Canfyddiadau allweddol Arolwg Addysg Bellach 2018
Cymerodd pob coleg Addysg Bellach yng Nghymru ran yn yr arolwg gyda bron i 4000 o fyfyrwyr yn llenwi holiadur ar-lein. Mae hynny’n 8% o’r dysgwyr cymwys.
• Mae 43% o’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos. Mae’r ganran wedi gostwng 6 phwynt canran ers 2015. Dywedodd 36% yn 2018 nad ydynt yn gwneud unrhyw weithgarwch rheolaidd.
• Fel gyda chanfyddiadau’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, mae bwlch rhwng y rhywiau mewn cymryd rhan. Mae 50% o fyfyrwyr gwrywaidd yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 36% o fyfyrwyr benywaidd. Er bod y bwlch hwn wedi lleihau ers 2015 o 5 pwynt canran, mae’n fwlch mwy nag a welir ymhlith disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd (Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2018).
Cymerodd 32% o’r myfyrwyr ran mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol un waith yr wythnos o leiaf yn y coleg (37% gwryw; 27% benyw). Y tu allan i’r coleg, cymeroddd 60% ran unwaith yr wythnos neu’n amlach – 64% o fyfyrwyr gwrywaidd a 56% o fyfyrwyr benywaidd. Mae myfyrwyr 16 i 19 oed yn fwy tebygol o fod yn gyfranogwyr rheolaidd na myfyrwyr 20 oed neu hŷn.
• Mae tua hanner y myfyrwyr yn dweud bod eu hiechyd yn ‘dda’ neu ‘dda iawn’ – 53% yn gyffredinol. Roedd 16% yn meddwl bod eu coleg yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach ac roedd y myfyrwyr gwrywaidd (18%) yn fwy tebygol na’r myfyrwyr benywaidd (14%) o feddwl hyn.
• Mae 54% o’r myfyrwyr yn hyderus yn rhoi cynnig ar chwaraeon newydd (67% o fyfyrwyr gwrywaidd a 43% o fyfyrwyr benywaidd).
• Roedd 22% o’r myfyrwyr wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon yn ystod y 12 mis diwethaf, gan roi eu hamser yn wirfoddol heb dâl i helpu i redeg gweithgareddau chwaraeon. Roedd myfyrwyr yn fwy tebygol o wirfoddoli fel hyfforddwyr (67%) neu ddyfarnwyr/swyddogion (20%), gan helpu i gefnogi darparu chwaraeon.