Mae Athrofa Gwyddoniaeth Perfformiad Cymru (WIPS) yn cael ei harwain gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â phartneriaid academaidd (Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru) gan gynnal prosiectau gwyddoniaeth perfformiad cymhwysol amlddisgyblaethol ac arloesol ar lefel byd sy’n gwella perfformiad athletwyr a busnesau Cymru. Dyma bartneriaeth dair ffordd rhwng Chwaraeon Cymru, gwyddonwyr chwaraeon academaidd blaenllaw Cymru a phartneriaid diwydiant perthnasol.
Athrofa Gwyddoniaeth Perfformiad Cymru
Crynodeb
Mae WIPS yn cynnal ymchwil effaith uchel yn unol â strategaethau Chwaraeon Cymru, gan annog a sicrhau effaith orau’r ymchwil, yr arloesi a’r dechnoleg ddiweddaraf i helpu i wella perfformiad athletwyr ein cenedl.
Un cryfder allweddol gan WIPS yw’r perthnasoedd sydd wedi’u creu gyda diwydiant ac academia ym maes gwyddoniaeth chwaraeon, meddygaeth, gwyddoniaeth a pheirianneg i ddatblygu, profi a chyflwyno arloesi sy’n sicrhau manteision perfformiad mewn chwaraeon elitaidd ac mewn meysydd ehangach fel iechyd a meddygaeth.
Caiff hyn ei gydlynu drwy’r bwrdd rheoli strategol a’r grŵp llywio ymchwil sy’n cynnwys arbenigwyr cydnabyddedig mewn Gwyddoniaeth a Meddygaeth Chwaraeon; yn benodol, gwyddoniaeth hyfforddi, maeth, cryfder a chyflwr, ffisioleg perfformiad, Gwyddoniaeth Data, Adnabod talent a throsglwyddo, Ffisiotherapi, Chwaraeon anabledd, Iechyd a lles athletwyr, Llywodraethu a didwylledd moeseg chwaraeon, chwaraeon ieuenctid, ffisioleg amgylcheddol, meddygaeth chwaraeon, biomecaneg, dadansoddi perfformiad a seicoleg, ac mewn cydweithrediad ag Athrofa Chwaraeon Cymru a Chyrff Rheoli Cenedlaethol.
Cefnogir yr ymchwil gan grantiau Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru.
“Mae cydweithredu ag Athrofa Gwyddoniaeth Perfformiad Cymru yn gyfle i ni wneud defnydd o gymuned academaidd gadarnach Cymru i greu atebion ymarferol i helpu ein hathletwyr i ragori ar lwyfan y byd,” Brian Davies, Cyfarwyddwr Chwaraeon Elitaidd Chwaraeon Cymru.
Esiamplau o gefnogaeth a ddarperir gan Athrofa Gwyddoniaeth Perfformiad Cymru
Mae cydweithio â’r rhwydwaith ehangach o arbenigwyr wedi cael effaith gadarnhaol ar chwaraeon yng Nghymru eisoes.
1. Goruchwylio anafiadau mewn rygbi ieuenctid merched yng Nghymru
Mae arbenigwyr o WIPS / Prifysgol Bangor wedi cael cefnogaeth gan World Rugby ac Undeb Rygbi Cymru i sefydlu un o’r astudiaethau ymchwil cyntaf ledled y byd i fynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth am risg o anafiadau sydd ar gael mewn rygbi merched ifanc, yn benodol yn y gêm gymunedol. Mae'r prosiect tair blynedd yn monitro anafiadau mewn gemau rygbi merched ar draws Gogledd Cymru i asesu’r risg o anafiadau.
Bydd yr ymchwil yn cael effaith fawr ar draws y byd rygbi: gwneud y gêm yn ddiogelach a rhoi'r chwaraewr yn gyntaf; nodi risgiau lles i chwaraewyr benywaidd ifanc; ymchwilio i ffyrdd o leihau'r risgiau hyn ac wedyn datblygu a rhannu canllawiau arfer gorau.
2. Lles ac iechyd meddwl athletwyr elitaidd: astudiaeth achos gyfunol
Ers yr Adroddiad Dyletswydd o Ofal mewn Chwaraeon, a ryddhawyd yn 2017 gan y Fonesig Tanni Grey-Thompson, mae sylw cynyddol wedi bod ar les ac iechyd meddwl athletwyr yn y DU. Bu ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe ac ymarferyddion yn nhîm seicoleg Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda Jiwdo Cymru a Beicio Cymru i ddeall y ffactorau allweddol sy'n effeithio ar les ac iechyd meddwl athletwyr perfformiad.
Wedyn defnyddiwyd yr wybodaeth yma i greu cyfres bodlediad addysgol, graffeg gwybodaeth ac argymhellion i hyfforddwyr eu gweithredu yn yr amgylchedd – gyda’r cyfan wedi'i gynllunio i gefnogi a diogelu lles ac iechyd meddwl yr athletwyr. Mae'r rhain yn cael eu defnyddio a'u dosbarthu ar hyn o bryd ar draws holl gyrff rheoli chwaraeon Cymru, gyda'r nod o gynyddu hyder athletwyr i geisio help ar gyfer unrhyw bryderon a all godi.
3. Dechrau mewn nofio: mesur, pwysigrwydd a gwella drwy ymyriadau cyn ras
Nod Nofio Cymru ac arbenigwyr WIPS oedd pennu pa mor bwysig oedd y dechrau oddi ar y blociau ar ddechrau ras i berfformiad nofio cyffredinol a sut i'w wella. Buont yn ymchwilio i wahanol ymyriadau y gellid eu defnyddio i wella perfformiad, gan gynnwys ymarferion cyflyru a chynnal gwres ar ôl cynhesu gan ddefnyddio siaced gyda leinin ffoil. Daeth y canlyniadau i'r casgliad bod angen strategaethau unigol ar gyfer pob nofiwr.
O ganlyniad i'r ymchwil, mae hyfforddwyr wedi gallu deall manteision rhai strategaethau cyn-ras a'u hintegreiddio ar sail unigol gyda nofwyr i wella eu perfformiad.
Dyfodol Athrofa Gwyddoniaeth Perfformiad Cymru
Nod WIPS yw datblygu gwyddoniaeth chwaraeon ymhellach yng Nghymru, hyfforddi gwyddonwyr chwaraeon y dyfodol, gwella’r defnydd o wyddoniaeth mewn chwaraeon yng Nghymru, a chynyddu’r cydweithredu rhwng chwaraeon, academia a busnes yng Nghymru.
I barhau i wella perfformiad Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad a chynyddu nifer yr athletwyr o Gymru sy’n ennill medalau mewn Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, rhaid cyfateb a rhagori ar allu ymchwil perfformiad cystadleuwyr mewn gwledydd eraill.
Sut i gymryd rhan
Ydych chi’n fusnes neu’n academydd fedr helpu ein hathletwyr i berfformio’n well fyth?
Os felly, cysylltwch:
Yr Athro Liam Kilduff
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer
Prifysgol Abertawe
+44 (01792) 513441
[javascript protected email address]
Rhagor o Wybodaeth
Chwaraeon Perfformiad Uwch - Newyddion Diweddaraf
Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024
Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…
Arwr y byd bocsio, Lauren Price, yn canmol effaith y Loteri
Mae’r bencampwraig focsio Lauren Price wedi mynd yn ôl at ei gwreiddiau i weld sut mae cyllid y Loteri…
Tanni yn canmol effaith y Loteri Genedlaethol sy’n ‘newid y gêm’
Tanni Grey-Thompson yn dathlu'r Loteri Genedlaethol ar ei phen-blwydd yn 30 oed