Yn 2018, comisiynwyd gwaith ymchwil gennym er mwyn deall gwerth cymdeithasol ac economaidd chwaraeon yng Nghymru yn well.
Cynhaliwyd yr ymchwil gan Ganolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon (SIRC) ym Mhrifysgol Sheffield Hallam.
Nod rhan gyntaf yr ymchwil oedd mesur effaith gymdeithasol chwaraeon yng Nghymru yn ystod 2016/17 gan ddefnyddio fframwaith Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI).
Mae SROI yn fframwaith ar gyfer deall a mesur gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol heb fod yn rhan o’r farchnad sy’n cael ei greu gan weithgaredd, sefydliad neu ymyriad. Ein hymchwil oedd y tro cyntaf i fframwaith SROI gael ei ddefnyddio i fesur cyfraniad cymdeithasol ehangach chwaraeon yng Nghymru.