Rhaglen Llysgenhadon Ifanc (Cymru)
Mae Llysgenhadon Ifanc Cymru yn fudiad arweinyddiaeth ieuenctid sy’n cael ei arwain gan yr Youth Sport Trust ac sy’n cael ei gyllido a’i gefnogi gan Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Nod y mudiad yw:
- Datblygu pobl ifanc i fod yn arweinwyr Cymru yn y dyfodol drwy chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chwarae
- Darparu cyfleoedd cadarnhaol a phrofiadau ystyrlon i bobl ifanc ‘ddysgu drwy arweinyddiaeth’
- Grymuso pobl ifanc gyda llais i ddylanwadu ar y dewisiadau o gyfleoedd i fod yn iachach ac yn fwy actif.
Cyflwynwyd y Llysgenhadon Ifanc am y tro cyntaf yng Nghymru yn 2009, ac ers hynny mae mwy na 25,000 o bobl ifanc wedi gwneud cynnydd drwy'r llwybr mewn lleoliadau addysg a chymunedol.
Mae’r Llysgenhadon Ifanc yn cael eu defnyddio i hwyluso gweithgareddau, meithrin perthyn, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael mynediad cyfartal i gyfleoedd i fod yn iachach ac yn fwy actif.