Main Content CTA Title

Ein Dyletswyddau

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Ein Dyletswyddau

Rydyn ni eisiau galluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu fel bod pawb yn gallu bod yn actif a mwynhau chwaraeon am oes.

Ac fel corff sy’n cael arian cyhoeddus, mae gennym ni gyfrifoldeb i ddeall anghenion ac amgylchiadau pawb sydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon, heb ystyried eu hamgylchiadau.

Rydyn ni eisiau i chwaraeon fod yn amrywiol ac yn gynhwysol fel bod pawb yn teimlo’n hyderus ac yn mwynhau’r holl fanteision mae chwaraeon yn eu cynnig. 

Fel corff cyhoeddus, rhaid i ni gadw at ddyletswyddau cyhoeddus, sy’n golygu bod rhaid i ni ystyried a dangos sut gallwn ni gyfrannu at Gymru sy’n fwy cyfartal, cynaliadwy a ffyniannus, a Chymru decach sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yn ogystal â bod â dyletswydd tuag at y rhai sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, mae ein cyfrifoldebau yn ymestyn i sut rydyn ni’n cyflogi ac yn gofalu am ein staff. 

Pa ddyletswyddau sydd raid i ni eu bodloni?

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, 2015.

Dywed  Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ei bod yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith dymor hir eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac atal problemau cyson fel tlodi, anghydraddoldeb iechyd a newid hinsawdd.

Mae’r Ddeddf yn datgan 7 nod llesiant cenedlaethol. Mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus ddangos sut byddant yn cyfrannu at y nodau drwy amcanion clir. Mae bwriadau strategol Chwaraeon Cymru wedi cael eu datblygu i weithredu hefyd fel ein Nodau Llesiant. Mae mwy o wybodaeth am y bwriadau strategol ar gael yn strategaeth Chwaraeon Cymru.

 

Y Ddeddf Cydraddoldeb 

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn sicrhau bod y cyrff hynny sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn cyfrannu at gymdeithas decach drwy hybu cydraddoldeb yn y gweithle a thrwy’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig. Mae’r Ddeddf yn rhoi gwarchodaeth gyfreithiol i bobl rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac mewn cymdeithas yn ehangach.

Mae’n ofynnol i Chwaraeon Cymru gyhoeddi amcanion cydraddoldeb bob pedair blynedd ac adrodd ar y cynnydd yn eu herbyn yn flynyddol. Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi data proffil staff a thrwy ein cynllun blynyddol integredig rydyn ni’n dangos esiamplau o’n gwaith.

Mae datblygu ein trydydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) yn gam hanfodol tuag at sbarduno ein camau gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn ei holl ffurfiau.  Mae angen y CCS fel rhan o ymrwymiadau Chwaraeon Cymru i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.  Crëwyd y ddyletswydd cydraddoldeb hon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) 2020-2024

Dull integredig o gynllunio ac adrodd yn ôl.

Bydd ein Nodau Llesiant a’n Hamcanion Cydraddoldeb yn cael eu mesur drwy ein fframwaith canlyniadau sefydliadol a byddant yn cyd-fynd â’n bwriad strategol. 

Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddwyd ein hadroddiad cynnydd integredig cyntaf yn manylu ar sut rydym yn bodloni ein dyletswyddau o dan y ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Chydraddoldeb. 

Addroddiad Blynyddol Integredig Chwaraeon Cymru 2020-2021

Addroddiad Blynyddol Integredig Chwaraeon Cymru 2019-2020

Addroddiad Blynyddol Integredig Chwaraeon Cymru 2018-2019

Data staff

Dadansoddiad o amrywiaeth y staff yn Chwaraeon Cymru. Maen nhw’n cael eu darparu yn unol â disgresiwn y staff drwy system fyw ac felly gallant newid.

Deddf yr Iaith Gymraeg

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn Ddeddf Seneddol sy’n gosod yr iaith Gymraeg yn gyfartal â’r iaith Saesneg yng Nghymru mewn perthynas â’r sector cyhoeddus.

Wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd, mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i’r egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Mae’r adroddiad ar Safonau’r Gymraeg ar gyfer 2020-21 i’w weld yn yr Adroddiad Blynyddol Integredig ar gyfer 2020-21.

Safonau Cymraeg Chwaraeon Cymru

Polisi Iaith Gymraeg ar gyfer Grantiau