Yn Bresennol: Lawrence Conway (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir, Ian Bancroft, Rajma Begum, Dafydd Trystan Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Hannah Murphy, Professor Leigh Robinson, Phil Tilley, Martin Veale
Y Staff Yn Bresennol: Sarah Powell (PSG), Paul Randle, Graham Williams, Brian Davies, Liam Hull, Owen Hathway, Owen Lewis (Eitem 4.1), Jane Foulkes (Eitem 5.3), Craig Nowell (Eitem 5.5), Amanda Thompson (cofnodion).
Arsylwr: Paul Kindred (Llywodraeth Cymru)
1. Cyflwyniad / ymddiheuriadau am absenoldeb
Cyflwynodd y Cadeirydd y cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Judi Rhys, Alison
Thorne a Steffan Roberts (Llywodraeth Cymru).
• Byddai'r Cadeirydd yn mynychu cyfarfod Cabinet Chwaraeon y DU ar 30 Tachwedd. Byddai Cynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref yn cyflwyno safbwynt unedig ar effaith Covid19 ar chwaraeon, gweithgarwch corfforol ac iechyd.
• Adroddodd y grŵp staff Cysondeb Busnes na chafwyd unrhyw adroddiadau hyd yma am haint Covid19 ymhlith staff Chwaraeon Cymru. Parhawyd i reoli defnydd diogel o'r Canolfannau Cenedlaethol yn dda a byddai'n galluogi’r gweithgareddau i ddychwelyd yn gyflym ar yr
amser priodol.
2. Datgan Budd
• Ian Bancroft ar gyfer papur SW(20)55 yn rhinwedd ei swydd fel Prif Swyddog Gweithredol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nid oedd wedi bod yn bresennol yn sesiwn y Bwrdd ar 20
Tachwedd i drafod Achos Busnes Chwaraeon Gogledd Cymru, ac nid oedd chwaith wedi mynychu cyfarfod Bwrdd Prosiect CSAP ar 23 Tachwedd.
• Nicola Mead-Batten ar gyfer papur SW(20)62 yn rhinwedd ei swydd fel cynghorydd i
Gomisiynydd y Gymraeg.
3. Cofnodion, Cofnod Gweithredu, Traciwr Penderfyniadau a Materion yn Codi
Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 16 Medi 2020 fel cofnod manwl gywir. Nodwyd y Cofnod Gweithredu. Nid oedd unrhyw faterion yn codi.
4. Strategaeth a Chynllunio Adferiad
4.1 Adroddiad Chwarter 3 Cynllun Busnes 2020/21 - SW(20)51
Tynnodd yr adroddiad sylw at y gwaith o alluogi staff i ffynnu (a'r gefnogaeth a roddwyd ers i Covid19 daro), sut oedd y dull o gynllunio wedi esblygu a gwella drwy gydol y flwyddyn a'r gwaith a wnaed ynghylch dychwelyd at chwaraeon. Roedd pryder ynglŷn â'r bwlch sy’n ehangu o ran anghydraddoldeb.
Pwyntiau trafod:
• I liniaru sylw negyddol, dylai Chwaraeon Cymru hyrwyddo mwy o straeon newyddion da am yr holl weithgareddau oedd wedi gallu parhau, a ffyrdd creadigol o sicrhau bod pobl yn gallu bod yn actif.
• A ddylai Llywodraeth Cymru ystyried ymestyn eithriad o'r cyfyngiadau ar gyfer chwaraeon dan do ac awyr agored ar gyfer grwpiau difreintiedig? Rhoddwyd chwaraeon anabledd fel esiampl.
• Byddai'r Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol yn helpu i esbonio'r sefyllfa o ran cymryd rhan mewn
chwaraeon. Roedd yn well i’r hyn a allai weithio'n dda o fewn y terfynau ddod gan y gamp ei hun.
• Byddai map ffordd o ddychwelyd yn llawn at chwaraeon gyda gwylwyr yn ddefnyddiol. Byddai hyblygrwydd yn hanfodol er mwyn addasu'n gyflym i amgylchiadau sy'n newid.
• Dylid defnyddio gwybodaeth o'r gronfa Gweithwyr Llawrydd fel sail i’n gwybodaeth am gangen fasnachol y sector chwaraeon a sut dylid ei chefnogi.
• Roedd Llywodraeth Cymru o'r farn mai Chwaraeon Cymru oedd ei phrif bartner, gan chwarae
rhan ganolog yn y gwaith o ddod â chyfathrebu ac arweiniad clir at ei gilydd at ddefnydd
Gweinidogion a swyddogion.
• Yn ddiweddar, roedd Chwaraeon Cymru wedi darparu trosolwg a chais am adnoddau ychwanegol i ehangu'r rôl o wella iechyd meddwl drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
CAM GWEITHREDU: Byddai aide memoire yn mapio’r gwahanol gynlluniau cyllido yn helpu’r
Aelodau i weld sut oedd y risg o ddyblygu a gorgyffwrdd yn cael ei lliniaru.
4.2 Digideiddio mewn Chwaraeon - SW(20)52
Nodwyd eisoes fel blaenoriaeth fusnes ar gyfer 2020/21 ac roedd y cyfnod gorfodol o weithio o bell wedi amlygu pwysigrwydd digideiddio. Gwnaed cynnydd sylweddol o ran symud y diwylliant i werthfawrogi technoleg ddigidol ac roedd y staff yn magu hyder i ddefnyddio platfformau newydd. Byddai asesiad aeddfedrwydd digidol a dadansoddiad SWOT yn helpu i gefnogi'r gwaith hwn wrth symud ymlaen. Cyflwynwyd opsiynau i aelodau'r Bwrdd yn ymwneud â chwmpas y gwaith a gofynnwyd am adborth ar y rhain:
• Opsiwn 1: Cynnal y status quo, parhau i nodi meysydd o risg, gorwariant ac
aneffeithlonrwydd a cheisio penderfyniad i ddefnyddio'r egwyddorion craidd newydd
• Opsiwn 2: Defnyddio'r egwyddorion y cytunwyd arnynt i sicrhau bod y newid yn cael ei sbarduno gan y sector ac angen mewnol a'r maes ffocws allweddol fyddai datblygu ecosystemau Chwaraeon Cymru ac eithrio’r Canolfannau Cenedlaethol.
• Opsiwn 3: Cynllun gwasanaeth llawn ar gyfer swyddogaethau mewnol ac allanol y busnes, gan gyflawni newid sydd wir yn canolbwyntio ar bobl a gwasanaethau digidol gwell wrth ymgorffori diwylliant o ddysgu a gwella ar gyfer Chwaraeon Cymru gan gynnwys y Canolfannau Cenedlaethol.
• Opsiwn 4: Canolbwyntio ar Chwaraeon Cymru a'r sector ehangach, yn unol ag opsiwn 3 ond
gweithio gyda phartneriaid allweddol i ddatblygu cynllun gwasanaeth llawn ar gyfer swyddogaethau mewnol ac allanol y busnes.
Tynnwyd sylw at arwydd cynnar o'r math o fuddsoddiad y byddai ei angen. Roedd Llywodraeth Cymru o blaid digideiddio ond nid oedd sicrwydd o unrhyw fuddsoddiad ychwanegol tuag at y gwaith hwn, felly efallai y bydd angen ad-drefnu’r cyllidebau presennol. Argymhellodd y tîm digideiddio opsiwn 3, er y byddai mwy o waith yn cael ei wneud i nodi’r costau, y manteision a chyflogi staff.
Pwyntiau trafod:
• Rhaid buddsoddi yn yr hyn sy'n rhoi'r elw gorau i Chwaraeon Cymru.
• Gwell cael dull gweithredu cyffredinol yn hytrach nag un adrannol, fel ar hyn o bryd.
• Dylid cymhwyso iaith opsiwn 3 i opsiwn 2 hefyd er mwyn gallu cymharu'n gytbwys.
• Gofynnwyd am ddadansoddiad o'r costau, yn enwedig er mwyn cymharu opsiynau 2 a 3.
• A fyddai rhannu'r un atebion gyda phartneriaid yn helpu i'w diogelu yn y dyfodol?
• A fydd digideiddio'n golygu newidiadau i'r system/data yn unig neu a fydd hyn hefyd yn cyflawni newid diwylliannol?
• Nodyn o rybudd, sy'n cyfeirio at y methiant i ddigideiddio'r GIG.
• Gweld digideiddio fel rhan o ddarlun mwy yn cysylltu â pholisïau Llywodraeth Cymru.
CAM GWEITHREDU: Gwaith pellach i gael ei wneud i ddatgan budd cost opsiynau 2 a 3.
5. Is-Grwpiau Bwrdd a Phwyllgorau Sefydlog
5.1 Grŵp Llywodraethu Allweddol (CGG)
Diolchodd y Weithrediaeth i'r Aelodau oedd wedi ymuno â'r pum cyfarfod a gynhaliwyd hyd yma ar fyr rybudd. Roedd papurau a chofnodion ar gael i holl Aelodau'r Bwrdd. Roedd CGG wedi cymeradwyo’r canlynol:
• SW(20)48 – cymeradwyo trafod cefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, rhoi’r golau gwyrdd i Gronfa Cymru Actif, gan nodi amcanestyniadau cyfalaf, recriwtio fesul cam a phensiwn.
• SW(20)49 – cymeradwyo cynlluniau drafft ar gyfer y Pecyn Adfer Chwaraeon a Hamdden
(SLRP)
• SW(20)50 – cymeradwyo cynlluniau wedi'u diweddaru ar gyfer SLRP a'r camau nesaf.
• Nodwyd bod y Gronfa Gweithwyr Llawrydd (rhan o SLRP) wedi mynd yn fyw ar 26 Tachwedd.
Cynigiodd y Cadeirydd, yr Is Gadeirydd a'r Weithrediaeth y dylid parhau â'r CGG tra mae'n berthnasol fel grŵp hyblyg, a chytunwyd i hyn. Gwnaed cynnig y dylid cyflwyno adroddiad yn tynnu sylw at benderfyniadau yn y cyfarfodydd. Byddai ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i'r ffordd orau o adrodd yn ôl.
5.2 Grŵp Cadernid Strategol (SRG)
Cyfarfu’r SRG ddiwethaf ar 18 Awst. Atgoffwyd y Bwrdd am yr ymchwil oedd ar y gweill a'r blaenoriaethau ar gyfer eiriolaeth. Yr egwyddorion arweiniol oedd mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thargedu grwpiau a dangynrychiolir. Byddai’r SRG yn adrodd yn ôl i'r Bwrdd maes o law.
5.3 Rhaglen Chwaraeon a Gweithgarwch Cymunedol (CSAP) - SW(20)54
Craffodd Bwrdd Chwaraeon Cymru ar achos busnes Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru (SNWP) ar 20 Tachwedd a chyfarfod Bwrdd Prosiect CSAP ar 23 Tachwedd. Roedd hyder yng nghynnydd ac ymrwymiad SNWP i fwrw ymlaen â'r prosiect. Roedd meysydd wedi'u nodi ar y cyd a fyddai'n elwa o gefnogaeth ychwanegol gan Chwaraeon Cymru. Byddai'r hyn a ddysgwyd oddi wrth y siwrnai hyd yma’n cael ei gymhwyso i ehangu CSAP ledled gweddill Cymru.
CAM GWEITHREDU: Cymeradwywyd yr achos busnes a’r camau nesaf ar gyfer SNWP.
5.4 Grŵp Amrywiaeth (DG)
Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 5 Tachwedd. Roedd y prosiect Hil a Hiliaeth, cydweithrediad rhwng y pum Cyngor Chwaraeon, yn casglu data ac yn cynnal cyfweliadau am brofiadau byw. Trafododd y
DG hefyd sut i wella amrywiaeth ym mhroses recriwtio Chwaraeon Cymru, anghenion hyfforddi'r
Bwrdd (EDI, trawsrywedd a rhagfarn anymwybodol) a'r angen am eiriolwr amrywiaeth lefel uchel. Byddai'r Weithrediaeth yn gofyn i lysgenhadon helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder pobl i ddod
ymlaen a siarad am eu profiadau a'u hawgrymiadau ar gyfer goresgyn rhwystrau. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 5 Chwefror.
Grŵp Adolygu Cyfleusterau (FRG) - SW(20)55
Adolygodd yr FRG amcanestyniadau refeniw manwl ar gyfer y ddwy Ganolfan Genedlaethol a'r cynnydd tuag at ailagor. Edrychodd yr adolygiad ariannol ar incwm a gwariant rhagamcanol hyd at ddiwedd y flwyddyn, y gofynion cyfalaf a'r rhagolwg tymor hir. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhewi gwariant cyfalaf pellach eleni; nid oedd yn hysbys a allai hynny newid y flwyddyn nesaf ond ni chafodd ei ddiystyru.
Argymhellodd yr FRG ei bod bellach yn briodol tendro am wasanaethau ymgynghori i ffurfioli'r
broses i geisio partner rheoli allanol neu fenter ar y cyd. Cynigiwyd recriwtio'r ymgynghoriaeth drwy
GwerthwchiGymru yn y flwyddyn newydd, gan gyhoeddi'r contract erbyn 26 Chwefror.
Drwy ddiwydrwydd dyladwy, byddai darpar bartneriaid yn dod yn ymwybodol o angen Plas Menai am fuddsoddiad cyfalaf. Efallai y bydd rhaid i Chwaraeon Cymru chwilio am bartner a allai ddod ag arian parod i'r fargen. Ni ellid disgwyl i bartner newydd godi'r rhwymedigaethau presennol a byddai angen iddo fod yn hyderus o Blas Menai fel ased hyfyw.
Roedd y cynllun cyfathrebu wedi'i ddrafftio eisoes i'w adolygu yng nghyfarfod nesaf yr FRG ar 1
Rhagfyr. Byddai’r negeseuon yn canolbwyntio ar gael dyfodol cadarnhaol i Blas Menai fel cyfleuster cynaliadwy. Cynlluniwyd y broses dendro ar gyfer gwasanaethau ymgynghori ar gyfer mis Ionawr ond roedd yn well gan yr Aelodau ddechrau ym mis Rhagfyr gyda chefnogaeth ychwanegol i'r tîm Cyfathrebu os oedd angen.
Cafwyd trafodaeth ynghylch amseru a risg o niwed i enw da ac ymateb gwleidyddol yn ystod y
cyfnod cyn yr etholiad ym mis Mai 2021. Gall y Bwrdd benderfynu gohirio unrhyw gamau tan ar ôl yr etholiad. Byddai'r Bwrdd hefyd eisiau gwybod a allai buddsoddiad cyfalaf ddod yn ystod 2021 gan Lywodraeth Cymru a/neu drwy gynlluniau'r Ymddiriedolaeth Garbon.
CAM GWEITHREDU: Cymeradwyodd Aelodau'r Bwrdd argymhellion y papur ond ar yr amod y dylid rheoli'r broses dendro ar gyfer gwasanaethau ymgynghori yn ofalus. Gofynnodd yr Aelodau am gael gweld y cynllun cyfathrebu gorffenedig.
5.5 Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)
Cyfarfu’r ARAC ddiwethaf ar 1 Hydref ac adolygodd adroddiadau archwilio mewnol ar gyfer cynlluniau arian grant (sicrwydd cymedrol) ac ymgysylltu â phartneriaid (adroddiad cynghori). Roedd un argymhelliad lefel ganolig a dau lefel isel wedi'u gweithredu. Llongyfarchwyd Chwaraeon Cymru ar ba mor gyflym oedd y cynlluniau cyllido newydd wedi'u dyfeisio a'u gweithredu mewn ymateb i bandemig Covid19, ac am lefel ei ymgysylltiad â phartneriaid.
Nododd yr Aelodau bod y cyfrifon statudol ar gyfer 2019/20 wedi'u cymeradwyo'n ffurfiol a'u ffeilio'n briodol.
5.6 Pwyllgor Tâl - SW(20)53
Cyfarfu'r Pwyllgor Tâl ar 9 Tachwedd. Cytunodd ar y dyfarniad costau byw ar 2.5% a chymeradwyodd roi’r dyfarniad i'r Prif Swyddog Gweithredol yn gyfartal. Cymeradwyodd Aelodau'r Bwrdd y newidiadau a argymhellwyd i'r cylch gorchwyl.
6. Grŵp Llywio’r Llysgenhadon Ifanc
Ni fu'n bosibl i gynrychiolydd Grŵp Llywio’r LlI fynychu'r cyfarfod hwn. Nodwyd yr adroddiad a dderbyniwyd. Roedd yr Is Gadeirydd wedi mynychu Cynhadledd Genedlaethol y LlI ym mis Tachwedd.
7. Cyllid, Risg a Sicrwydd
7.1 Adroddiad Cyllid Ebrill-Tachwedd 2020 – SW(20)56
Nodwyd yr adroddiad.
7.2 Diweddariad Rhagolygon Ariannol – SW(20)57
Roedd y cynllun ffyrlo wedi'i ymestyn gan Lywodraeth y DU hyd at fis Mawrth 2021. Roedd Chwaraeon Cymru wedi derbyn tua £352k hyd at ddiwedd mis Hydref ac amcangyfrif o tua £170k pellach posibl hyd at fis Mawrth. Ni fyddai parhad y ffyrlo o reidrwydd yn cynnwys yr un aelodau o staff. Roedd cyngor cyfreithiol wedi'i dderbyn ynglŷn â chymhwysedd felly byddai'n hawliad archwiliadwy.
Roedd y Weithrediaeth wedi bod yn ystyried mesurau ar gyfer Plas Menai gan fod cyfyngiadau pellach wedi effeithio ar gynlluniau ailagor. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddai cefnogaeth ar gael i wneud iawn am golledion y Canolfannau Cenedlaethol. Roedd y taliadau diffyg pensiwn a'r dyfarniad tâl ar £2.5% wedi'u hychwanegu at y gyllideb. Roedd hyblygrwydd o ran tynnu arian y Loteri i lawr os oedd angen, i sefydlogi’r sefyllfa llif arian ar ddiwedd y flwyddyn.
Wrth edrych ymhellach ymlaen, roedd effaith Covid19 yn golygu rhagweld bwlch o tua £500k ar gyfer 2021/22. Roedd y Weithrediaeth yn edrych ar ffyrdd o liniaru'r golled hon. Roedd Canghellor Trysorlys y DU wedi cyhoeddi rhewi cyflogau cyhoeddus dros £24.5k. Byddai Chwaraeon Cymru yn trafod gyda Llywodraeth Cymru maes o law gan fod bargeinio cyflogau’n fater datganoledig, ond pe na bai dyfarniad costau byw yn cael ei gynnwys yn swm canlyniadol Barnett, byddai rhoi dyfarniad o’r fath yn her i bob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru.
Gobeithio y byddai cyflwyno’r brechlyn yn ystod y misoedd nesaf yn galluogi dychwelyd i normalrwydd yn gyflymach. Fodd bynnag, roedd disgwyl o hyd i ddychwelyd 100% gymryd dwy i dair blynedd.
7.3 Dyhead Risg – SW(20)58
Roedd Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i sicrhau na fyddai unrhyw risgiau diangen nac annerbyniol yn cael eu cymryd a allai roi'r sefydliad neu unrhyw un o'i randdeiliaid mewn perygl o niwed posibl neu beryglu cyflawniad cyffredinol y Cynllun Strategol. Cydnabuwyd y gallai agwedd rhy wrthwynebus tuag at risg arwain at fethu manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd neu anallu i weithredu'n bendant yn wyneb newidiadau yn yr amgylchedd allanol a allai fod yn fygythiad i gyflawni nodau tymor hwy. Er bod Chwaraeon Cymru wedi mabwysiadu agwedd bwrpasol at ddyhead risg ar gyfer risgiau strategol, darparwyd canllawiau ar ffurf mapio dyhead risg priodol yn erbyn risg a gwobr i gynorthwyo gyda'r broses o wneud penderfyniadau.
Mewn achosion lle'r oedd Chwaraeon Cymru yn barod i dderbyn risgiau i hyrwyddo ei amcanion strategol, disgwylid y byddai pob cam lliniaru priodol yn cael ei gymryd. Ar gyfer lefel uwch o risg, rhaid sefydlu lefel uwch o atebolrwydd. Ymhlith yr esiamplau o addasiadau i'r dull blaenorol o
weithredu roedd CSAP, y Model Buddsoddi newydd a'r cynlluniau cyllido a sefydlwyd fel ymateb i
Covid19.
Trafodwyd risg ar lefel cyfarwyddiaeth a'i choladu drwy'r Grŵp Rheoli a Sicrwydd Risg (RMAG) oedd yn argymell yr hyn ddylid ei symud ymlaen i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol gyffredinol. Roedd y
broses honno’n cael ei goruchwylio gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC). Cymeradwyodd
Aelodau'r Bwrdd y raddfa a argymhellwyd ar gyfer dyhead risg.
8. Adroddiad y Cadeirydd a’r Weithrediaeth – SW(20)59
Nodwyd yr adroddiad ac ychwanegwyd dau bwynt pellach:
• Roedd portffolio Eluned Morgan AS bellach yn cynnwys iechyd meddwl. Roedd Chwaraeon Cymru wedi cyflwyno cais am adnoddau mewn perthynas â mynd i'r afael â materion iechyd meddwl drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Roedd yn gysylltiedig ag amcanion presennol Chwaraeon Cymru ar gyfer pobl ifanc, iechyd ac addysg. Nid oedd angen unrhyw staff ychwanegol i'w ddarparu.
• Roedd y £300m a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer Lloegr yn unig a'i nod oedd sicrhau bod chwaraeon yn goroesi heb incwm gwylwyr yn ystod y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Mawrth. Roedd yn seiliedig yn bennaf ar fenthyciadau; roedd £50m yn gymorth grant. Sport England fyddai'n rheoli'r cynllun. Nid oedd ymgynghoriad wedi'i gynnal gyda Chynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref ymlaen llaw. Nid oedd y manylion llawn ar gael eto. Byddai ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal i'r goblygiadau i Gymru, yn enwedig o ran cystadlaethau, digwyddiadau a masnachfreintiau chwaraeon trawsffiniol.
9. Agenda Caniatâd
9.1 Diweddariad sefyllfa pensiwn – SW(20)60
Tynnwyd sylw'r Bwrdd at y risgiau cost sy'n gysylltiedig â darpariaethau pensiwn a ddarperir drwy CPLlL. Yn ogystal â chostau cynyddol darparu buddion gwasanaeth yn y dyfodol, gwnaeth Chwaraeon Cymru gyfraniad blynyddol hefyd tuag at ei gyfran o'r diffyg gwasanaeth blaenorol a gyfrifwyd gan actwarïau'r cynllun. Yn 2019/20 roedd y taliad diffyg hwn yn £941k ac fe'i talwyd ym mis Chwefror 2020. Yn dilyn y prisiad diweddar, a chan gydnabod y cynnydd sylweddol mewn cyfraniadau gwasanaeth yn y dyfodol, ailbroffiliodd actiwarïau’r CPLlL y taliadau diffyg gwasanaeth blaenorol yn effeithiol gan sicrhau sefyllfa niwtral o ran arian parod yn 2020/21 (taliadau gwasanaeth yn y dyfodol + taliadau gwasanaeth blaenorol). Yn ystod y ddwy flynedd nesaf daw'r
costau ychwanegol gwirioneddol i'r amlwg oherwydd bydd y taliadau diffyg gwasanaeth blaenorol yn
cynyddu eto. Rhoddwyd manylion llawn yn yr adroddiad.
Roedd trafodaethau wedi’u cynnal gyda gweinyddwyr CPLlL i nodi unrhyw gamau y gellid eu cymryd yn rhesymol i leihau costau pensiwn cyffredinol. Cadarnhawyd y byddai Gwarant y Goron yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar gyfraddau cyfraniadau gwasanaeth yn y dyfodol a'r diffyg gwasanaeth blaenorol o bosibl. Roedd Chwaraeon Cymru yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ystyried y cais hwn.
9.2 Diweddariad Model Buddsoddi – SW(20)61
Roedd y Prif Swyddog Gweithredol wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i gadarnhau'r model a'r dull gweithredu, y newidiadau i gyllid a'r cynnig pontio i helpu i ddiogelu partneriaid o dan yr
amgylchiadau presennol. Roedd y Weithrediaeth wedi rhoi gwybod i swyddogion am gynnydd ac unrhyw broblemau posibl.
Yn gynnar ym mis Tachwedd, cyfarfu'r staff â'r holl bartneriaid i drafod cyllid a'r dull buddsoddi newydd. Ar gyfer buddsoddiadau partner sy'n cael eu sbarduno gan ddata, rhoddwyd arwydd o'r swm sy'n cynyddu neu'n gostwng. Ar y cyfan, roedd y cyfarfodydd yn gadarnhaol, ac roedd y partneriaid yn hapus gyda’r cyllidebau dangosol ar gyfer 2021/22 ynghyd â'r cyfle i elwa o'r pecyn adfer. Fel y rhagwelwyd, roedd y partneriaid a allai dderbyn llai o arian o 2023 ymlaen yn gofyn am esboniad pellach o’r model. Byddai’r staff yn gweithio gyda'r partneriaid hyn i ateb ymholiadau ac edrych ar eu hanghenion yn y tymor hwy. Roedd partneriaid ar yr un lefel neu lefel uwch o gyllid yn cael cefnogaeth i sicrhau y gallent sicrhau’r effaith orau bosibl i lefel y buddsoddiad a bodloni'r lefel ofynnol o allu sy’n angenrheidiol i'w dderbyn.
Roedd proses apelio ffurfiol yn cael ei datblygu ar y cyd â Chyfreithwyr Loosemores ac roedd barn gymharol am y prosesau a ddefnyddir gan Gynghorau Chwaraeon eraill y Gwledydd Cartref wedi'i sicrhau. Byddai proses gwyno ehangach sy'n gysylltiedig ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cael ei hystyried hefyd. Rhagwelwyd y byddai'r polisïau perthnasol wedi'u diweddaru’n barod i'w cymeradwyo gan y Bwrdd ym mis Chwefror.
9.3 Adroddiad y Gymraeg – SW(20)62
Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg Chwaraeon Cymru 2019/20 ar 30 Medi 2020. Roedd uchafbwyntiau allweddol yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:
➢ Partneriaeth a chyllid parhaus ar gyfer yr URDD a Gemau Cymru (£446k wedi’i fuddsoddi yn
2019/20).
➢ Mwy o ffocws ar y Gymraeg drwy gyfathrebu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys swyddogaethau togl Cymraeg a Saesneg ar wefan Chwaraeon Cymru.
➢ Gwell arwyddion dwyieithog ar draws y ddwy Ganolfan Genedlaethol, testun Cymraeg cyn y
testun Saesneg.
➢ Cyflogi dau siaradwr Cymraeg rhugl yn rhan o dîm Gwasanaeth Cwsmeriaid CGChC.
➢ Drwy gynlluniau’r Gist Gymunedol a’r Grantiau Datblygu nododd 226 o ymgeiswyr llwyddiannus y byddai'r prosiect yn cynyddu eu defnydd o'r Gymraeg gyda 36 o sefydliadau’n
datgan nad oeddent yn darparu gweithgarwch chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg cyn y prosiect.
➢ Galluogi staff i ddysgu Cymraeg yn ystod oriau gwaith.
➢ Ni dderbyniodd Chwaraeon Cymru unrhyw gwynion ffurfiol ynghylch y defnydd o'r Gymraeg yn ystod 2019.
Roedd y Bwrdd a'r Weithrediaeth yn awyddus i ganfod mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar draws y sefydliad a chreu diwylliant lle gallai'r Gymraeg ffynnu. Awgrymwyd bod Chwaraeon Cymru yn mapio'r holl sgiliau ieithyddol o fewn y sefydliad, er na ddylai hyn wanhau'r ymrwymiad i flaenoriaethu defnydd cyfartal o'r Gymraeg.
9.4 Adolygiad Blynyddol Llywodraethiant Bwrdd – SW(20)63
Casglodd yr Is Gadeirydd ymatebion Aelodau'r Bwrdd ynghylch y trefniadau llywodraethu a’r newidiadau penodol a wnaed o ganlyniad i sefyllfa Covid19. Roedd y canlyniadau ar y cyfan yn bleserus ac roedd y mwyafrif o natur gadarnhaol. Nodwyd rhai cyfleoedd ac anghenion datblygu, a byddai cynllun gweithredu'n cael ei lunio a'i gyflwyno yn ôl ger bron y Bwrdd ym mis Chwefror.
9.5 Diweddariad Dirnadaeth Polisi – SW(20)64
• Cynhaliwyd Arolwg ComRes 2.0 yn ystod mis Hydref yn dilyn yr arolwg ym mis Mai. Roedd lefel gyffredinol gweithgarwch corfforol oedolion wedi dychwelyd i lefel debyg i'r cyfnod cyn i Covid19 daro. Fodd bynnag, roedd y pandemig wedi ehangu’r anghydraddoldeb o ran cyfranogiad pobl oedd yn byw o dan amgylchiadau difreintiedig. Roedd rhai pobl yn parhau i fod yn ddihyder o ran dychwelyd i leoliadau chwaraeon, yn enwedig lleoliadau dan do, ond roedd lefel uchel o gysur ar ôl iddynt gymryd rhan. Roedd yr wybodaeth gyhoeddus a'r cyfathrebu ynghylch chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cael eu gwerthfawrogi fwyaf pan oeddent yn dod o ffynonellau'r GIG, llywodraeth leol a’r llywodraeth genedlaethol. Roedd adroddiad llawn ComRes wedi cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill.
• Mynychodd Aelodau'r Bwrdd gyflwyniad a thrafodaeth ar bolisi addysg dan arweiniad yr Athro
Mick Walters ar 8 Tachwedd. Byddai papur yn cofnodi allbynnau'r camau gweithredu yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Bwrdd ym mis Chwefror.
• Roedd British Council Cymru wedi lansio ei adroddiad 'Tuag at Strategaeth Diplomyddiaeth Chwaraeon i Gymru'. Roedd hon yn cynnwys argymhellion penodol ar gyfer Chwaraeon Cymru, ond gyda'r lefel bresennol o adnoddau, capasiti ac arbenigedd byddai'n anodd i Chwaraeon Cymru gyflawni'r disgwyliadau. Fodd bynnag, roedd rôl bosibl i Chwaraeon Cymru hwyluso trafodaeth yn y dyfodol ar y maes gwaith hwn ac roedd posibilrwydd o gyswllt â rhai o'r meysydd eiriolaeth ffocws a nodwyd yn flaenorol, yn fwyaf nodedig y 'ffordd Gymreig' (eirioli dros amgylchedd athletwyr moesegol a datblygu ar draws llwybr yr athletwr).
10. Unrhyw fater arall
Byddai dyddiad ym mis Rhagfyr ar gyfer cyfarfod cymdeithasol ar-lein ar gyfer y Bwrdd a'r tîm Arweinyddiaeth yn cael ei ddosbarthu. Roedd y Grŵp Ymgysylltu’n llunio syniadau ar gyfer dathliadau ar-lein i’r staff yn ystod yr wythnos 14 i 18 Rhagfyr.
11. Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf
25 Chwefror, 20 Mai, 7 Gorffennaf, 17 Medi a 25 Tachwedd 2021