Yn Bresennol: Lawrence Conway (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir, Ian Bancroft, Rajma Begum, Dafydd Trystan Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Hannah Murphy, Judi Rhys, Yr Athro Leigh Robinson, Phil Tilley, Alison Thorne, Martin Veale
Staff: Sarah Powell (PSG), Paul Randle, Brian Davies, Graham Williams, Owen Hathway, Rachel Davies, Liam Hull, Owen Lewis (Eitem 4.3), Craig Nowell (Eitem 5.3), Amanda Thompson (cofnodion).
Arsylwyr Allanol: Y Fonesig Katherine Grainger (Cadeirydd UK Sport), Ellie Watkins (Grŵp Llywio’r Llysgenhadon Ifanc), Steve Woodfine a Paul Kindred (Eitemau 1-4.4) Llywodraeth Cymru.
1. Croeso / ymddiheuriadau am absenoldeb
Croesawodd y Cadeirydd y Fonesig Katherine Grainger i’r cyfarfod. Hefyd estynnwyd croeso i Ellie Watkins i’w chyfarfod cyntaf fel cynrychiolydd GLlLlI. Hwn oedd cyfarfod olaf Paul Randle a diolchodd y Cadeirydd yn ffurfiol iddo am ei ymrwymiad a’i ymroddiad i Chwaraeon Cymru.
2. Datgan Budd
Nicola Mead-Batten, ar gyfer ei rôl fel cynghorydd i Gomisiynydd y Gymraeg.
Phil Tilley, a fyddai’n ymuno â Bwrdd Newport Live ym mis Mawrth.
Rajma Begum, a oedd yn gyflogedig gyda WCVA, sydd wedi derbyn cyllid gan Chwaraeon Cymru.
Ian Bancroft, yn rhinwedd ei swydd fel Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf dyddiedig 27 Tachwedd 2020
· Cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod manwl gywir.
· Cadarnhaodd BD y byddai CGChC yn hwb Dadansoddi Perfformiad i Team GB yr haf yma.
· Nododd yr Aelodau Draciwr Penderfyniadau newydd Is Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd sy’n rhoi diweddariad byw ar y pynciau a’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud drwy gydol y flwyddyn.
4. Strategaeth a Chynllunio Adferiad
4.1 Cynllun Busnes 2020/21 Chwarter Tri – SW(21)02
Cyflwynodd RD y diweddariad hwn ar weithgarwch y chwarter blaenorol a’r cyflawni yn erbyn y cynllun busnes, gan amlinellu’r camau gweithredu yn y dyfodol yn datblygu o’r gwaith hwnnw.
Pwyntiau trafod:
· Byrddau crwn polisi – roedd gwahaniaeth barn ymhlith y staff, nid tuag at y polisïau eu hunain ond o ran yr opsiynau ar gyfer gweithredu. Roedd hyn yn rhan o’r broses ddatblygu.
· Roedd Hamdden Actif 60+ yn un o’r blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun HWHW a newidwyd wedyn yn ystod y flwyddyn oherwydd Covid19. Roedd rhai awdurdodau lleol wedi gallu cyflwyno sesiynau ar-lein ond nid eraill gan fod staff wedi cael eu rhoi ar ffyrlo. Roedd adroddiad gwerthuso cyntaf UKRCS i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Mai. Byddai’r dysgu ohono’n cael ei ddefnyddio i addasu’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn unol â hynny.
CAM GWEITHREDU: Rhannu adroddiad UKRCS gyda’r Bwrdd unwaith bydd ar gael (Mai / Mehefin).
4.2 Cynllun Busnes 2021/22 – SW(21)03
Dywedodd OH bod y dull adlewyrchol a ddefnyddiwyd y llynedd yn sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn gallu ymateb yn gyflym pan darodd y pandemig. Roedd yr hyblygrwydd hwn yn golygu bod Chwaraeon Cymru yn glir ynglŷn â'r hyn y gellid ei gyflawni, beth oedd angen ei israddio a pha fentrau a buddsoddiadau newydd y gellid eu cyflymu. Lluniwyd cynllun busnes 2021/22 o amgylch yr un dull gweithredu.
Pwyntiau trafod:
· Byddai'r dull hyblyg hwn o weithredu’n dod â mwy o gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid a fyddai'n helpu i leihau'r bwlch anghydraddoldeb. Roedd Chwaraeon Cymru mewn sefyllfa dda i gefnogi'r dull hwn yn eang.
· Cais am gael mwy o fanylion am ba feysydd gwaith oedd wedi’u hoedi neu eu hatal.
· Roedd y lefelau staffio ar gryfder llawn bron a byddai'r tîm Arweinyddiaeth yn monitro capasiti ac adnoddau’r staff yn ofalus wrth symud ymlaen.
· Byddai rhai meysydd o'r asesiad effaith yn cael eu nodi'n fanylach. Soniwyd am EDI a'r gwaith ymgysylltu â phobl ifanc fel enghreifftiau.
· Roedd ffrydiau incwm amgen, gan gynnwys cyllid torfol, i fod i gael eu harchwilio ymhellach.
· Byddai'r cynllun busnes terfynol yn ategu'r llythyr cylch gwaith, y trafod parhaus a'r cyfarfodydd monitro chwarterol gyda swyddogion y llywodraeth.
· Roedd y cynllun busnes yn ategu dulliau tracio eraill a oedd yn mesur cynnydd ac yn dangos llwyddiant. Nid oedd y staff eisiau bod yn rhagnodol ynglŷn â disgwyliadau.
· Nodi ble gall y Bwrdd roi mwy o gymorth i staff.
· Ychwanegu cyfeiriad at fesurau newid yn yr hinsawdd a diogelu'r amgylchedd.
· Mae angen gwella amrywiaeth gweithlu Chwaraeon Cymru o hyd.
· Byddai Chwaraeon Cymru yn ceisio gwella sgiliau a gwybodaeth yn gysylltiedig â’r gwahanol ddull o ymdrin ag atebolrwydd.
Roedd lles staff wedi cael lle blaenllaw o ran gweithredu’r sefydliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y staff yn derbyn gohebiaeth a chyswllt rheolaidd gan eu rheolwyr. Wrth symud ymlaen, dywedodd y PSG fod mwy o risg o hyd o ran lles staff, ond byddai'r tîm Arweinyddiaeth yn parhau i gadw llygad ar staff, adlewyrchu ar adnoddau a chwilio am ffyrdd o wneud pethau'n wahanol yn ôl yr angen. Byddai lles yn effeithio ar wydnwch sefydliadau yn y dyfodol ac roedd pobl bellach yn ystyried lles wrth chwilio am gyflogaeth a'u hymgyrchoedd recriwtio. Byddai'r Cadeirydd a'r PSG yn trafod gwydnwch sefydliadol ymhellach ac yn rhannu eu meddyliau gyda'r Bwrdd maes o law. Trafodwyd cefnogi adferiad economaidd lleol. Roedd Chwaraeon Cymru wedi cyflwyno tystiolaeth ar sut cyfrannodd chwaraeon at yr economi yng Nghymru a byddai'n parhau i olrhain hyn yn y blynyddoedd ôl-bandemig. Roedd yr hyn sy’n gwneud i gymunedau dyfu a ffynnu yn faes cymhleth a byddai cyllid ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y dyfodol yn rhan o fynd i'r afael â chydlyniant a lles cymunedol. Roedd y gallu i ddylanwadu ar flaenoriaethau cyllidebu Llywodraeth Cymru hefyd yn gymhleth ac yn heriol.
Mwy o fanylion a pholisïau cyffredinol Llywodraeth Cymru fyddai'r cam nesaf. Byddai'r cynllun busnes yn cael ei rannu wedyn gyda'r Bwrdd eto. Cymeradwyodd yr Aelodau'r cynllun busnes drafft mewn egwyddor.
4.3 Perfformiad a Llwyddiant
Siaradodd y Fonesig Katherine Grainger am y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd sydd i ddod yn Tokyo a sut gallai fformat y gemau amrywio o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Byddai UK Sport yn bwrw ymlaen â 'lansiad meddal' i'r cylch nesaf er bod ansicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol. Roedd hi'n falch o'r newid newydd tuag at fwy o gydweithio rhwng y pum Cyngor Chwaraeon. Gemau nesaf y Gymanwlad oedd â'r potensial gorau i arddangos pŵer chwaraeon fel grym er lles, gan godi ysbryd cenedl.
Rhoddodd BD ac OL gyflwyniad, gan edrych yn gyffredinol ar becynnau cymorth Chwaraeon Cymru a oedd wedi'u rhoi ar waith ers i'r pandemig daro a'r dulliau a'r ffyrdd newydd o weithio roedd yr Athrofa yn eu mabwysiadu o dan Strategaeth Chwaraeon Cymru. Hyd yma roedd 70% o'r rhai a oedd wedi derbyn cyllid (gan gynnwys darparwyr y sector preifat a gweithwyr llawrydd) yn awyddus i ymuno ag addewid chwaraeon. Nid oedd hyn wedi'i gynllunio'n llawn eto ond byddai'n gyfle gwych i greu rhwydweithiau a phartneriaethau newydd.
4.4 Creu System Addysg Actif – SW(21)04
Yn dilyn sesiwn manwl y Bwrdd ar addysg fis Tachwedd diwethaf cytunwyd mai'r ddwy flaenoriaeth i'w datblygu oedd creu system 'addysg actif’ ac 'ailddychmygu’r diwrnod ysgol'. Roedd y papur yn manylu ar y camau a gymerwyd yn ddiweddar a'r ymrwymiadau pellach sydd eu hangen i ddatblygu'r gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf:
· Buddsoddi £100k i roi buddsoddiad allweddol WPAP ar gyfer datblygu hyfforddiant dylunio cwricwlwm i athrawon a £50k mewn adnoddau digidol newydd sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd.
· Ymrwymiad i amser tîm Cyfathrebu a Digidol ar gyfer datblygu adnoddau, yn ogystal â chydlynu a chyfeirio at ble i gael cefnogaeth ar lefel ehangach.
· Ymrwymiad i amser tîm Polisi a Materion Cyhoeddus ar gyfer ymdrechion eiriolaeth ynghylch pwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol wrth gynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm newydd, a fframweithiau arolygu Estyn yn y dyfodol.
· Buddsoddi tua £150k mewn 'cynllun braenaru' i edrych ar ailddychmygu’r diwrnod ysgol o ran chwaraeon ac yn ddiwylliannol.
Roedd y trafod yn parhau gyda swyddogion y llywodraeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i gyfateb yr adnoddau hyn, a fyddai’n cael effaith sylweddol ar raddfa ac effaith y gwaith.
Pwyntiau trafod:
· Roedd cyfle gwirioneddol i ddatblygu ailddychmygu’r diwrnod ysgol fel rhan o'r mentrau adfer a dal i fyny ar ôl y pandemig. Byddai angen paru adnoddau yn y ddau i dri mis nesaf er mwyn hwyluso cynllun peilot. Roedd hwn yn gyfle sensitif i amser ac efallai na fyddai'n bodoli ymhen blwyddyn.
· Dylai'r cyfle hwn gynnwys gwella mynediad i chwaraeon a gweithgarwch corfforol i blant â heriau cyfranogi.
· Credai'r tîm Arweinyddiaeth fod gan Chwaraeon Cymru y gallu i ddilyn y ddwy flaenoriaeth ar yr un pryd a byddai'n canolbwyntio ar yr hyn y gellid dylanwadu arno a'i gyflawni'n realistig.
· Roedd ICC yn canolbwyntio ar flaenoriaethau eraill felly efallai na fyddai ganddo'r gallu i gefnogi hyn yn llawn.
· Roedd CNC eisoes wedi ymrwymo mewn egwyddor i'r gwaith hwn a rhannu adnoddau.
4.5 Diweddariad Llywodraethu’r Bwrdd – SW(21)05
Yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd cytunwyd y byddai'r Is Gadeirydd ac LH yn cyflwyno cynllun gweithredu yn dilyn arolwg y Bwrdd a gynhaliwyd yn 2019. Nodwyd tri maes gweithredu allweddol: datblygu'r Bwrdd, datblygiad personol a disgwyliadau ar gyfer sylwadau neu gwestiynau cyn cyfarfodydd ffurfiol. Rhoddodd y papur fwy o fanylion am bob maes. Nodwyd/cytunwyd ar y pwyntiau canlynol:
Camau Gweithredu i Ddatblygu’r Bwrdd:
· Mwy o sesiynau manwl drwy gydol y flwyddyn.
· Ychwanegu cyfleoedd i’r Bwrdd ymgysylltu â staff.
· Ailsefydlu’r sesiynau gyda’r nos ar y diwrnod cyn cyfarfodydd ffurfiol y Bwrdd.
Datblygiad Personol:
· Roedd yr Is Gadeirydd wedi anfon matrics sgiliau allan ar gyfer ei gwblhau a byddai’n trefnu dyddiadau yn fuan ar gyfer gwerthusiadau Aelodau’r Bwrdd eleni.
Disgwyliadau ar gyfer sylwadau neu gwestiynau cyn cyfarfodydd:
· Dylai Aelodau'r Bwrdd nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod gyflwyno cwestiynau i'r Cadeirydd ymlaen llaw i'w codi ar eu rhan.
· Dylid cyfeirio cwestiynau sy'n gofyn am eglurder gwybodaeth at awdur y papur.
· Nid oes angen anfon sylwadau at y Cadeirydd ond eu cadw tan y cyfarfod i atal ailadrodd ac i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i glywed a chymryd rhan yn y drafodaeth.
5. Adroddiadau Is Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd
5.1 Crynodeb o Gyfarfodydd yr Is Grwpiau – SW(21)06
Nododd y papur hwn y pynciau a drafodwyd a'r penderfyniadau a wnaed gan y grwpiau ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd. Pan oedd angen trafodaeth fwy sylweddol neu gymeradwyaeth, byddai papur ffurfiol yn cael ei ysgrifennu. Rhoddwyd diweddariad byr yn yr adroddiad ar gyfer y Grŵp Llywodraethu Critigol, y Grŵp Amrywiaeth a Bwrdd Prosiect CSAP. Nodwyd bod y Grŵp Llywodraethu Critigol, ym mis Ionawr, wedi cymeradwyo papur SW(21)01 Pecyn Adfer Chwaraeon a Hamdden, gan roi’r golau gwyrdd i Gam 2 y Gronfa Gweithwyr Llawrydd a chymeradwyo datblygiad y Gronfa Darparwyr Preifat.
5.2 Grwp Cadernid Strategaeth (SRG) – SW(21)07
Dywedodd Cadeirydd yr SRG bod y grŵp wedi cwblhau ei waith fel y penderfynwyd gan y cylch gorchwyl gwreiddiol. Cynigiwyd diddymu’r SRG neu ei ailffurfio fel grŵp cynghori polisi a materion cyhoeddus.
CAM GWEITHREDU: Cytunodd yr Aelodau i derfynu’r grŵp. Byddai is grŵp newydd yn cael ei gymeradwyo ar ôl etholiad mis Mai. Y flaenoriaeth gychwynnol fyddai Addysg Actif.
5.3 Grŵp Adolygu Cyfleusterau (FRG) – SW(21)08
Rhoddodd yr adroddiad yr wybodaeth ddiweddaraf am y gweithrediadau yn CGChC a Phlas Menai, amcanestyniadau ariannol, manylion am y cymorth yn ystod y flwyddyn gan y Llywodraeth, rhagamcaniad tymor hwy a diweddariad seilwaith cyfalaf. Byddai £1.3m ychwanegol yn cael ei roi i Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2021/22 tuag at welliannau seilwaith gan gynnwys y system wresogi. Roedd y broses dendro ar gyfer ymgynghorwyr i lunio'r opsiynau ar gyfer rheoli Plas Menai yn y dyfodol wedi'i chwblhau a byddai FMG Consultants yn cael eu contractio cyn bo hir. Byddai'r Bwrdd yn derbyn y diweddariad cynnydd nesaf yn ei gyfarfod ym mis Mai.
5.4 Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) – SW(21)09
Cymeradwyodd yr Aelodau fân newidiadau i gylch gorchwyl y Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol ac ARAC. Byddai LH yn ychwanegu nodyn am dymor gwasanaethu’r aelodau annibynnol allanol (tymor o dair blynedd gydag opsiwn i ymestyn am ail dymor o dair blynedd).
6. Grŵp Llywio’r Llysgenhadon Ifanc
Croesawodd y Cadeirydd Ellie Watkins a siaradodd am ei hymwneud â'r cynllun Llysgenhadon Ifanc a sut roedd wedi helpu i roi sgiliau newydd iddi a magu ei hyder. Roedd hi'n ymgymryd â phrentisiaeth peirianneg ar y pryd. Amlinellodd ei hadroddiad benwythnos yr Academi Genedlaethol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr, a chafwyd adroddiad am Ymyriadau Arweinyddiaeth Cymru a digwyddiadau a dyddiau hyfforddi diweddar a’r rhai sydd i ddod.
7. Cyllid, Risg a Sicrwydd
7.1 Adroddiad Cyllid 2020/21 – SW(21)10
Roedd yr holl fesurau cyllidebol ar y trywydd i sicrhau bod arian yn cael ei wario cyn diwedd y flwyddyn. Roedd yr archwiliad blynyddol i fod i ddechrau ar amser yn ystod trydedd wythnos mis Mai.
7.2 Cyllideb 2021/22 – SW(21)11
Byddai Chwaraeon Cymru yn derbyn cyllideb refeniw ddigyfnewid gan Lywodraeth Cymru ynghyd â grantiau cyfalaf o £5m ar gyfer Lle i Chwaraeon ac £1.3m ar gyfer buddsoddi ym Mhlas Menai.
Roedd llinellau'r gyllideb yn adlewyrchu newidiadau a achoswyd gan y model buddsoddi partner newydd. Roedd dyfarniad cyflog blynyddol dros dro o 2.5% wedi'i gynnwys. Rhagwelwyd diffyg o tua 500k ar y flwyddyn ond roedd y Weithrediaeth yn hyderus y byddai hyn yn cael ei ddatrys yn ystod y flwyddyn. Efallai y bydd angen gofyn am gymorth ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer y meysydd gwaith newydd yr oedd Chwaraeon Cymru eisiau eu blaenoriaethu. Roedd incwm y Loteri wedi elwa o gynnydd mewn gwerthiant tocynnau er gwaethaf gostyngiad yn rhan gyntaf y pandemig
7.3 Buddsoddiadau Partner 2021/22 – SW(21)12
Cyflwynodd yr holl bartneriaid gais am gyllid ym mis Ionawr 2021 ac fe'u hadolygwyd o fewn Cyfarwyddiaeth y System Chwaraeon a'r Tîm Datblygu Gwasanaethau a Phartneriaid. Roedd y swyddogion wedi asesu'r holl gyflwyniadau a adolygwyd wedyn gan Benaethiaid Gwasanaeth a Chyfarwyddwyr Cynorthwyol. Roedd cynllunio ar gyfer 2021/22 yn amlwg yn heriol gyda chymaint o ansicrwydd cyfredol. Gofynnwyd i bartneriaid gynllunio ar gyfer sut byddent yn dod allan o'r pandemig gan ddefnyddio eu dysgu o'r 12 mis diwethaf i lywio hyn. Canolbwyntiodd y trafodaethau ar yr heriau i'r sector a'r pryderon ynghylch y bwlch cynyddol mewn cyfranogiad yr oedd y pandemig wedi'i greu. Trafodwyd unrhyw risgiau i ddyfarnu cyllid i bartneriaid. Roedd pryder nad oedd nifer bach o bartneriaid yn bodloni'r meini prawf hanfodol. Roedd swyddogion yn eu cefnogi i gyrraedd y safon angenrheidiol gan fod y dyfarniad yn amodol ar fodloni'r meini prawf yn llawn erbyn 1 Ebrill 2020. Cymeradwyodd yr Aelodau'r buddsoddiadau partner.
8. Adroddiad y Cadeirydd a’r Weithrediaeth – SW(21)13
Nododd yr Aelodau'r adroddiad. Roedd y Cadeirydd yn rhoi ystyriaeth bellach i'w dymor gwasanaethu a oedd i fod i ddod i ben ym mis Awst. Argymhellwyd Aelodau'r Bwrdd a orffennodd eu tymor gwasanaethu cyntaf ym mis Awst ar gyfer eu hailbenodi.
9. Agenda Caniatâd
9.1 Polisi Iaith Gymraeg ar gyfer Grantiau – SW(21)14
Roedd gan un o Safonau'r Gymraeg (90) ofyniad i lunio a chyhoeddi polisi ar y broses grantiau gan sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu cyflwyno i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac nad oedd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Cymeradwywyd y polisi hwn gan y Weithrediaeth a byddai'n cael ei gyhoeddi ar wefan Chwaraeon Cymru yn dilyn y cyfarfod hwn.
Nododd yr Aelodau fod Chwaraeon Cymru yn annog y defnydd o'r Gymraeg yn y sefydliad ar bob cyfle ac roedd yn annog ei bartneriaid i wneud yr un peth. Dangosodd astudiaeth achos Clwb Pêl Droed Mynydd Tigers ym Methesda bwysigrwydd i les cymunedol pan ddefnyddiwyd y Gymraeg.
9.2 Diweddariad Prosiectau Cyfalaf – SW(21)15
Sefydlwyd Lle i Chwaraeon yn 2019/20 a darparwyd £3m pellach i barhau â’r cynllun yn 2020/21. Cytunodd y Bwrdd i barhau â’r un dull o weithredu gyda phedair agwedd:
· Cefnogi unrhyw ymrwymiadau angenrheidiol o gynllun 2019-20.
· Cefnogaeth barhaus i gynllun Cydweithredol y Cae Hyfforddi Artiffisial (ATP).
· Edrych ar gefnogaeth i geisiadau neu brosiectau blaenorol nad oeddent wedi gallu cael eu cyllido.
· Gofynion mewnol ar gyfer y ddwy Ganolfan Genedlaethol o fewn cyfyngiad o 10%.
Parhaodd y broses banel gydweithredol ar gyfer ceisiadau'r cynllun ATP. Asesodd panel swyddogion mewnol newydd, gyda dau Aelod o'r Bwrdd, geisiadau eraill. Diolchodd BD i DTD ac NMB am eu cymorth fel yr Aelodau Bwrdd cynrychioliadol ar y panel.
Byddai Lle i Chwaraeon yn parhau yn 2021/22 (cynyddodd y gyllideb i £5m). Roedd y Weithrediaeth yn ystyried y ffordd orau o ddatblygu'r gronfa ar gyfer y flwyddyn hon a'r blynyddoedd i ddod.
10. Unrhyw Fater Arall
a) Rhoddodd PK yr wybodaeth ddiweddaraf am y cais am Warant y Goron ar gyfer rhwymedigaethau pensiwn Chwaraeon Cymru. Roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr un cais gan Gorff arall a Noddir gan y Llywodraeth ac roedd wedi gofyn am gyngor cyfreithiol.
b) Roedd y Dirprwy Weinidogion Dafydd Elis-Thomas AS a Jane Hutt AS wedi adolygu'r cynllun Cydraddoldeb drafft. Canmolwyd agwedd Chwaraeon Cymru tuag at amrywiaeth.
c) Roedd cyllid ar gyfer grwpiau cymunedol a oedd wedi'i sianelu'n flaenorol drwy'r Gronfa Gymunedol a’r Grantiau Datblygu wedi'i ddosbarthu bellach drwy Gronfa Cymru Actif. Gofynnodd GW am gael manylion unrhyw grwpiau a oedd yn ei chael yn anodd cael gafael ar gymorth fel y gallai staff wirio hyn a llywio'r gwaith o gynllunio cynlluniau ariannu wrth symud ymlaen.
d) Hil mewn Chwaraeon – dylai'r ddogfen ddatblygu ddrafft fod ar gael cyn bo hir.
e) Byddai Adolygiad Whyte o ddiogelu mewn gymnasteg yn cyhoeddi ei ganfyddiadau'n fuan.
f) Cyfranogiad trawsryweddol mewn chwaraeon. Roedd pob un o'r pum Cyngor Chwaraeon yn cydweithio ar y maes pwnc hwn. Byddai aelodau pob Bwrdd yn cael gwahoddiadau i sesiynau hyfforddi dau gam a gynhelir yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill.
g) Gofynnodd LH i Aelodau'r Bwrdd gysylltu ag ef gydag unrhyw deitlau personol yr oeddent eisiau eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol.
11. Dyddiadau Cyfarfodydd
Byddai cyfarfodydd nesaf y Bwrdd yn cael eu cynnal ar 20 Mai, 7 Gorffennaf, 17 Medi a 25 Tachwedd 2021.
Cymeradwywyd y cofnodion yn ffurfiol yn y cyfarfod o’r Bwrdd ar 20 Mai 2021.