Prif ganfyddiadau Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2018 Chwaraeon Cymru
Mae’r canlyniadau’n dangos bod y cynnydd a welwyd rhwng 2011 a 2015 mewn arolygon blaenorol wedi’i gynnal, gyda 48% o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ychwanegol at wersi AG ar yr amserlen.
Hefyd mae ffigurau 2018 yn awgrymu bod y bwlch cymryd rhan yn cau ar gyfer rhai grwpiau mwy anodd eu cyrraedd.
- Mae 45% o blant ag anabledd neu nam yn cymryd rhan yn awr mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos (yn ychwanegol at wersi AG ar yr amserlen), i fyny o 40% yn 2015. Mae’r ffigur yn dangos cynnydd mwy fyth wrth ychwanegu ymatebion gan ysgolion Anghenion Addysgol Arbennig, gan fynd â’r ffigur i fyny i 47%.
- Mae’r grŵp lleiafrif ethnig gyda’r cyfranogiad isaf, Asiaidd Prydeinig, wedi cynyddu nifer ei gyfranogwyr rheolaidd o 36% i 40%, gan ddod â hwy’n nes at y cyfartaledd cenedlaethol.
- Yn y cyfamser, mae’n ymddangos bod bwlch mwy ystyfnig rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig, gyda 42% o blant o’r cartrefi mwyaf difreintiedig yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos (yn ychwanegol at wersi AG ar yr amserlen), i lawr o 43% yn 2015.
Am y tro cyntaf, mae pobl ifanc wedi cael nodi eu rhyw fel gwryw, benyw neu arall, gan ddarparu gwybodaeth newydd bwysig.
Yn 2018, cymerodd 46% o ferched ran mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â 50% o fechgyn. Yn 2015, dywedodd 44% o ferched a 52% o fechgyn eu bod yn cymryd rhan yn rheolaidd. Er nad oes modd llunio cymariaethau uniongyrchol oherwydd y ddeinameg cwestiynau newydd, mae’r ffigurau’n awgrymu cau o bosib ar y bwlch rhwng y rhywiau.
Mae 39% o’r rhai a ymatebodd fel ‘arall’ wedi dweud eu bod yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos.