Beth yw’r Fframwaith Llywodraethu ac Arwain?
Mae’n cynnwys saith egwyddor ac ymddygiad allweddol y dylai byrddau eu defnyddio i helpu i arwain sefydliad. Drwy fabwysiadu’r Fframwaith, mae’n haws i chi feincnodi eich cynnydd a gwella’n barhaus.
Mae wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg ac yn syml i wella arferion busnes ac arweinyddiaeth. Y nod yw bod yn gefnogol wrth weithio o ddydd i ddydd, gan wella’r ffordd mae sefydliadau’n gweithredu.
Gallwch lawrlwytho’r Fframwaith yma.
Fframwaith Gallu.
Mae gan Chwaraeon Cymru gyfrifoldeb i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi’n briodol. Mae elfen gallu’r Model Buddsoddi yn sicrhau y gall Chwaraeon Cymru fod â hyder yn y sefydliadau mae’n eu cyllido, ac mae’n galluogi Chwaraeon Cymru i gefnogi partneriaid gyda’u gwelliant parhaus o ran llywodraethu.
Wedi'i ddatblygu gyda phartneriaid, nod y fframwaith gallu yw cefnogi sefydliadau gyda'u gwelliant parhaus, gan sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi'n gyfrifol.
Mae’r Fframwaith Gallu – sy’n cyd-fynd â Fframwaith Llywodraethu ac Arwain Cymru (GLFW) 2019 – wedi’i adeiladu o amgylch meysydd llywodraethu allweddol ac mae'n canolbwyntio ar bwysigrwydd ymddygiad, moeseg a didwylledd o fewn sefydliad.
Mae’r Fframwaith Gallu yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg gyda'r prif egwyddorion wedi’u teilwra i gynnig cefnogaeth bwrpasol a chymesur sy’n berthnasol i sefydliadau o bob maint.