Yn bresennol: Lawrence Conway (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Rajma Begum, Alison Thorne, Ashok Ahir, Dafydd Trystan Davies, Delyth Evans, Martin Veale, Judi Rhys, Nicola Mead-Batten, Hannah Murphy, Phil Tilley, Yr Athro Leigh Robinson
Staff: Sarah Powell (Prif Swyddog Gweithredol), Graham Williams, Brian Davies, Liam Hull, Rachel Davies, Owen Hathway (Eitem 4.1-4.2), Richard Dando (Eitem 4.4-4.7), James Owens (Eitem 4.5-4.6), Amanda Thompson (cofnodion). Arsylwyr: Emma Wilkins, Paul Kindred (Llywodraeth Cymru)
1. Croeso/ymddiheuriadau am absenoldeb
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Ian Bancroft. Byddai Emma Wilkins yn ymuno â Chwaraeon Cymru fel y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes ym mis Awst. Roedd Sarah Powell yn gadael yn yr hydref i dderbyn swydd fel Prif Swyddog Gweithredol Gymnasteg Prydain.
2. Datgan Budd
- Phil Tilley am ei swydd fel Ymddiriedolwr Newport Live. Mae wedi camu i lawr o Grŵp Adolygu Cyfleusterau y Bwrdd dros dro. Nid oedd yn bresennol ar gyfer eitem 6.2.
- Sarah Powell am ei swydd i ddod fel Prif Swyddog Gweithredol Gymnasteg Prydain.
3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf ar 20 Mai 2021, cofnod gweithredu, traciwr a materion yn codi
Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf fel cofnod manwl gywir.
Materion yn codi: Cadeiriodd DTD gyfarfod cyntaf y Panel Ieuenctid fel cynrychiolydd y Bwrdd. Roedd pedwar ar ddeg o bobl ifanc wedi ymuno â'r panel (oedran yn amrywio rhwng 15 a 25 ac o ystod eang o gefndiroedd a rhanbarthau yng Nghymru). Canolbwyntiodd eu trafodaethau ar anghydraddoldeb ac effaith Covid19 ar bobl ifanc, yr heriau a'r cyfleoedd newydd. Byddai'r panel yn penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yn fuan. Cefnogodd Arweinydd Datblygu Pobl Chwaraeon Cymru y Panel.
4. Polisi a Strategaeth
4.1 Rhaglen Llywodraeth Cymru – SW(21)28
Nododd yr aelodau yr adroddiad. Ychwanegodd PK fod Chwaraeon Cymru yn cael ei ystyried yn rhanddeiliad allweddol gyda chynllun busnes a oedd yn cyd-fynd yn dda â'r rhaglen.
Byddai'r Cadeirydd a'r Prif Swyddog Gweithredol yn gofyn am gyfarfod â Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles a Chadeirydd Bwrdd Pwysau Iach Cymru Iach (HWHW).
Roedd gweithrediad Chwaraeon Cymru yn cyd-fynd â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, ac roedd yn bwysig i’r sefydliad barhau i ganolbwyntio ar gyflawni ei strategaeth a pheidio â chael ei lywio oddi ar y llwybr.
Byddai cael cyfleusterau o'r radd flaenaf yng Nghymru yn gofyn am ddull buddsoddi tymor hir gan Lywodraeth Cymru.
Roedd rhaid ystyried y newidiadau i’r canllawiau caniatâd cynllunio ar gyfer gofod gwyrdd a'r cysylltiad ag iechyd a ffitrwydd. Byddai Chwaraeon Cymru yn monitro hyn drwy ei waith o fewn agenda HWHW.
4.2 Gwerthusiad cyllid – SW(21)29
Rhoddodd yr adroddiad a’r cyflwyniad hwn yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y gwerthusiadau a gynhaliwyd o ffrydiau cyllido Chwaraeon Cymru yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd y cofnod adlewyrchu wedi gwella'r ddealltwriaeth o effaith buddsoddiadau ac wedi annog dull mwy dan arweiniad y dysgu o weithredu yn y sector. Roedd Chwaraeon Cymru yn ymateb i'r dysgu fel y gwelwyd yn sgil cyflwyno Cronfa Cymru Actif (BAWF) a oedd yn targedu ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn benodol. Byddai'r dull CrowdFunder yn helpu Chwaraeon Cymru i dargedu cyrhaeddiad ehangach o ran ymgeiswyr.
- Roedd ymgeiswyr llai profiadol wedi colli'r gefnogaeth gan staff datblygu eu hawdurdod lleol (ffyrlo neu swyddogaeth newydd).
- Roedd twf mewn grwpiau chwaraeon cymunedol nad oeddent yn gysylltiedig â CRhC. Roedd yn golygu amrywiant yn safon y llywodraethu a’r gallu i godi arian.
- Rhaid i weithgareddau chwaraeon risg uchel fod yn aelodau i fod yn gymwys i dderbyn cyllid.
- Roedd yn bosibl tynnu sylw at nifer y bobl yr effeithiwyd arnynt yn hytrach na dim ond nifer y clybiau a'r buddsoddiad y pen (ar lefel awdurdod lleol).
- Roedd yn bosibl monitro'r math o elfennau anghydraddoldeb a dadansoddi hyn i sicrhau bod lledaeniad teg. Roedd rhywfaint o naratif ar goll o ran chwaraeon anabledd a byddai OH yn ymchwilio i hyn.
- Dylai'r canrannau gael eu hategu gyda mwy o fanylion am yr effaith ar bobl.
- Dylai'r broses werthuso gynnwys gwybodaeth hefyd am y twf yn yr economi gig, cynaliadwyedd tymor hir mentrau newydd a'r perthnasoedd ehangach.
- O ran y rhai a oedd wedi mynegi anfodlonrwydd gyda'r broses gyllido, roedd y rhain yn bennaf gan ymgeiswyr a wrthodwyd. Roedd ymgeiswyr llwyddiannus o'r farn bod y broses a'r cyfathrebu’n glir ac yn hawdd eu defnyddio.
- Darparwyd pob agwedd ar y rhaglenni cyllido yn ddwyieithog. Fodd bynnag, cafwyd ymateb isel gan ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn bennaf a chan ymgeiswyr sy'n defnyddio'r Gymraeg am resymau nad ydynt yn hysbys hyd yma.
- Ar gyfer ceisiadau a wrthodwyd, darparwyd cefnogaeth i'w helpu i ddeall y rhesymau dros wrthod a sut i wella ac ailymgeisio.
- Roedd y gronfa Gweithwyr Llawrydd wedi bod yn daliad untro, yn benodol i'r cyfnod o gau y gaeaf diwethaf. Byddai unrhyw gyllid pellach ar gyfer y sector preifat yn ôl disgresiwn Llywodraeth Cymru.
- Gofynnwyd am drafodaeth strategol ehangach ar economi’r dyfodol a sut i ailddiffinio a blaenoriaethu o fewn y sector chwaraeon, er bod gwahaniaeth barn ynghylch a ddylai hyn ddigwydd nawr neu ar ôl cyfnod o ‘setlo i lawr’ ar ôl i’r pandemig fynd heibio.
- Roedd y grŵp CAC yn meddwl am y ffyrdd y gallai rhwystrau - gan gynnwys y broses ymgeisio ei hun - gael eu dileu i ganiatáu i gyllid fynd yn uniongyrchol i grwpiau wedi'u targedu.
- Cadarnhaodd PK fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar gais Chwaraeon Cymru am £4m ychwanegol ar gyfer cefnogaeth gymunedol BAWF.
Roedd y broses o ddylunio a chyflwyno chwe ffrwd gyllido newydd, pob un o fewn yr adnodd staffio presennol, wedi bod yn gyflawniad sylweddol. Diolchodd y Cadeirydd i'r staff a oedd wedi cyflawni'r holl waith hwn wrth weithio o bell.
4.3 Diweddariad Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Tokyo 2020
Rhoddodd BD gyflwyniad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Bwrdd am y Gemau Olympaidd sydd ar ddod. Byddai Tîm Prydain Fawr yn cynnwys 29 o athletwyr o Gymru, gyda 14 ohonynt yn fenywod a 15 yn ddynion, ynghyd â 5 aelod o staff cymorth. Roedd yr Is Gadeirydd wedi derbyn cadarnhad y byddai'r Gemau Paralympaidd yn mynd yn eu blaen. Byddai Hwb Perfformiad y BOC wedi'i leoli yn SWNC. Byddai briff yn mynd i Lywodraeth Cymru a thynnwyd eu sylw hefyd at Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham ar gyfer 2022.
4.4 Cynhwysiant Trawsryweddol mewn Chwaraeon – SW(21)31
Roedd y papur hwn yn amlinellu siwrnai adolygiad Grŵp Cydraddoldeb y Cynghorau Chwaraeon (SCEG) o'i Gyfarwyddyd Domestig ar gyfer Pobl Drawsryweddol mewn Chwaraeon Cystadleuol a'r ymchwil i gynhwysiant trawsryweddol mewn chwaraeon. Gofynnir i Fyrddau Cynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref ac UK Sport ystyried a chymeradwyo'r argymhellion gan SCEG ar gynnwys a chyhoeddi'r ddogfen gyfarwyddyd ddiwygiedig. Roedd y camau nesaf yn cynnwys staff cefnogi SCEG a'r sector chwaraeon i ddeall y canllawiau. Roedd Aelodau Bwrdd Chwaraeon Cymru wedi mynychu'r sesiynau hyfforddi ar-lein a ddarparwyd gan SCEG a Carbhill Consulting a oedd yn addysgiadol iawn yn eu barn hwy.
Adborth:
- Sut i gefnogi llefydd traws-gynhwysol o fewn cyfleusterau chwaraeon a chyfathrebu hyn.
- Cefnogaeth i Aelodau'r Bwrdd a phawb sy’n flaenllaw yn y ddadl yn gyhoeddus.
- Roedd gan Gynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref y perswâd angenrheidiol i sicrhau bod chwaraeon yn cymryd y mater o ddifrif.
- Cafwyd cyngor cyfreithiol gan Sport England a Chwaraeon Cymru. Pe bai datganoli ar gyfiawnder troseddol, efallai y bydd angen adolygu'r polisi.
- Dylai'r polisi gwmpasu'r holl bobl draws ac anneuaidd ond roedd mwyafrif y cyfeiriadau yn y ddogfen at ferched traws.
- Nid oedd sut byddai chwaraeon yn gwneud penderfyniadau ar y mater hwn yn hysbys ar hyn o bryd.
- Byddai'r polisi'n elwa o werthuso ar y cyd efallai yn gynt nag ymhen 2 i 3 blynedd.
- Cynhwysiant trawsryweddol i ddod o dan gylch gwaith Cynllun Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru.
Cymeradwyodd yr aelodau yr argymhellion yn y papur gyda'r cafeat y gallai fod newidiadau i fersiwn derfynol y ddogfen gyfarwyddyd ar ôl rhoi adborth.
4.5 Adroddiad Ch1 Cynllun Busnes 2021/22 – SW(21)32
Rhoddodd y papur hwn yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgarwch a chyflawniadau chwarter un 2020-21 yn erbyn y cynllun busnes, ac amlinellodd gamau gweithredu a ddatblygwyd o'r gwaith hwnnw ar gyfer y dyfodol.
Yn ystod y chwarter diwethaf, canolbwyntiodd y camau cyflawni lefel uchel ar Addysg Weithredol, darpariaeth gwasanaeth yr Athrofa a'r Partneriaethau Chwaraeon. Byddai gwaith cysylltiedig â CAC yn flaenoriaeth ar gyfer y chwarter nesaf. Roedd yr arfer adlewyrchol yn cael ei addasu fel bod yr adlewyrchiadau misol yn canolbwyntio ar:
- trafodaeth fanylach a her ynghylch blaenoriaethau cynllun busnes penodol gyda phob maes gwaith yn cael ei adolygu'n fanwl o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
- mwy o drafodaethau cynllunio ymlaen llaw ac adolygiad y tîm Arweinyddiaeth o'r cofnod blaengynllunio a ddatblygwyd gan y tîm Cyfathrebu.
4.6 Polisïau Apeliadau a Chwynion – SW(21)33
Adolygwyd y polisïau apeliadau a chwynion i gyd-fynd â'r dull buddsoddi newydd. Cafwyd cyngor cyfreithiol ynghyd â chymharu â pholisïau Cynghorau Chwaraeon eraill y Gwledydd Cartref. Roedd y polisi apeliadau yn mynd i’r afael â phryderon a godwyd ynghylch unrhyw rai o ffrydiau cyllido Chwaraeon Cymru. Roedd y polisi cwynion yn edrych ar gwynion gan unigolion a oedd yn anfodlon â'r gwasanaeth a ddarperir gan Chwaraeon Cymru neu os oeddent yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg.
- Argymhellwyd y dylid newid y broses apelio er mwyn galluogi apelyddion i gael Sport Resolutions i wrando ar eu hachos. (Ni chodir unrhyw ffi ar yr apelydd.)
- Ar gyfer y polisi cwynion, y newidiadau a argymhellir oedd cyflwyno Swyddog Cwynion dynodedig (i'w gyflawni gan y Pennaeth Perfformiad Corfforaethol), i nodi'n gliriach yr hyn sy’n dod o dan y polisi a'i bolisi adrodd, i gael e-bost penodol ar gyfer atebion cyflymach, ac i ymgorffori ceisiadau am wybodaeth a chwynion data personol (gyda gwahanol weithdrefnau).
Dylid samplu'r iaith yn y polisïau i sicrhau ei bod yn hawdd ei deall. Cytunwyd i ychwanegu cwynion amlinellol a chynnwys cynrychiolydd o'r Bwrdd pe bai angen, ar sail pob achos unigol. (Roedd unrhyw gŵyn yn erbyn y Prif Swyddog Gweithredol yn cynnwys y Cadeirydd yn awtomatig.)
CAM GWEITHREDU: LH i adolygu’r ddogfen a’i chymeradwyo ar e-bost ar ôl y cyfarfod hwn. Cymeradwywyd bwrw ymlaen â’r contract i Sport Resolutions.
4.7 Cydnabod Jiu Jitsu Brasilaidd – SW(21)34
Gwnaeth y papur hwn argymhellion ar gyfer y ceisiadau am i’r Corff Rheoli Cenedlaethol - Cymdeithas Jiu Jitso Brasilaidd y DU - gydnabod y gamp Jiu Jitso Brasilaidd. Cymeradwywyd yr argymhellion.
5. Adroddiadau Grŵp Llywio’r Llysgenhadon Ifanc
Nodwyd yr adroddiad. Wrth symud ymlaen, byddai'r Panel Ieuenctid yn cymryd lle'r eitem hon ar yr agenda.
6. Grwpiau Bwrdd a Phwyllgorau Sefydlog
6.1 Crynodeb o’r Is Grwpiau – SW(21)35
Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r pynciau a drafodwyd yng nghyfarfodydd diweddar y Bwrdd Prosiect Partneriaethau Chwaraeon, y Grŵp Amrywiaeth, y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Grŵp Adolygu Cyfleusterau. Nododd yr Aelodau yr adroddiad.
6.2 Adolygiad Cyfleusterau Cenedlaethol Chwaraeon Cymru: Plas Menai – SW(21)36
Diolchodd y Cadeirydd yn ffurfiol i aelodau a staff FRG am y gwaith sylweddol a oedd wedi'i wneud. Trafododd Aelodau'r Bwrdd yr opsiynau rheoli yn y dyfodol yn eu sesiwn manwl ar 28 Mehefin yn barod ar gyfer y papur hwn a'r argymhellion. Nid oedd unrhyw faterion i'w codi.
- Roedd cynlluniau ar waith i ymgysylltu â gwleidyddion a swyddogion Llywodraeth Cymru.
- Byddai buddsoddiad cyfalaf yn cael effaith hanfodol ar gyfleoedd datblygu gwasanaeth newydd ac ar y math o bartner y byddai Chwaraeon Cymru yn gallu ei ddenu.
Cymeradwyodd yr aelodau yr argymhelliad i fwrw ymlaen â'r partner comisiynu arloesol gyda thrafodaeth (caffael contract CPN drwy drafod), gyda'r cafeat nad oedd menter ar y cyd wedi'i ddiystyru a'i bod yn parhau i fod yn opsiwn wrth gefn.
6.3 Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwlio a Sicrwydd Risg (ARAC) 2021/22 – SW(21)37
Nododd yr aelodau yr adroddiad a diolch i'r Aelod Annibynnol Gareth Jones a fyddai'n gorffen ei ail dymor yn y swydd ym mis Awst. Roedd rhywun i gymryd ei le yn cael ei ystyried.
7. Cyllid, Risg a Sicrwydd
7.1 Cyfrifon Statudol 2020/21: Cyfnerthedig CChC; Ymddiriedolaeth; Loteri – SW(21)38
Ychwanegwyd nodyn at yr ôl-fantolen ynghylch:
- Byddai'r gostyngiad sylweddol yn yr ôl troed carbon yn cael ei wrthbwyso gan y cynnydd mewn anheddau preifat pan fyddai staff yn gweithio gartref.
- Mae Cooke & Arkwright wedi tynnu’r datganiad ansicrwydd o’u prisiad eleni, felly mae’r Pwyslais ar Fater a gafodd ei gynnwys yng nghyfrifon y llynedd wedi’i ddileu.
- Disgwylid datganiad sicrwydd pensiwn ond cafwyd awgrym llafar bod pwyslais ar fater yn annhebygol. Roedd yr archwilwyr yn fodlon ac ar ôl eu derbyn byddai'r Archwilydd Cyffredinol yn cymeradwyo.
Diolchodd Cadeirydd ARAC i'r rheolwyr a'r staff am eu cyflawniad rhyfeddol yn cwblhau'r cyfrifon ar amser a heb broblemau yn ystod amgylchiadau anodd y pandemig.
7.2 Archwilio Cymru - ISA260 Adroddiad Archwilio Cyfrifon a Llythyr Rheoli - Cyngor Chwaraeon Cymru ac Ymddiriedolaeth Cyngor Chwaraeon Cymru
Nododd yr Aelodau yr adroddiad ac ni chodwyd unrhyw faterion.
7.3 Swyddfa Archwilio Genedlaethol - ISA260 Adroddiad Cwblhau Archwiliad Cyfrif Dosbarthu’r Loteri Cyngor Chwaraeon Cymru
Nododd yr Aelodau yr adroddiad ac ni chodwyd unrhyw faterion.
CYMERADWYO: Cymeradwyodd yr Aelodau Gyfrifon Statudol 2020/21 (Cyfnerthedig CChC; Ymddiriedolaeth; Loteri).
7.4 Adroddiad Cyllid Ch1 2021/22
Nododd yr Aelodau yr adroddiad ac ni chodwyd unrhyw faterion.
8. Adroddiad y Cadeirydd a’r Bwrdd Gweithredol
8.1 Adroddiad y Cadeirydd a’r Bwrdd Gweithredol
- Y cyllid ychwanegol ar gyfer yr ‘Haf o Hwyl’ oedd £150k i ACW a £300k i Chwaraeon Cymru a fyddai’n cael ei ddefnyddio ar y gwaith Gwella’r Diwrnod Ysgol ehangach.
- Parhaodd y trawsnewid digidol fel darn datblygu tymor hwy gyda sawl prosiect ar y gweill. Penderfyniadau i'w gwneud am gyllid ac unioni adnoddau ymhellach ymlaen.·
- Gyda Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Tokyo yn cychwyn mewn ychydig wythnosau, roedd sector chwaraeon y DU yn profi cynnydd mewn seibr-ymosodiadau. Gall y rhain dargedu sefydliadau sy’n is i lawr y gadwyn a oedd wedi'u hamddiffyn yn wannach na chyrff mwy. Gwelwyd cynnydd dramatig eisoes yn yr ymdrechion i fynd i mewn i gyfrifon staff yn Chwaraeon Cymru ac roedd yr holl staff ac Aelodau'r Bwrdd wedi derbyn cyngor diogelwch gan yr Arweinydd Diogelwch Gwybodaeth. Roedd yn gweithio ar y dilyniant o'r Seminar Gwydnwch Seibr Arweinwyr Strategol a byddai'r lefel risg a gofnodwyd ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol yn uwch.
Arolwg CAC Chwaraeon Cymru: Rhannwyd canlyniadau'r arolwg CAC mewnol diweddar gyda'r staff a'r Bwrdd. Byddai dysgu o'r canfyddiadau yn flaenoriaeth, gan gynnwys adolygu polisïau a phwyslais ar staff yn ysgwyddo cyfrifoldeb personol am eu hymddygiad.
Gofynnodd yr aelodau am ddychwelyd adroddiad y Cadeirydd a'r Bwrdd Gweithredol i fod yn gynharach ar yr agenda, gyda'r cafeat y byddai'r Cadeirydd yn sicrhau bod yr amser a ganiateir ar gyfer trafodaeth yn cael ei weithredu’n llym.
9. Unrhyw Fater Arall
Diolchodd y Cadeirydd i'r staff am sicrhau bod y cyfarfod hybrid hwn yn cael ei gynnal yn llyfn heb unrhyw broblemau technegol. Byddai'r fformat yn cael ei ailadrodd ym mis Medi (yn amodol ar unrhyw adolygiad o'r cyfyngiadau).
10. Dyddiad y cyfarfodydd nesaf
17 Medi, 25 Tachwedd 2021.
Roedd y dyddiadau wedi'u pennu ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd yn 2022: 17 Chwefror, 13 Mai, 15 Gorffennaf, 16 Medi, 25 Tachwedd 2022.
Cymeradwywyd y cofnodion yng nghyfarfod y Bwrdd ar 17 Medi 2022.