Beth yw’r Fenter Nofio Am Ddim yng Nghymru?
Lansiwyd Nofio Am Ddim am y tro cynraf yng Nghymru yn 2003. Hon oedd y rhaglen nofio am ddim genedlaethol gyntaf yng Nghymru. Y nod? Cael mwy o bobl ifanc (16 oed ac iau) a phobl dros 60 oed i ddysgu nofio a nofio’n fwy rheolaidd.
Mae’n fenter sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, ei rheoli gan Chwaraeon Cymru a’i chyflwyno gan y 22 o Awdurdodau Lleol.
Galwodd adolygiad annibynnol yn 2019 am newid y ffordd mae’r rhaglen yn gweithredu.
Newidiadau i’r Fenter Nofio Am Ddim yng Nghymru
Yn dilyn yr adolygiad annibynnol a’r canllawiau gan Lywodraeth Cymru, mae Nofio Am Ddim yn parhau i dargedu pobl ifanc a phobl hŷn dros 60 oed, ond nawr mae’n rhoi blaenoriaeth i’r rhai o ardaloedd o amddifadedd.
Y nod yw helpu’r bobl sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf o ran cyrraedd pwll nofio, felly rydym yn rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu sgil bywyd a nofio’n fwy rheolaidd.
Daeth y newidiadau i rym ym mis Hydref 2019, gan sicrhau bod y Fenter Nofio Am Ddim yn addas i bwrpas.
Mae pob awdurdod lleol a’u partneriaid darparu’n gyfrifol yn awr am ddarparu safon ofynnol o un sesiwn sblash am ddim i bobl ifanc bob penwythnos, ym mhob pwll nofio sy’n cael ei weithredu gan Awdurdod Lleol.
Ac yn ystod gwyliau’r haf, bydd disgwyl i bob pwll ddarparu dau sesiwn am ddim yn ystod yr wythnos yn ychwanegol at y sesiwn penwythnos.
Hefyd bydd pyllau’n cynnig sesiynau am ddim a gyda chymorth ariannol o bosib i bobl dros 60 oed.
Local Authorities - and their Bydd Awdurdodau Lleol – a’u partneriaid darparu, fel ymddiriedolaethau hamdden – yn gallu penderfynu sut i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa hon a chreu cynigion sy’n gwneud y defnydd gorau o’r cyllid yn lleol. Bydd hyn yn cynnwys opsiwn nofio am ddim, ond gall hefyd gynnwys cynigion nofio a/neu aml-chwaraeon gyda chymorth ariannol.