Gydag aelodau rhwng naw a 95 oed bywiog iawn, mae Cymdeithas Bowls Dan Do Sir Faesyfed yn Llandrindod yn ymfalchïo mewn dull cynhwysol o weithredu sy'n croesawu unrhyw un sy'n awyddus i chwarae yn ei stadiwm safonol rhyngwladol chwe rinc.
Felly, pan glywyd am Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, dyma weld cyfle gwych i annog mwy o chwaraewyr â nam ar eu symudedd i gymryd rhan yn y gamp.
Paul Vaughan, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, sy’n esbonio: "Mae gennym ni nifer o chwaraewyr sy'n defnyddio cadair olwyn felly fe aethon ni ati i wneud cais am gymorth i drosi cadair olwyn faniwal i fod yn un modur. Bydd yn helpu’r aelodau i chwarae'n annibynnol, heb fod angen gwirfoddolwr i'w gwthio i fyny'r rinc. Wrth gwrs, mae hyn hefyd yn gwneud bywyd yn haws o ystyried sefyllfa barhaus y coronafeirws a'r cadw pellter cymdeithasol sydd ei angen.
"Bydd cael ail gadair olwyn fodur yn ein helpu ni i wneud ein rinc yn fwy croesawus fyth i fowlwyr anabl. Mae gennym ni hyfforddwyr ardderchog ar lefel clwb, canolradd ac uwch ac mae dau o'n bowlwyr cadair olwyn ni wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru mewn twrnameintiau rhyngwladol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at feithrin mwy o dalent a hefyd gwahodd chwaraewyr i fwynhau ochr gymdeithasol wych bowls."
Mae ymchwil yn awgrymu bod lefelau gweithgarwch corfforol oedolion dros 55 oed yng Nghymru wedi gostwng yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf yng ngwanwyn 2020 a, gyda rhwystr ychwanegol tywydd y gaeaf, bydd llawer o bobl hŷn yn gweld y cyfyngiadau presennol yn eithriadol anodd.
Ond mae bod yn actif yn hanfodol bwysig i iechyd meddwl a chorfforol unigolyn, felly mae Chwaraeon Cymru yn annog clybiau ledled y wlad i ystyried sut gellid defnyddio Cronfa Cymru Actif i gefnogi syniadau ar gyfer gwella cyfleoedd i bobl hŷn ddychwelyd yn hyderus at chwaraeon unwaith bydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.
Er mwyn helpu i roi ei chynlluniau ar waith, gwnaeth Cymdeithas Bowls Dan Do Sir Faesyfed gais llwyddiannus am grant o £3,627 drwy elfen 'Cynnydd' Cronfa Cymru Actif. Mae’n un o fwy nag 800 o glybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru sydd wedi elwa o gyfran o fwy nag £1.8m drwy Gronfa Cymru Actif ers dechrau'r pandemig.
Mae mwy ar gael o hyd i Chwaraeon Cymru ei ddosbarthu diolch i arian gan Lywodraeth Cymru a chyllid sydd wedi cael diben newydd gan y Loteri Genedlaethol, ac mae Cronfa Cymru Actif bellach wedi'i symleiddio i'w gwneud yn haws i glybiau wneud cais am y cyllid sydd arnynt ei angen.
Yn ogystal â chefnogi clybiau sydd â syniadau i 'ddatblygu' eu darpariaeth, mae grantiau ar gael o hyd i ddiogelu clybiau sy'n wynebu colledion refeniw difrifol yn ystod y cyfyngiadau symud presennol, yn ogystal â helpu clybiau i baratoi i sicrhau bod eu gweithgareddau’n ddiogel o ran Covid unwaith bydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.