O 21/04/2020 ymlaen, dim ond ceisiadau am grantiau o’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng fyddwn ni’n eu prosesu. Mesur dros dro yw hwn er mwyn galluogi i ni ganolbwyntio ar ein cefnogaeth i helpu clybiau ledled Cymru i oroesi yn ystod y cyfnod heriol iawn yma. Mae’r penderfyniad yma’n seiliedig ar adborth gan glybiau a’n partneriaid, sydd wedi amlinellu i ni yr help y mae arnynt ei angen fwyaf ar hyn o bryd, yn ogystal â’r cyfyngiadau ehangach sydd yn eu lle ar hyn o bryd oherwydd COVID-19 ac sy’n golygu ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw weithgarwch datblygu chwaraeon newydd yn gallu digwydd.
Mae hyn yn golygu, am y tro, na fyddwch chi’n gallu gwneud cais am unrhyw grantiau eraill nag unrhyw gyllid, gan gynnwys y Gist Gymunedol a’r Grantiau Datblygu. Hoffem annog unrhyw un sydd eisiau cefnogaeth ar unwaith i wneud cais i’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng. Mae cyfleoedd cyllido eraill yn cael eu datblygu a bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.