Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yn un o bum felodrom dan do a gydnabyddir yn rhyngwladol ym Mhrydain.
Mae ei fyrddau wedi bod yn dyst i dalentau eithriadol Syr Chris Hoy, Syr Bradley Wiggins, Jason a Laura Kenny wrth i Team GB a ParalympicsGB ddewis trac Casnewydd fel ei leoliad ar gyfer gwersylloedd hyfforddi cyn Rio 2016, Llundain 2012, Beijing 2008 ac Athen 2004.
Cynhelir cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol ar y trac 250m yn rheolaidd a dyma ble mae talentau sêr beicio Cymru’n cael eu meithrin.
Mae enwau cyfarwydd fel Geraint Thomas, Becky James, Elinor Barker a Luke Rowe i gyd wedi gwneud cynnydd drwy bwerdy Beicio Cymru, sy’n rhestr nodedig iawn o unigolion.
Agorwyd y cyfleuster yn 2003 a’r enw gwreiddiol arno oedd Felodrom Cenedlaethol Cymru. Cafodd ei ailenwi i anrhydeddu Geraint Thomas ar ôl ei fuddugoliaeth ysgubol yn y Tour de France yn 2018.
Cyllidwyd y cyfleuster gwerth £7.5m o gyllideb y Loteri Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn rhannol.
Er ei fod wedi bod yn allweddol i lwyddiant aruthrol beicio Cymru ar y trac, mae hefyd ar agor i’r cyhoedd. Gall aelodau’r cyhoedd – gan gynnwys plant – fanteisio ar y cyfle i feicio ar y byrddau, yn ddechreuwyr neu’n feicwyr ar lefel uwch, gydag amrywiaeth eang o sesiynau ar gael.