dangos sut bydd y prosiect yn cynyddu mynediad i weithgarwch corfforol.

Beth fyddwn yn ei gefnogi?

  • Prynu offer sy'n galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.
  • Uwchsgilio gwirfoddolwyr mewn meysydd lle nad oes gan eich clwb arbenigedd neu brofiad.
  • Datblygu prosiectau arloesol sy'n hyrwyddo gweithgarwch corfforol mewn ffyrdd newydd neu wahanol.
  • Defnyddio technoleg i gynnwys mwy o bobl mewn gweithgarwch corfforol.
  • Estyn allan at bobl sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

 

Sut i wneud cais? 

Gallwch wneud cais gyda ni ar-lein. Llenwch ein Ffurflen Mynegi Diddordeb a byddwn yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith gyda rhagor o wybodaeth am wneud cais.

Dewch o hyd i mwy o wybodaeth yma am sut i wneud cais am y Gronfa Cymru Actif.

Cyn i chi wneud cais, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu ag o leiaf un o'r grwpiau hyn i gael arweiniad gyda’ch cais:

  • Eich corff rheoli cenedlaethol os oes gennych chi un.
  • Adran datblygu chwaraeon eich awdurdod lleol.
  • Unrhyw sefydliadau cefnogi eraill perthnasol.

Cofiwch bod posib cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu yn Saesneg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Rydym yn argymell yn gryf bod y rhai sy'n gwneud cais am gyllid gyda ni yn darllen ein telerau ac amodau ar gyfer grantiau

Os oes gennych chi gais arfaethedig gyda ni eisoes, gallwch chi fewngofnodi o hyd i'n porthol ceisiadau.

Sut mae’r cyllid yn cael ei ddyfarnu?

Y dyfarniad isafswm yw £300 a’r dyfarniad uchafswm yw £50,000*.  

Mae’r cyllid yn cael ei ddyfarnu ar raddfa symudol:

  • Grant o 100% hyd at £10,000
  • Grant o 90% ar gyfer dyfarniadau rhwng £10,001 a £25,000
  • Grant o 80% ar gyfer dyfarniadau rhwng £25,001 a £50,000

 

*Bydd angen cyfraniad isafswm o 10% o gyfanswm cost y prosiect ar gyfer ceisiadau dros £10k, a chyfraniad isafswm o 20% o gyfanswm cost y prosiect ar gyfer ceisiadau dros £25k.

Ni fydd pob eitem sy'n gymwys am gyllid yn derbyn isafswm o 80% o ddyfarniad yn awtomatig. Mae rhai eitemau penodol wedi'u capio ar 50% o gostau'r prosiect, neu i derfyn ariannol penodol, ac rydyn ni'n annog yr ymgeiswyr i ofyn am eglurhad lle bo angen

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi wneud cais? 

Byddwn yn adolygu eich ffurflen ac yn ceisio gwneud penderfyniad o fewn 2 ddiwrnod gwaith. 

Ble gallaf gael cefnogaeth?

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau i gefnogi clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Ewch i'n tudalen Adnoddau ni am gyngor i helpu i redeg eich clwb yn effeithiol a datblygu, a all fod yn ddefnyddiol yn eich cais.

Sut i gysylltu  ni

Sylwch na fydd y Tîm Buddsoddiadau yn y swyddfa rhwng 25 Rhagfyr 2024 ac 1 Ionawr 2025.

Gallwch anfon e-bost gydag ymholiadau atom ni arBEACTIVE@SPORT.WALES

Neu ffonio’r llinell gymorth ar 0300 3003102, dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10:00 a 12:30 ac 1:15 a 16:00.

Os nad ydych yn gallu cael gafael ar aelod o'n tîm, arhoswch ar y lein oherwydd gall ein gwasanaeth neges llais fod o gymorth hefyd y tu allan i'n horiau gwaith.

Mwy o gefnogaeth

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau i gefnogi clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Ewch i'n tudalen Adnoddau am gyngor i helpu gyda gweithredu eich clwb yn effeithiol a’i ddatblygu, a all fod yn ddefnyddiol yn eich cais. 

Gwyliwch ein hastudiaeth achos diweddaraf

Dynion a merched yn chwarae pêl gôl

Sign-up to our funding and support newsletter below.

* ofynnol