Cyfarfod Bwrdd Chwaraeon Cymru ddydd Gwener 16 Chwefror 2024 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
Yn bresennol: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Ian Bancroft (Is-Gadeirydd), Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Prof Leigh Robinson, Judi Rhys, Rajma Begum, Philip Tilley, Nuria Zolle, Chris Jenkins, Rhian Gibson; Hannah Bruce
Staff Brian Davies (PSG), Emma Wilkins, Rachel Davies, Owen Hathway, Owen Lewis, James Owens, Wendy Yardley (cofnodion)
Arsylwyr Staff:
Allanol: Neil Welch (Llywodraeth Cymru)
1. Croeso/Ymddiheuriadau am absenoldeb
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Nodwyd bod Dafydd Trystan (DT) wedi cytuno â'r Cadeirydd a Llywodraeth Cymru (LlC) i gymryd absenoldeb swyddogol fel aelod o'r Bwrdd oherwydd gwrthdaro buddiannau posibl tra mae'n gweithio fel cynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru. Bydd DT yn cadw mewn cysylltiad â'r is-grŵp Buddsoddi Cyfalaf ond nid fel aelod o'r Bwrdd. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Martin Veale a Graham Williams. Nid oedd unrhyw arsylwyr staff yn bresennol oherwydd gwyliau ysgol hanner tymor. Mae’r mentoriaid ar y cynllun Step to non-Exec wedi gorffen eu rhaglen.
2. Datgan buddiannau (os oes rhai newydd)
Diweddarodd aelodau’r Bwrdd eu datganiadau o fuddiannau fel a ganlyn: -
Mae Tanni Grey-Thompson bellach wedi ymddiswyddo o fwrdd Yorkshire Cricket - bydd yn rheoli’r broses adael yr wythnos nesaf. Mae gwrandawiad dethol ddydd Mawrth.
Mae Rhian Gibson – Cyfarwyddwr Clwb Rygbi Pontypridd – bellach wedi ymddiswyddo o’i swydd
Ailadroddodd Ian Bancroft – Prif Swyddog Gweithredol CBS Wrecsam, ei sylwadau yng nghyswllt unrhyw drafodaeth ar Bartneriaethau Chwaraeon
3. Cofnodion y cyfarfodydd diwethaf
3.1 Cofnodion, Log Gweithredu, Tracwyr Penderfyniadau a Materion yn Codi
Nodwyd cywiriad i gofnodion y cyfarfod diwethaf dyddiedig 24 Tachwedd 2023. Roedd Rhian Gibson hefyd wedi'i chroesawu i Chwaraeon Cymru ond wedi'i hepgor o'r nodiadau. Gyda'r cywiriad hwn, cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod gwir a chywir. Yr unig fater a gododd oedd bod Hyrwyddwyr Iechyd a Diogelwch a Diogelu wedi'u penodi. Pob cam gweithredu wedi'i gwblhau.
3.2 Nodiadau’r Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2023
Cytunwyd ei fod yn gofnod cywir yng nghyfarfod 8 Ionawr 2024.
3.3 Nodiadau’r Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2024
Cadarnhawyd bod ymateb ffurfiol wedi dod i law gan dîm cyllid Llywodraeth Cymru yng nghyswllt y dull arfaethedig o ragdalu rhai partneriaid ar gyfer eu dyraniad ar gyfer 2024-25. Roedd y tîm cyllid wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â'r dull gweithredu arfaethedig. Diolchwyd i NW am ei gyngor a'i gefnogaeth. Cytunwyd fel cofnod cywir.
4. Adroddiad y Cadeirydd a'r Pwyllgor Gwaith – SW(24)01
Ychwanegodd y Prif Swyddog Gweithredol y canlynol at yr adroddiad:
- Mae URC wedi gwneud cynnydd da. Roedd rôl Chwaraeon Cymru bellach yn canolbwyntio ar helpu i sefydlu Grŵp Goruchwylio yn unol ag argymhellion Adolygiad Rafferty a gweithio gyda'r Bwrdd Gweithredol ar y gwelliannau llywodraethu angenrheidiol a nodwyd yn adroddiad ar wahân y BDO. Mae URC wedi cael gwybod na fydd unrhyw arian yn cael ei ddarparu oni bai bod yr amodau sy'n weddill yn cael eu datrys.
- Mae'r Cabinet Chwaraeon (a elwir bellach yn Grŵp Rhyngweinidogol ar Chwaraeon) yn cyfarfod yn bersonol ar 1 Mawrth yn Glasgow ond, yn anffodus, mae'n gwrthdaro â chynhadledd TRARIIS. Roedd cyfarfod diwethaf IMG yn grynodeb ar gynnwys a chafodd ei gynnal ar-lein.
- Mae Netflix wedi gwneud ffilm am Gwpan y Byd i Bobl Ddigartref sy'n cynnwys Cadeirydd sportscotland, Mel Young.
5. Polisi a Strategaeth
5.1 Diweddariad ar Gynllun Busnes 2023-24 SW(24) 02
Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am gynnydd yn erbyn Cynllun Busnes 2023-2024.
Diolchodd EW i'r tîm cyfan am ei gymorth wrth lunio'r adroddiad. Nodwyd bod y Cynllun Busnes wedi’i ailadrodd yn ystod y flwyddyn i ychwanegu blaenoriaeth ynghylch buddsoddiadau. Roedd Chwaraeon Cymru wedi lansio’r ffrwd fuddsoddi a arweinir gan Egwyddorion ac o ystyried yr ymateb i’r dull hwn, mae bellach wedi’i dynnu oddi ar y gofrestr risg.
Nododd EW yr uchafbwyntiau canlynol o’r adroddiad: -
- Lansio’r cynllun Grant Arbed Ynni – ariannu 58 o brosiectau
- Lansiad Citbag, platfform ar-lein wedi'i dargedu at y rhai sy'n cyflwyno chwaraeon i bobl ifanc
- Cynnydd amlwg a chalonogol gyda Phartneriaethau Chwaraeon
- Datblygu pecyn adnoddau partner ar Gynaliadwyedd Amgylcheddol, gyda data cychwynnol yn dangos cyrhaeddiad da grwpiau targed, gan gynnwys mynediad at gynnwys dwyieithog.
Nodwyd bod y cynnydd a wnaethpwyd o ran gweithio hybrid yn fwy cyfyngedig. Roedd hwn yn faes sy'n datblygu o hyd ac roedd y Bwrdd yn parhau'n awyddus i'r gwaith barhau, gan ymgorffori'r hyn a ddysgwyd hyd yma.
Nododd y Bwrdd adnodd Citbag a gwerth masnachol posibl yr adnodd hwn. Trafododd y Bwrdd flaenoriaeth y system chwaraeon gynhwysol hefyd, gan nodi ei bod yn llai penodol na blaenoriaethau eraill, a byddai'n ddefnyddiol ystyried sut i benderfynu a oedd y gwaith yn cyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd.
5.2 Atebolrwydd Partner Ch3 SW(24) 03
Roedd y papur yn rhoi diweddariad chwarter tri (Hydref-Rhagfyr) ar gynnydd a dulliau dysgu partneriaid yn erbyn y fframwaith atebolrwydd.
Y prif bwyntiau i'w nodi oedd mai hwn oedd y trydydd papur o’r natur hwn i'r Bwrdd a dylid canmol JN a'i thîm am y cynnydd amlwg. Roedd hyn yn ddechrau gwell cydweithio gyda phartneriaid a rhyngddynt ac mae’r adroddiad bellach yn cael ei rannu ar draws y partneriaid ar gyfer dulliau dysgu a chydweithio pellach. Ac ystyried yr agwedd besimistaidd naturiol ynghylch cyllidebau, mae hyn hefyd yn peintio darlun amgen o rywfaint o bositifrwydd ymhlith partneriaid a’r rôl y gall adrodd straeon ei chwarae i sbarduno brwdfrydedd.
5.3 Cynllun Busnes 2024-25 SW(24) 04
Mae’r papur hwn yn amlinellu Cynllun Busnes arfaethedig Chwaraeon Cymru ar gyfer 2024-25 i’w ystyried gan y Bwrdd a’i gymeradwyo yn y pen draw.
Esboniwyd yn gryno’r newidiadau o gynllun y llynedd gyda’r prif ffocws ar wreiddio’r amcan o System Chwaraeon Cynhwysol ym mlaenoriaethau eraill y Cynllun Busnes yn hytrach na'i gynnwys fel eitem ar wahân. Yr ail newid allweddol oedd llywio’r cynllun busnes oddi wrth Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (‘EDI’) tuag at Ddiwylliant Sefydliadol Cynhwysol. Nid lleihau pwysigrwydd EDI oedd bwriad y newid hwn ond yn hytrach cydnabod bod diwylliant sefydliadol cynhwysol yn creu amgylchedd lle mae EDI yn ffynnu.
Roedd y Cynllun Busnes hefyd yn cynnwys manylion nifer o brosiectau o bwys, sef prosiect cyfalaf Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 30, Cysylltiadau allanol a gwell gwytnwch yn y sector.
Trafododd y Bwrdd y Cynllun Busnes gan nodi’r canlynol: -
- Teimlwyd bod y symudiad tuag at Ddiwylliant Sefydliadol Cynhwysol yn newid cadarnhaol ac roedd yn cael ei groesawu'n gyffredinol.
- Amlygwyd cysylltiadau allanol fel ychwanegiad angenrheidiol at y prosiectau o bwys.
- Nodwyd bod adran ‘cipolwg’ y Cynllun Busnes yn crynhoi ‘beth’ roedd Chwaraeon Cymru yn ei gynllunio ond y gellid yn hytrach ei haddasu i grynhoi effaith fwriadedig y gwaith.
- Byddai'r Cynllun Busnes yn elwa ar fwy o eglurder ynghylch pam y dewiswyd y prosiectau penodol o bwys.
Cymeradwyodd y Bwrdd y Cynllun Busnes.
5.4 Cyllideb 2024-25 SW(24) 05
Roedd y papur hwn yn amlinellu’r gyllideb arfaethedig ar gyfer 2024-25 yn seiliedig ar setliad drafft Llywodraeth Cymru a’r Cynllun Busnes uchod. Roedd y papur yn cyfeirio at y broses o osod y gyllideb ynghyd â'r rhagdybiaethau a'r dewisiadau allweddol a ystyriwyd gan y Tîm Gweithredol a'r Tîm Arwain wrth ddatblygu'r gyllideb.
Nododd EW y canlynol: -
- Mae'r cyd-destun yn hysbys iawn gyda gostyngiad o 10.5% yng nghyllid Llywodraeth Cymru.
- Roedd effaith y gostyngiad yn y gyllideb wedi’i lliniaru cymaint â phosibl drwy wneud rhagdaliad i rai partneriaid ar gyfer eu dyraniad yn 2024-25. Roedd gostyngiad o £800k wedi'i gymhwyso i gyllidebau partneriaid.
- Roedd deiliaid cyllidebau wedi mabwysiadu agwedd ddarbodus at feysydd gwariant dewisol.
- Effaith net y gyllideb oedd diffyg o £504k. Amlinellodd EW fod mesurau lliniaru posibl, gan gynnwys y tebygolrwydd na fyddai rhai sefydliadau partner yn bodloni gofynion y Fframwaith Galluogrwydd (ac y byddent yn cael llai o arian o ganlyniad). Parhaodd Chwaraeon Cymru hefyd i lobïo am lythyr o gefnogaeth / newid i’r Cytundeb Fframwaith, a fyddai’n sbarduno adolygiad o statws Chwaraeon Cymru o fewn y Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol. Gallai hyn arwain at arbediad ariannol sylweddol.
- Roedd asesiad effaith wedi'i gynnal a'i atodi i'r adroddiad.
Nododd y Bwrdd y papur a phwysleisiodd yr angen i ystyried goblygiadau cyllidebol yn y tymor canolig, gan dderbyn nad oedd cyllideb ddangosol gan Lywodraeth Cymru y tu hwnt i 2024-25.
Cymeradwyodd y Bwrdd gyllidebau’r Trysorlys a’r Loteri Genedlaethol ar gyfer 2024-25.
5.5 Buddsoddiadau Partner SW(24) 06
Roedd y papur hwn yn argymell faint o fuddsoddiad y dylai Chwaraeon Cymru ei wneud mewn partneriaid ar gyfer 2024-25.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r canlyniadau ariannu ar gyfer y 12 mis nesaf yn seiliedig ar gyllideb ddangosol LlC, wrth i ni ddechrau blwyddyn olaf y trawsnewid i’r dull buddsoddi newydd. Nodwyd bod tri phartner ar hyn o bryd heb fodloni meini prawf llywodraethu (galluedd) angenrheidiol ar gyfer cael cyllid. Yn fwy cyffredinol, mae cyfarfod ar fin digwydd gyda phartneriaid i edrych ar effeithiolrwydd, effeithlonrwydd, gwasanaethau a rennir a chynhyrchu incwm - byddwn yn ceisio eu helpu drwy eu cefnogi gyda’r elfen hon yn nghydnerthedd y sector.
Cymeradwyodd y Bwrdd yr argymhellion
5.6 Cynllun Cydraddoldeb Strategol SW(24) 07
Cyflwynodd EW y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ar gyfer y cyfnod 2024-28, gan nodi’r canlynol:-
- Mae gofyniad statudol ar Chwaraeon Cymru i gyhoeddi ei gynllun cydraddoldeb strategol ar gyfer 2024-28 erbyn 1 Ebrill 2024.
- Defnyddiwyd dull cyfaill beirniadol i gael mewnbwn a mewnwelediad gan amrywiaeth o unigolion a sefydliadau ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig. Roedd hyn wedi bod yn rhan hanfodol o ddatblygu'r Cynllun ac roedd adborth wedi'i ymgorffori yn y ddogfen.
- Roedd pedwar amcan drafft yn canolbwyntio ar ddiwylliant sefydliadol, bylchau cyflog, prosesau caffael cymdeithasol gyfrifol a gwelliant parhaus.
- Roedd y Cynllun wedi'i drafod yn y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a diweddarwyd y ddogfen yn seiliedig ar adborth.
- Yn amodol ar gymeradwyaeth y Bwrdd, y cam nesaf fyddai cyfieithu'r Cynllun a'i gyhoeddi.
Trafododd y Bwrdd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a nododd ei fod yn teimlo’n briodol uchelgeisiol (e.e. dileu yn hytrach na lleihau bylchau cyflog).
Cymeradwyodd y Bwrdd Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028.
6. Cyllid a Risg
6.1 Cyllid 2023-24 Adroddiad Mis 9 SW(24) 08
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o sefyllfa ariannol Chwaraeon Cymru hyd at 31 Rhagfyr 2023. Roedd tanwariant tebygol o £1.5m wedi'i nodi. Roedd hyn yn cynnwys tair elfen allweddol: -
- Roedd tanwariant adrannol o £600k wedi'i nodi drwy gyfarfodydd monitro cyllideb chwarterol gyda deiliaid cyllidebau
- Peidio â thalu cyllid i bartner nad oedd yn bodloni'r Fframwaith Galluoedd ar hyn o bryd
- Peidio â thalu cymorth costau byw i Bartneriaethau Chwaraeon (gan nad oeddent i gyd wedi'u sefydlu).
Nodwyd bod y Bwrdd wedi ystyried sut y gellid defnyddio'r swm hwn i liniaru'r gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer 2024-25 a chytunwyd y byddai rhagdaliadau'n cael eu gwneud i rai partneriaid penodol. Byddai hyn hefyd yn sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn bodloni’r gofyniad i aros o fewn y balans arian parod o 2% i’w gario ymlaen ar 31 Mawrth 2024.
Bydd gwariant y Loteri yn dod i gyfanswm o £16.8m yn erbyn cyllideb o £17.1m. Nodwyd y bu galw digynsail am Gronfa Cymru Actif (BAWF).
6.2 Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol SW(24) 09
Amlinellodd EW fod y Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei adolygu bob blwyddyn. Cynigiwyd nifer fach o newidiadau a thynnwyd sylw atynt mewn testun coch. Roedd y newidiadau’n cynnwys cyflwyniad cynhwysfawr yn amlinellu rôl Chwaraeon Cymru, addasiadau i rywfaint o’r iaith er mwyn sicrhau cynwysoldeb a chywiro rhai mân wallau teipio. Yn dilyn adborth gan aelodau'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, roedd rhagor o fanylion ynghylch y Loteri Genedlaethol wedi'u hymgorffori yn y Llawlyfr.
Cymeradwyodd y Bwrdd y Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
6.3 Cylch Gorchwyl SW(24) 10
Amlinellodd EW y dylid adolygu'r cylch gorchwyl ar gyfer pob Pwyllgor bob blwyddyn, fel yr amlinellwyd yn y Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol ac yn unol ag arfer da.
Cafwyd crynodeb fel a ganlyn gan EW: -
- ARAC – dim newidiadau wedi'u cynnig.
- Pwyllgor EDI – adolygiad cynhwysfawr gan ystyried cynnydd mewnol a sector. Eitemau sefydlog ar yr agenda wedi'u cynnwys. Rhoddwyd ystyriaeth i gyfethol lleisiau amrywiol i'r grŵp.
- Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol – dim newidiadau sylweddol wedi’u cynnig.
- Pwyllgor Llywodraethu Critigol – sefydlwyd hwn yn ystod Covid ac ystyriwyd ei bod yn briodol ffurfioli’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y grŵp hwn.
Cymeradwyodd y Bwrdd y Cylch Gorchwyl.
6.4 Parodrwydd i Dderbyn Risg a Chofrestr Risg Gorfforaethol SW(24) 11
Cyflwynodd EW y parodrwydd arfaethedig i dderbyn risg, gan nodi yn dilyn adolygiad, na chynigiwyd unrhyw newidiadau. Nodwyd bod y Tîm Gweithredol wedi ystyried risg yng nghyd-destun llai o gyllid a theimlwyd bod y parodrwydd yn cael ei gydbwyso'n briodol rhwng ceisio risg i ysgogi canlyniadau gwell ac arloesi a'r risg lleiaf posibl ar gyfer meysydd cydymffurfio a rheoleiddio. Nodwyd hefyd bod cyfyngiadau capasiti cynyddol o fewn rhai timau, yn enwedig y rheini a oedd yn canolbwyntio ar agweddau ar lywodraethu a chydymffurfiaeth partneriaid. Gallai meysydd gwaith â blaenoriaeth sy’n ymwneud â gwytnwch sector arwain at atebion newydd ac arloesol, a allai warantu adolygiad o’r parodrwydd i dderbyn risg o ran enw da yn y dyfodol.
Nodwyd tri diweddariad i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol: -
- Risg newydd yn ymwneud ag ansicrwydd gwleidyddol oherwydd etholiadau sydd ar fin digwydd (risg isel)
- Risg newydd yn ymwneud â chynaliadwyedd ariannol rhai partneriaid (risg isel)
- Roedd y risg i enw da yn ymwneud â'r dull buddsoddi sy'n cael ei lywio gan egwyddorion wedi'i archifo gan fod y Cynllun Cyfathrebu wedi lliniaru'r risg hon yn llawn.
Trafododd y Bwrdd y parodrwydd i dderbyn risg a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, gan nodi’r canlynol: -
- Nodwyd nad oedd modd lliniaru rhai risgiau, ac roedd yn fwy perthnasol cael cynllun ymateb perthnasol ac addas
- Nodwyd bod y parodrwydd i dderbyn risg cydymffurfio/rheoleiddio yn nodi y byddai Chwaraeon Cymru yn ‘osgoi’ penderfyniadau a allai arwain at her reoleiddiol uwch. Mae modd edrych eto ar y derminoleg hon.
Cymeradwyodd y Bwrdd y parodrwydd i dderbyn risg a nododd y gofrestr risg gorfforaethol.
6.5 Llywodraethu'r Bwrdd – diweddariad
Nododd y Cadeirydd fod yr amserlen wreiddiol ar gyfer recriwtio aelodau'r Bwrdd ar gyfer y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf yn cael ei thrafod ar hyn o bryd gyda LlC ond bydd angen cynnal gwerthusiadau Bwrdd o hyd.
Diolchodd yr Is-Gadeirydd i aelodau'r Bwrdd am ddychwelyd eu matrics sgiliau, gan nodi mai'r nod yw cyflwyno canlyniad yr adolygiad hwn yng nghyfarfod nesaf y bwrdd. Byddai'r matrics sgiliau hefyd yn cyfrannu at y gwerthusiad, yn llywio datblygiad personol yr aelodau ac yn helpu i gynllunio olyniaeth.
Cyn hyn roedd gwerthusiadau'r Bwrdd yn golygu cyfarfod gyda'r is-gadeirydd ond y nod yw diweddaru'r broses gydag elfen ychwanegol o hunanasesu (naratif a sgorio) yn seiliedig ar arfer da.
Nododd yr Is-Gadeirydd hefyd fod adolygiad llywodraethu yn elfen allweddol o sicrhau bod dulliau effeithiol yn eu lle. Roedd y contract gyda Deloitte bellach wedi dod i ben ac roedd archwilwyr mewnol newydd (RSM) wedi'u penodi yn dilyn proses dendro. Byddent yn cynnal yr adolygiad hwn.
7. Adroddiadau Grwpiau Bwrdd a Phwyllgorau Sefydlog
7.1 Crynodeb o Is-grwpiau SW(24) 12
Roedd y papur hwn yn crynhoi trafodaethau a phenderfyniadau cyfarfodydd is-grŵp y Bwrdd ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd. Bydd unrhyw ddiweddariadau sylweddol neu faterion sydd angen penderfyniadau yn cael eu cyflwyno mewn papurau ar wahân. Mae'n bapur er gwybodaeth.
8. Unrhyw fater arall
- Mae Chwaraeon Cymru yn ceisio cyrraedd Lefel 2 y safonau Diogelu. Mae hyfforddiant Bwrdd yn un o'r gofynion, felly awgrymir trefnu sesiwn ar gyfer y noson cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd – mae trothwy presenoldeb o 80% i'w gyrraedd ar gyfer achrediad.
- Llongyfarchodd y Bwrdd RB ar lwyddiant gwobrau cyntaf WEDSA ym mis Rhagfyr. Cytunodd y Cadeirydd ei fod yn gyfle rhwydweithio gwych yn ogystal â dathlu llwyddiannau a bod RB a'i phwyllgor gwirfoddol wedi gwneud llawer iawn o waith i sicrhau ei fod yn llwyddiant.
- Cyfarfod Bwrdd mis Medi i'w gynnal yng Ngorllewin Cymru - roedd Parc y Scarlets wedi cadarnhau ei fod ar gael, fodd bynnag, efallai y byddwn yn edrych ar ddewisiadau eraill yn Abertawe oherwydd cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus haws (i'w gadarnhau).
9. Dyddiad y cyfarfodydd nesaf: 17 Mai 2024
12 Gorffennaf, 20 Medi (Gorllewin Cymru), 22 Tachwedd 2024
Cymeradwyodd y Bwrdd y cofnodion yn ei gyfarfod ar 17 Mai 2024.