Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Papurau Bwrdd Chwaraeon Cymru
  4. Cofnodion y Cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ddydd Gwener 29 Gorffennaf 2022 yng Ngwesty Edgbaston Park, Birmingham / ar-lein

Cofnodion y Cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ddydd Gwener 29 Gorffennaf 2022 yng Ngwesty Edgbaston Park, Birmingham / ar-lein

Yn Bresennol: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir (Eitemau 1-5.2), Ian Bancroft, Rajma Begum, David Trystan Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Hannah Murphy, Judi Rhys, Yr Athro Leigh Robinson, Phil Tilley, Martin Veale

Staff: Brian Davies (Prif Weithredwr), Graham Williams, Emma Wilkins, Craig Nowell, Liam Hull, Joanne Nicholas, Owen Lewis, Jane Foulkes, Owen Burgess (Eitem 5.3), Susie Osborne (Eitem 5.3), Amanda Thompson (cofnodion). Allanol: Sian Dorwood (Step To Non-Exec)

1.    Croeso / ymddiheuriadau am absenoldeb

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Alison Thorne a Neil Welch (Llywodraeth Cymru).

2.    Datgan Buddiannau

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau newydd.

3.    Cofnodion y cyfarfod diwethaf dyddiedig 6 Mai, cofnod gweithredu a materion yn codi

Derbyniwyd y cofnodion fel cofnod manwl gywir.

Materion yn codi: Panel Ieuenctid: Roedd y Weithrediaeth wedi ailedrych ar y cylch gorchwyl gwreiddiol ac wedi trafod rôl bosibl y Panel. Roedd y Comisiynydd Plant yn awyddus i helpu gyda’i ddyfodol. Byddai’r Prif Weithredwr yn siarad â Chadeirydd ac aelodau’r Panel. Roedd hefyd yr adolygiad annibynnol diweddar o raglen y Llysgenhadon Ifanc i’w ystyried. Awgrymwyd gofyn i'r Panel lunio prosiect a chael cyllideb. Byddai awgrymiadau ar sut i symud y Panel Ieuenctid yn ei flaen yn cael eu cyflwyno i gyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Medi.

4.    Adroddiad y Cadeirydd a’r Weithrediaeth – SW(22)23

Y Loteri Genedlaethol: Mae UK Sport wedi bod yn bryderus ynghylch sut bydd costau’r her hon yn cael eu talu ac a fydd unrhyw iawndal yn ddyledus. Yn yr adroddiad roedd yr ymadrodd “apêl wedi ei chadarnhau” yn anghywir a dylai ddarllen “caniatâd wedi ei roi i apêl”. Roedd unrhyw fygythiad i arian y Loteri flynyddoedd i ddod yn y dyfodol, ond roedd y risg yn uchel ar agenda UK Sport.

Cymdeithas Bêl-droed Cymru: Roedd cynnydd da wedi’i wneud a byddai llythyr cynnig yn cael ei anfon yn fuan. Bu llawer o newidiadau i staff CBDC.

Roedd llythyr a dderbyniwyd gan Gymdeithas y Swyddogion Diwylliant a Hamdden, Community Leisure UK a Chymdeithas Chwaraeon Cymru yn codi pryderon ynghylch effaith yr amgylchiadau economaidd presennol ar ddarparu gwasanaethau celf, diwylliant, chwaraeon, gweithgarwch corfforol a hamdden a gefnogir gan lywodraeth leol yng Nghymru. Byddai ymateb ar y cyd gan Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cael ei anfon yn fuan ac roedd y ddau sefydliad yn hapus i gydweithio ar fentrau ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.

Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru (ARWAP) Llywodraeth Cymru – roedd Chwaraeon Cymru wedi cael ei annog i wneud cais ac roedd cyflwyniad wedi’i wneud yr wythnos hon.

Arolwg Chwaraeon Ysgol: Roedd yr arolwg wedi cau bellach a chafwyd 116,000 o ymatebion. Diolchodd y Prif Weithredwr i bawb a gymerodd ran am eu gwaith ymroddedig i sicrhau lefel mor uchel o atebion. Byddai’r ysgolion yn derbyn eu hadroddiadau unigol erbyn diwedd mis Awst a'r awdurdodau lleol ychydig yn ddiweddarach yn yr hydref. Byddai'r data'n cael eu defnyddio ar unwaith ar gyfer y dull buddsoddi ar gyfer partneriaid sy'n cael eu sbarduno gan ddata. Byddai mwy o wybodaeth yn cael ei rhoi i'r Bwrdd ym mis Medi.

Adolygiad Whyte: Byddai cyflwyniad ar yr ymateb yn cael ei roi yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Medi. Roedd yn bwysig sicrhau nad oedd y Gwledydd Cartref yn cael eu hanwybyddu.

Byddai ysgrifenyddiaeth y Grŵp Merched Rhyngwladol yn trosglwyddo o Seland Newydd i'r DU gyda lansiad yn cael ei gynnal yng Ngemau'r Gymanwlad Birmingham 2022.

Gemau’r Gymanwlad: Teimlai’r aelodau bod diffyg amrywiaeth ymhlith cynrychiolaeth Tîm Cymru yn y Seremoni Agoriadol (gan nodi nad oedd y grŵp yn cynnwys yr holl athletwyr a oedd yn cymryd rhan yn y Gemau). Cafwyd trafodaeth am amrywiaeth a gwnaed y pwyntiau a ganlyn:

·         Rhaid i Chwaraeon Cymru sicrhau bod CRhC yn ymddwyn mewn ffordd gynhwysol.

·         Roedd Streetgames yn helpu i ysbrydoli pobl ifanc drwy fynd â hwy i'r Gemau fel gwylwyr.

·         Mae Chwaraeon Cymru wedi defnyddio delweddau nad ydynt yn ddigon cynrychioliadol.

·         Dylai Chwaraeon Cymru nid yn unig ddibynnu ar bartneriaid penodol i annog grwpiau a dangynrychiolir i wneud cais am gyllid ond dylai gyflawni camau gweithredu uniongyrchol wedi'u targedu ar lefel gymunedol.

·         Dadansoddi data amrywiaeth ar gyfer pob safle yn y sector chwaraeon gan gynnwys ar y lefel uchaf.

·         Ychydig iawn o fudd o ran gwaddol gafodd rhai para chwaraeon o Gemau Paralympaidd Llundain 2012, nid yw'r niferoedd sy'n cael eu denu i rai para chwaraeon wedi cynyddu digon.

·         Nododd Dinas Caerdydd ddiffyg chwaraewyr o gefndiroedd Asiaidd. A ddylid cynnal y math hwn o adolygiad ar sail sector ehangach i nodi gwahaniaethau o fewn ac ar draws ethnigrwydd?

·         Dylid codi'r mater hwn gyda Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad. A yw'r dewis o chwaraeon yn peri anfantais i rai nodweddion o gymharu ag eraill?

·         Mae Chwaraeon Cymru wedi gwneud newid pwysig mewn blaenoriaethau fel y nodir yn y Cynllun Busnes, ond mae gan y sefydliad fwy i'w wneud.

5.    Polisi a Strategaeth

5.1 Diweddariad Cyfnod 1 y Cynllun Busnes – SW(22)24

Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgarwch a’r cyflawni yn erbyn y Cynllun Busnes ar gyfer misoedd Mai a Mehefin 2022.

Pwyntiau adborth:

·         Roedd y cynnydd ar gyfer y Partneriaethau Chwaraeon yn gadarnhaol iawn. Roedd Canolbarth y De yn symud i benodi Rheolwr Prosiect. Byddai'r Weithrediaeth yn cyfarfod yn fuan â’r ddau brif weithredwyr awdurdod lleol ar gyfer Gwent. Awgrymodd RB y dylai helpu'r Partneriaethau Chwaraeon i ymgysylltu â'u cymunedau lleiafrifoedd ethnig.

·         Byddai mynd â chanfyddiadau i'r Byrddau Iechyd yn cael ei drafod ymhellach y tu allan i'r cyfarfod hwn.

·         Angen mwy o gydlynu gyda'r gwaith EDI.

·         Cofnod Mind the Gap i gael ei gywiro gan fod dweud nad oedd ein barn yn cael ei mabwysiadu yn anghywir.

·         Roedd y strategaeth i fynd i'r afael â gordewdra yng Nghymru yn methu a dylai Chwaraeon Cymru gadw llygad barcud ar hyn a gwthio iddo ddigwydd.

5.2 System Chwaraeon Gynhwysol – cyflwyniad  

Roedd y pwysoli wedi'i ddiwygio ar gyfer y tair egwyddor o gydraddoldeb (50%), arbenigedd (30%) a dull gweithredu (20%). Byddai ffactor ‘capasiti’ ychwanegol yn cael ei ddefnyddio hefyd gyda chyfanswm y sgôr. Roedd disgrifiadau, meini prawf, datganiadau effaith a sgorio effaith wedi'u mireinio.

Byddai’r dull gweithredu arfaethedig ar gyfer CRhC yn seiliedig ar y data a gasglwyd o Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022. Dosbarthwyd CRhC sy’n bodloni trothwy o ddata cyfranogiad fel rhai a sbardunir gan ddata, a byddai gan y rhai nad oeddent yn bodloni’r trothwy ddull hybrid o weithredu gan ddefnyddio data perfformiad, egwyddor cydraddoldeb y model a data Arolwg Cenedlaethol / Arolwg Chwaraeon Ysgol perthnasol.

Gofynnodd adborth diweddar am dri dull buddsoddi yn hytrach na dau (sbardunir gan ddata, seiliedig ar egwyddorion, hybrid) ac y dylid bod yn ymwybodol o swyddogaethau unigryw amrywiol rhai partneriaid. Roedd y pwyntiau adborth eraill yn cynnwys yr angen am gael cyllideb ddigonol i feithrin partneriaethau newydd, cael pontio wedi’i reoli’n bwrpasol yn unol â’r dull a sbardunir gan ddata, mabwysiadu dull atebolrwydd o weithredu a rhoi’r system ar waith cyn gynted â phosibl.

Camau nesaf arfaethedig:

·         Yn Ch2, diweddaru partneriaid, defnyddio adborth i lunio'r model terfynol, adolygu cymheiriaid a mapio'r Arolwg Chwaraeon Ysgol

·         Yn Ch3, cytuno ar y model terfynol (cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi), cynnal profion terfynol ac archwiliad cynghori (Hydref), buddsoddiad a argymhellir ar gyfer yr holl bartneriaid (cyfarfod y Bwrdd ym mis Tachwedd), cyfathrebu rhagor o fanylion am weithredu i bartneriaid.

·         2023/24 Ch1 Gweithredu model (blwyddyn bontio 1)

Pwyntiau adborth:

·         Pwysigrwydd mynegi'n glir yr hyn a olygir gan y System Chwaraeon Gynhwysol. Byddai’r uwchgynhadledd chwaraeon sydd i’w chynnal yr hydref hwn yn gyfle da i wneud hyn.

·         Mae angen ymgorffori hyblygrwydd heb ganiatáu i hunan-les reoli.         

·         Bydd angen teilwra’r cyfathrebu a’r negeseuon i gyd-fynd â gwahanol gynulleidfaoedd.

·         Bydd y broses gyfweld ansoddol gyda phlant a phobl ifanc yn dilyn ymlaen o'r Arolwg Chwaraeon Ysgol a bydd yn mynd i fwy o ddyfnder nag y gellir ei gynnwys yn yr arolwg hwnnw.

5.3 Dull Buddsoddi Mewn Partneriaid Heb Ei Sbarduno gan Ddata – SW(22)25

Roedd y papur yn rhoi diweddariad ar y cynnydd ers mis Mai ar y dull gweithredu yn y dyfodol ar gyfer partneriaid nad ydynt yn cael eu sbarduno gan ddata o 2023/24. Roedd y model diwygiedig yn defnyddio dull seiliedig ar egwyddorion o weithredu gyda phwysoli ar gydraddoldeb (50%), arbenigedd (30%) a dull gweithredu (20%). Roedd pob egwyddor yn cynnwys ystod o feini prawf i bennu effaith a byddai cyfanswm y sgôr wedyn yn cael ei bwysoli gyda sgôr capasiti er mwyn rhoi canran derfynol i’w defnyddio i bennu uchafswm y buddsoddiad ariannol.

Oherwydd cymhlethdodau cynhwysiant CRhC o fewn yr AChY bydd dull hybrid yn cael ei ychwanegu at y Dull Buddsoddiad Strategaeth, fel y manylir yn y papur. Byddai tîm y prosiect yn rhoi hyn ar brawf i ddeall yr effaith yn well. Byddai cyfathrebu â phartneriaid yn egluro'r dull gweithredu. Byddai cyfnod pontio o gyllidebau gwarchodedig ar gyfer blwyddyn 1 yn 2023/24.

Cytunodd yr Aelodau i'r cyfeiriad a gymerwyd ac roedd disgwyl y byddent yn cymeradwyo'r model terfynol yn eu cyfarfod nesaf ym mis Medi.

5.4 Cyfleuster CGChC yn y Dyfodol – SW(22)26

Roedd yr Achos Amlinellol Strategol (SOC) wedi'i gwblhau. Roedd cyflwyniad manwl wedi’i roi i Grŵp Adolygu Cyfleusterau Bwrdd Chwaraeon Cymru (FRG) ar 19 Gorffennaf ac roedd y papur yn adlewyrchu eu pwyntiau trafod, camau gweithredu a’r rhestr fer a argymhellir fel y dangosir isod. Roedd y SOC yn cyd-fynd yn agos ag amcanion Llywodraeth Cymru yn ogystal â Gweledigaeth a Strategaeth Chwaraeon Cymru ond byddai angen ei fireinio, gan gynnwys mwy o fanylion am gwmpas a graddfa’r opsiynau.

Rhestr Fer Dadansoddiad SWOT a Argymhellir:

Opsiwn 1: Busnes Fel Arfer (BAU)

Opsiwn 2.1 Adnewyddu oddi mewn i ôl troed presennol yr adeilad

Opsiwn 2.2 Adnewyddu ac estyniad

Opsiwn 2.3 Adnewyddu, dymchwel rhannol ac ailadeiladu    

Opsiwn 3.1 Cyfleuster newydd ar y safle presennol (parth 1)

Opsiwn 3.2 Cyfleuster newydd ar y safle presennol (parth 2)

Opsiwn 4 Cyfleuster newydd ar y safle newydd

Yn dilyn cyfarfod FRG roedd y Weithrediaeth wedi trafod y SOC ymhellach gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a roddodd adborth cadarnhaol a siarad am gyd-fynd ag ymrwymiadau maniffesto a Chynllun Buddsoddi Seilwaith Cymru (WIIP). Cafwyd trafodaeth am gysylltedd â pholisïau’r Amgylchedd a Thrafnidiaeth ynghyd â’r Strategaeth Digwyddiadau Cenedlaethol (gyda llygad ar unrhyw gais posibl yn y dyfodol am gynnal Gemau’r Gymanwlad). Byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl gweld Chwaraeon Cymru yn ceisio cyllid partneriaeth. Nid oedd y swyddogion wedi cyflwyno sylwadau ar safleoedd adleoli posibl ac eithrio mynegi dyhead i gyd-fynd â'u hamcanion adfywio a thrafnidiaeth.

Roedd Aelodau'r Bwrdd yn eu rôl fel Ymddiriedolwyr wedi trafod y SOC a llunio rhestr fer yng nghyfarfod Ymddiriedolaeth Cyngor Chwaraeon Cymru yn gynharach yn ystod y dydd. Cofnodwyd sylwadau ac adborth ar y cofnodion hynny.

Cymeradwyodd Aelodau'r Bwrdd yr argymhelliad i fwrw ymlaen â'r opsiynau rhestr fer a symud ymlaen i'r Achos Busnes Amlinellol (OBC).

5.5 Cynllun Gweithredu Llywodraethu Bwrdd Chwaraeon Cymru – SW(22)27

Cynhaliwyd arolwg effeithiolrwydd y Bwrdd ddiwedd 2021 ac adroddwyd ar y canlyniadau ym mis Chwefror 2022. Manylwyd ar nifer o gyfleoedd datblygu yn y papur a byddent yn cael eu gweithio yn y cylch busnes blynyddol. Diffiniwyd sganio'r gorwel fel edrych y tu hwnt i'r cyfnod nesaf o bum mlynedd ac nid edrych yn ddwfn ar faterion cyfredol. O ran rôl Is Gadeirydd ar gyfer pob un o Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd, gofynnwyd i’r Aelodau fynegi eu barn naill ai i Is Gadeirydd y Bwrdd neu i Gadeirydd y Grŵp neu’r Pwyllgor Sefydlog priodol.

6.    Rheoli Cyllid a Risg – SW(22)28-33

Roedd y dogfennau canlynol wedi’u hadolygu gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf 2022 a’r argymhelliad oedd bod y Bwrdd yn cymeradwyo’r cyfrifon.

Diolchodd y Prif Weithredwr a Chadeirydd ARAC i bawb a gymerodd ran am safon uchel yr adrodd.

6.1 ISA 260 Archwilio Cymru

Nododd yr aelodau yr adroddiad. Ni chodwyd unrhyw faterion.

6.2 ISA260 y Swyddfa Archwilio Genedlaethol

Nododd yr aelodau yr adroddiad. Ni chodwyd unrhyw faterion.

6.3 Cyfrifon Statudol 2021/22: Cyfnerthedig Cyngor Chwaraeon Cymru

Cymeradwyodd yr aelodau y cyfrifon a byddant yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn awr.

6.4 Cyfrifon Statudol 2021/22: Loteri

Cymeradwyodd yr aelodau y cyfrifon gan ddirprwyo’r gymeradwyaeth derfynol i’r Swyddog Cyfrifo gan nad oedd Senedd y DU yn cyfarfod ar hyn o bryd.

6.5 Cyfrifon Statudol 2021/22: Ymddiriedolaeth Cyngor Chwaraeon Cymru  

Cymeradwyodd yr aelodau y cyfrifon a byddent yn cael eu cyflwyno i’r Comisiwn Elusennau.

6.6 Adroddiad Cyllid Chwarter 1 2022/23 – SW(22)33

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o sefyllfa ariannol Chwaraeon Cymru ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2022. Nododd yr aelodau yr adroddiad, ac ni chodwyd unrhyw faterion.

7.    Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd

7.1 Crynodeb o’r Grwpiau a’r Pwyllgorau Sefydlog – SW(22)34

Nododd yr aelodau yr adroddiad. Ni chodwyd unrhyw faterion.

7.2 Adroddiad blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad i'r Bwrdd ar waith y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ystod 2021/22. Roedd y Cadeirydd yn falch iawn o'r record ardderchog a gyflawnwyd gan Chwaraeon Cymru o adroddiadau archwilio sicrwydd sylweddol. Diolchwyd i'r staff am eu hymdrechion i gyflawni'r record hon.

8.    Unrhyw Fater Arall

Ni chodwyd unrhyw faterion pellach.

9.    Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf

Dyddiadau yn 2022: 16 Medi 2022, 25 Tachwedd 2022

Dyddiadau yn 2023: 17 Chwefror, 12 Mai, 7 Gorffennaf, 22 Medi 2023, 24 Tachwedd 2023

Cymeradwywyd y cofnodion yng nghyfarfod y Bwrdd ar 16 Medi 2022.