Arolwg Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol
Am Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC) yn arolwg cenedlaethol gynrychioliadol o aelwydydd sydd wedi'i dargedu at oedolion (16 oed a hŷn).
Mae ACC yn cynnwys tua 12,000 o bobl bob blwyddyn ac yn ymdrin ag ystod eang o bynciau. Mae'n weithrdol drwy'r flwyddyn, ledled Cymru gyfan. Defnyddir y canlyniadau gan Lywodraeth Cymru i helpu i wneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo. Ers 2019-20 mae’r arolwg wedi cael ei weinyddu fel arolwg dros y ffôn. Er bod hynny’n sicrhau parhad a chanlyniadau ystadegol gywir, mae angen gofal wrth gymharu canlyniadau 2019-20 gyda 2021-22 oherwydd y newid anochel hwn mewn methodoleg a chynllun y cwestiynau.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys adran ar Chwaraeon a Ffyrdd Actif o Fyw. Rhyddhawyd prif ganfyddiadau arolwg 2022-23 ar Orffennaf 11eg 2023 fel Ystadegau Swyddogol.
Prif Ganfyddiadau
Y prif ganfyddiadau o’r adran Chwaraeon a Ffyrdd Actif o Fyw yn arolwg 2022-23 yw:
Cyfranogiad
39% o bobl yn dweud eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Cynyddodd nifer y bobl sy’n dweud eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos o 34% yn 2021-22 i 39% yn 2022-23.
Fe wnaethom ofyn i bobl pa weithgareddau maent yn cymryd rhan ynddynt.
- Dywed 56% o bobl eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ffitrwydd (fel dosbarthiadau ffitrwydd, rhedeg/loncian, beicio, neu nofio) ac mae 16% yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu gemau (fel pêl-droed, rygbi, tennis bwrdd neu golff). Mae 6% yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel caiacio neu hwylio.
Galw
Gofynnwyd i bobl hefyd a oedd unrhyw chwaraeon neu weithgareddau yr hoffent eu gwneud, neu wneud mwy ohonynt.
- Dywed 27% eu bod am wneud mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn gyffredinol, gostyngiad o 31% yn 2021-22.
- Yn 2022-23, mae 16% yn dweud eu bod eisiau gwneud mwy o weithgareddau ffitrwydd a 10% eisiau gwneud mwy o chwaraeon neu gemau, a 5% eisiau gwneud mwy o weithgareddau awyr agored. Mae’n ymddangos bod y gostyngiad hwn yn y galw cyffredinol yn bennaf oherwydd y gostyngiad yn nifer y bobl sydd eisiau gwneud mwy o weithgareddau ffitrwydd, gan fod hyn yn 20% yn 2021-22.
- Mae 26% o’r holl bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos ac yn dweud eu bod yn fodlon ar y swm hwnnw, tra bo 13% o bobl yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos a hoffent wneud mwy. Mae 14% o bobl yn cymryd rhan yn llai aml na theirgwaith yr wythnos a hoffent hefyd wneud mwy o weithgareddau chwaraeon.
Mae prif ganfyddiadau a gwybodaeth gefndir ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Arolwg Cenedlaethol Cymru | LLYW.CYMRU.
Bydd canlyniadau pellach sy'n archwilio'r canlyniadau hyn yn ôl ystod o ffactorau cymdeithasol a geo-ddemograffig ar gael yr hydref hwn ac yn cael eu rhyddhau ar wefan Chwaraeon Cymru: Ystadegau | Chwaraeon Cymru.
Dosbarthu ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’, ‘Chwaraeon a Gemau’, a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’.
Grŵp Eang | Is Gategori |
Gweithgaredd Ffitrwydd | Wedi ymarfer gartref / ar-lein |
Dosbarthiadau Ffitrwydd (Yn bersonol) | |
Ymarfer Corff yn y Gampfa (e.e. cardio, pwysau) | |
Dosbarthiadau Dawns | |
Beicio (e.e. beicio mynydd, BMX, beicio awyr agored neu feicio trac arall) | |
Nofio | |
Cerdded | |
Loncian neu Rhedeg | |
Gemau a Chwaraeon | Chwaraeon Tîm |
Chwaraeon Raced | |
Gemau Dan Do | |
Bowlio neu Fowls | |
Chwaraeon Brwydr neu Grefftau Ymladd | |
Golff | |
Saethu neu Saethyddiaeth | |
Athletau | |
Triathlon, deuathlon neu aml-chwaraeon eraill | |
Gweithgareddau Awyr Agored | Chwaraeon mynydd (e.e dringo neu sgïo) |
Chwaraeon modur | |
Pysgota neu enweirio | |
Marchogaeth ceffylau | |
Sglefrio neu sglefrfyrddio | |
Chwaraeon dŵr (e.e caiacio, syrffio, hwylio) |
Newyddion Diweddaraf
97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni
Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…
£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru
Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…
Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024
Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…