Main Content CTA Title
- Beth yw'r gweithdrefnau profi sy'n ofynnol ar gyfer y gystadleuaeth rydych chi'n ei mynychu?
- Byddwch yn barod am y posibilrwydd o ganlyniad prawf positif annisgwyl wrth deithio.
- Nid yw'n ofynnol i athletwyr fynd i gwarantin am 14 diwrnod ar ôl dychwelyd i'r DU oherwydd caniatâd arbennig. Os byddant yn cael anaf wrth deithio a bod angen mynediad at ymchwiliadau meddygol yn y DU, cofiwch y bydd arnynt angen canlyniad prawf negatif os oes angen hyn o fewn 14 diwrnod i ddychwelyd.
- Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am fynediad at brofion, cysylltwch â'ch swyddog meddygol COVID-19 ynghylch sicrwydd ansawdd darparwyr profion.
- Edrychwch ar 'siart llif profion positif' Chwaraeon Cymru a dogfennau 'canllawiau profi, olrhain a diogelu' i gael esboniad pellach o brofi.