Gwybodaeth gyfarwyddyd ar gyfer hyfforddwyr ac athletwyr cyrff rheoli cenedlaethol.
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer hyfforddwyr ac athletwyr cyrff rheoli cenedlaethol gyda’r cyfarwyddyd yn cael ei rannu yn ddwy ran:
- Addasu hyfforddiant yn ystod cyfyngiadau COVID-19
- Dychwelyd at hyfforddiant llawn ar ôl codi cyfyngiadau COVID-19
Nid canllaw yw’r ddogfen hon, ond dogfen gyfarwyddyd. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn seiliedig ar ‘farn arbenigol’ gan fod diffyg tystiolaeth ar hyn o bryd am COVID-19. Felly bydd y cyfarwyddyd hwn yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru yn rheolaidd wrth i ni ddysgu mwy am COVID-19. Felly rydych yn cael eich cynghori i wirio’n rheolaidd am ddiweddariadau.
Dylid defnyddio’r cyfarwyddyd hwn gan gadw’n llym at ganllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru.
Nid yw’r cyfarwyddyd hwn ar gyfer y rhai sydd â symptomau COVID-19 neu sydd wedi cael y symptomau hyn.
1. Addasu hyfforddiant
Yn ystod y pandemig hwn mae’n bwysig ymarfer yn rheolaidd ar lefelau dwysedd cymedrol gan fod hyn yn rhoi hwb i’r swyddogaeth imiwnedd a gall helpu i leihau’r risg o salwch. Gall dwyseddau hyfforddi uchel, cyfnodau o hyfforddi dwys a hyfforddiant egnïol estynedig amharu ar y swyddogaeth imiwnedd, gan gynyddu’r risg o salwch. Mae hyn yn golygu nad dyma’r amser i wneud sesiynau hyfforddi caled neu hir. Y flaenoriaeth yw cynnal y lefelau ffitrwydd a chryfder presennol drwy gydol y cyfnod hwn, gan gynyddu’n raddol yn ôl i hyfforddiant llawn.
Argymhellion
- Peidiwch ag ymarfer os oes gennych chi unrhyw amheuaeth bod gennych chi symptomau coronafeirws
- Rhaid cadw pellter cymdeithasol ym mhob agwedd ar eich hyfforddiant corfforol
- Dylech leihau eich llwyth hyfforddi llawn oddeutu 10%. Mae’r llwyth hyfforddi’n cynnwys y dwysedd a’r hyd
- Ni fyddai’n ddoeth cynyddu dwysedd neu hyd y sesiynau yn ystod y cyfnod hwn
- Rhaid rheoli newidiadau yn yr hyfforddiant cyffredinol yn ofalus
- Cynlluniwch wythnos adfer neu addasu bob 2il neu 3ydd wythnos yn y cylch hyfforddi
Mae adnoddau’r GIG a gofal iechyd preifat dan straen sylweddol ar hyn o bryd gan arwain at ailneilltuo llawer o’r gwasanaethau a ystyrir fel rhai rheolaidd fel rheol. O ystyried hyn, ein hargymhelliad yw eich bod yn gwneud addasiadau i sesiynau ac amgylcheddau hyfforddi, er mwyn lleihau’r risg bosib o anaf ac i leihau’r angen am ddefnyddio adnoddau gofal iechyd cyfyngedig.
2. Dychwelyd at hyfforddi ar ôl cyfyngiadau COVID-19
Nod y ddogfen hon yw cynorthwyo gyda chael aelodau i ddychwelyd at eu llwyth hyfforddi llawn wedi cyfnod o lai o hyfforddiant neu hyfforddiant wedi’i addasu. Drwy gyfrwng cynnydd graddol mewn hyfforddiant, yn seiliedig ar yr addasiadau hyfforddi cyfredol, bydd cyfle i bob aelod ddychwelyd at eu llwyth hyfforddi blaenorol yn y ffordd fwyaf effeithlon bosib a lleihau’r risg o anaf, salwch a rhagor o amser ddim yn hyfforddi.
Ystyriaethau
- Bydd rhai athletwyr yn gallu dychwelyd at hyfforddiant ‘normal’ yn gynt nag eraill a bydd eraill yn cymryd mwy o amser
- Dylid defnyddio llwyth hyfforddi’r athletwyr cyn argyfwng COVID-19 fel y lefel rydych yn anelu at ddychwelyd ati
- Defnyddiwch eich dull mesur arferol o lwyth hyfforddi (e.e. pellter, amser hyfforddi, cyfradd y galon, ac ati)
- Dylid defnyddio’r ymdrech ymddangosiadol mewn sesiynau hyfforddi a’r adfer/iechyd ar ôl hyfforddi er mwyn helpu i lywio cynnydd. Ymdrech ymddangosiadol yw sut rydych yn teimlo o ran pa mor anodd oedd sesiwn penodol ar y diwrnod hwnnw.
Beth os nad wyf yn gallu ymarfer fel arfer?
Gall ychydig bach o hyfforddiant fod yn fuddiol. Mae ymchwil gwyddonol wedi dangos bod gwneud ychydig bach o hyfforddiant bob wythnos yn gallu lleihau’r dirywiad mewn cryfder a dygnedd aerobig yn fawr. Bydd parhau â rhywfaint o hyfforddiant hefyd yn helpu i gyflymu’r dychwelyd at hyfforddi llawn.
Beth os nad wyf yn gallu ymarfer o gwbl?
Peidiwch â chynhyrfu! Mae sawl esiampl wedi bod o athletwyr elitaidd yn peidio ag ymarfer am gyfnod hir o amser oherwydd beichiogrwydd, anafiadau neu gyfnodau gorffwys wedi’u cynllunio, ond eto maent yn dod yn ôl yr un mor gryf neu’n gryfach. Mae ymchwil wedi dangos hefyd, yn dilyn 8 wythnos o beidio â hyfforddi, y gallwch chi ddychwelyd at lefelau tebyg o ffitrwydd ar ôl 8 wythnos o ailhyfforddi. Mae’n bwysig dilyn cynnydd synhwyrol o ran llwyth hyfforddi yn ystod y cyfnod hwn, a dilyn arweiniad.