Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Papurau Bwrdd Chwaraeon Cymru
  4. Cofnodion Bwrdd - Gorffennaf 2024

Cofnodion Bwrdd - Gorffennaf 2024

Cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ar ddydd Gwener 12 Gorffennaf 2024 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

Yn bresennol: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Ian Bancroft (Is Gadeirydd), Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Yr Athro Leigh Robinson, Judi Rhys, Rajma Begum, Philip Tilley, Nuria Zolle, Chris Jenkins, Rhian Gibson, Martin Veale, Dafydd Davies

Staff: Brian Davies (PSG), Emma Wilkins, Graham Williams, Owen Lewis, James Owens, Rachel Davies, Wendy Yardley (cofnodion). Dan Grimstead a Cath Shearer ar gyfer eitem 5.5.

Arsylwyr o Blith y Staff:

Allanol: Neil Welch (Llywodraeth Cymru), Princess Onyeanusi, Abiola Adio (amrywiaeth bwrdd cyrff cyhoeddus Llywodraeth Cymru), Y Fonesig Katherine Grainger (UKSport)

1. Croeso / Ymddiheuriadau am absenoldeb

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan gynnwys Dafydd Davies a oedd wedi dychwelyd o secondiad, a rhoddwyd croeso arbennig i'r Fonesig Katherine Grainger, Cadeirydd UKSport. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Hannah Bruce. Nododd y Cadeirydd fod y bwrdd yn cyfarfod yn hanesyddol ym mis Gorffennaf i gymeradwyo'r Cyfrifon, ond mae hyn bellach wedi cael ei wthio ymlaen i fis Medi o ganlyniad i amserlennu Archwilio Cymru.

2. Datgan budd (os yw'n newydd)

Diweddarodd aelodau’r Bwrdd eu datganiadau o fudd fel a ganlyn:-

Ailadroddodd Ian Bancroft – PSG CBS Wrecsam - ei rôl sylweddol mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ar y Partneriaethau Chwaraeon ac, yn yr un modd, datganodd Phil Tilley ei rôl ar Fwrdd Newport Live.

Datganodd Martin Veale fudd mewn perthynas â phapur 5.2 gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Hawthorn a datganodd Chris Jenkins fudd mewn unrhyw drafodaethau am Gemau’r Gymanwlad.

3. Cofnodion y cyfarfodydd diweddaf

3.1     Cofnodion, Log Gweithredu, Tracwyr Penderfyniadau a Materion yn Codi

Cytunwyd bod nodiadau’r cyfarfod dyddiedig 17 Mai 2024 yn gofnod manwl gywir. Pob cam gweithredu wedi'u cwblhau.

3.2     Traciwr Penderfyniadau

Dim camau gweithredu ar ôl i’w cwblhau.

4. Adroddiad y Cadeirydd a'r Weithrediaeth – SW(24)22

4.1 Ychwanegodd y PSG y canlynol at yr adroddiad:

  • Diweddariad llafar ar y cyfarfod chwe-misol gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Er ei fod yn fyr, fe wnaethom lwyddo i bwysleisio'r cynnydd diweddar gyda’r Partneriaethau Chwaraeon; nodi rhywfaint o rwystredigaeth gyda gwaith partneriaeth ICC a sicrhau ymrwymiad ar gyfer cyfarfod hirach, ym mis Awst, ym Mhlas Menai. Ymestyn telerau aelodau'r Bwrdd sy'n ymddeol ar unwaith wedi'i gytuno a'r ail garfan i'w chymeradwyo wedyn.
  • Diweddariad ar Adolygiad URC – mae trydydd aelod y Grŵp Goruchwylio, sy’n cael ei gadeirio gan y Fonesig Anne Rafferty, wedi cael ei gadarnhau fel Rachel Brace (Cyfarwyddwr AD yr FA).
  • CBDC yn atal ei Llywydd dros dro – proses gyfreithiol annibynnol ar droed ac mae CBDC wedi cynnig sicrwydd ynghylch y sefyllfa mewn perthynas â'i hymrwymiadau i Chwaraeon Cymru.
  • Cabinet Chwaraeon – Swyddogaethau newydd gan Lywodraeth y DU: Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Jo Stephens AS), Lisa Nandy AS yw'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer DCMS a Stephanie Peacock AS yw'r Gweinidog Chwaraeon.
  • ICC – dim llawer o gynnydd ers y cyfarfod diwethaf, ond bydd ymdrechion pellach yn cael eu gwneud.
  • Roedd y Weithrediaeth a'r Bwrdd yn dymuno cofnodi eu diolch i Steven Morgan (Rheolwr Plas Menai yn flaenorol, sydd wedi ymddiswyddo) am ei gyfraniad a'i wasanaeth nodedig.
  • Trefniadau Pensiwn – diolch i Neil Welch a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am ddod â'r mater i ben. Yn aros llythyr swyddogol i'r Actiwarïaid.
  • Proses Uwchgynllunio System UKSport – yn cefnogi egwyddorion a phroses ond yn dechrau gweld straen yn weithredol. Ddim yn annisgwyl gan fod rhai newidiadau strwythurol yn cael eu trafod.
  • Y Gemau Olympaidd. Athletwyr Cymru neu wedi’u lleoli yng Nghymru wedi cyfrannu 10% (33) o TeamGB. 16 o athletwyr Paralympaidd ar hyn o bryd (yn debyg o fod yn 10% yn yr un modd). Bydd hwb Dadansoddi Perfformiad TeamGB wedi’i leoli yn ystafell Taf drwy gydol y Gemau Olympaidd.
  • CWG – cafwyd diweddariad gan CJ. I grynhoi, mae angen amser ychwanegol i ddatblygu datrysiad ar gyfer 2026 ond yr un mor bwysig, mae'n amlwg bod angen i'r CGF ailosod ac ailfframio Gemau'r Gymanwlad, gan symud i fodel cynaliadwy. Yn ogystal, mae angen codi proffil chwaraeon o fewn y Gymanwlad a gyda’i Llywodraethau, gan bwysleisio gwerth a phŵer chwaraeon i greu newid. Mae papur wedi cael ei baratoi ar gyfer Cyfarfod y Gweinidogion Chwaraeon ym Mharis. Ychwanegodd y PSG ein bod yn gweithio'n agos gyda Thîm Cymru i baratoi ar gyfer amrywiol senarios 2026.
  • Digwyddiad “EveryWoman” yng Nghaerdydd – mynychodd TGT a chanmolodd waith rhagorol staff yr Athrofa. Gwerth archwilio sut i ymestyn y cynnwys i gynulleidfa ehangach i sicrhau mwy o effeithiolrwydd.
  • Nodwyd ein bod wedi cynnal cyfarfod tîm Comisiynwyr Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, gan helpu i feithrin cysylltiadau rhwng y sefydliadau.

5. Polisi a Strategaeth

5.1        Adroddiad Diweddaru’r Cynllun Busnes SW(24)23

Papur trafod i ddiweddaru'r Bwrdd ar feysydd gwaith penodol ers y cyfarfod diwethaf. Bu rhywfaint o fireinio ar brosesau adrodd mewnol e.e. adrodd bob chwe wythnos yn hytrach nag yn fisol.

Uchafbwyntiau: Cynnydd gyda Phartneriaethau Chwaraeon; Grantiau Arbed Ynni – derbyniwyd 164 (gwaith ardderchog gan y Timau Buddsoddi a Chyfathrebu).

Maes sydd angen ffocws: cynnydd gydag ICC.

Trafododd y Bwrdd y potensial ar gyfer mwy o adroddiadau Macro / Meintiol. Mae hyn yn cyfateb i rai o adroddiad Archwilio Cymru (AW) mewn perthynas â’n hymrwymiadau Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd rhywfaint o waith archwiliol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (fel y nodwyd gan AW) yn cael ei wneud ar ôl gwyliau’r haf.

5.2        Cynnydd / Dysgu Partneriaid SW(24)24

Papur trafod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am drafodaethau gyda Phartneriaid yn y sector, a gwybodaeth ganddynt. Diolchwyd i JN am lunio'r adroddiad. I grynhoi, rydym yn dechrau gweld cydweithredu’n digwydd, yn hytrach na chael ei drafod yn unig e.e. Pêl Rwyd Cymru yn buddsoddi mewn partneriaeth gyda Street Games; Pêl Fasged Cymru / Pêl Rwyd Cymru yn penodi staff ar y cyd. Gwahoddwyd aelodau'r Bwrdd hefyd i sesiwn “Ysgafnu’r Dysgu” Partneriaid ar 17 Gorffennaf, i weld gwahanol agweddau ar y gwaith yn cael eu rhannu. Cadarnhaol adlewyrchu ar ddatrysiadau i broblemau neu heriau blaenorol. Diweddariad i'w roi i'r Bwrdd ar brosiect y Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon / Nofio Cymru.

5.3        Adroddiad Blynyddol Plas Menai SW(24)25

Papur trafod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd. Diolchodd GW i CN am ei help gyda’r papur. Cyfle i graffu ac adlewyrchu ar flwyddyn gyntaf o bartneriaeth deng mlynedd Parkwood. Mae modd ei grynhoi fel “gwaith ar y gweill” ond gyda rhai uchafbwyntiau penodol i'w nodi a chydnabod y raddfa o newid angenrheidiol. Yn anochel, mae'r gromlin ddysgu ar gyfer Parkwood wedi gohirio rhywfaint o gynnydd ond mae wedi buddsoddi'n llythrennol ac yn ffigurol ym Mhlas Menai. Mae’r newid mewn sefyllfa gytundebol ar gyfer hyfforddwyr tymhorol yn enghraifft wych yn ogystal â chyflwyno prentisiaethau, a hefyd y twf sylweddol yn nifer y plant lleol sy’n manteisio ar wersi nofio. Dylai'r cyfrifon wedi’u harchwilio fod ar gael erbyn cyfarfod nesaf y Bwrdd ac er bod y gwariant ar y trywydd iawn yn gyffredinol, bydd monitro parhaus yn erbyn y rhagamcanion cyllidebol cychwynnol yn cael ei wneud.

5.4        Fframwaith Gallu SW(24)26

I gyd-fynd â'r papur hwn cafwyd cyflwyniad gan JO a ddiolchodd i Neil Emberton a'r tîm am eu gwaith ar y prosiect. Diolchwyd hefyd i bedwar aelod o’r Bwrdd sydd wedi cefnogi a darparu her i'r tîm fel rhan o'r gwaith ymgynghori gyda Phartneriaid.

Mae llywodraethu da yn sylfaen allweddol i lwyddiant unrhyw sefydliad ac roedd hwn yn gyfle i ddiweddaru’r fframwaith i adlewyrchu newidiadau cymdeithasol ac unrhyw bethau pwysig a ddysgwyd. Roedd hefyd yn gyfle i symleiddio ac adolygu'r rhyng-gysylltedd rhwng y Fframwaith Gallu a'r GLFW.

Gofynnwyd i aelodau’r Bwrdd gymeradwyo 5 prif faes y fframwaith, cynnwys dau ohonynt (“Craidd” ac “Arfer Da”) a chytuno ar y camau nesaf, gan gynnwys y bwriad i gwblhau’r manylion a phenderfynu sut bydd y fframwaith newydd yn cael ei sicrhau a’i weithredu.

Cymeradwyodd y Bwrdd y Papur (yn amodol ar gynnal y naratif cydraddoldeb rhywedd).

5.5     Panel athletwyr a datblygiad athletwyr ehangach (cyflwyniad)

Cyflwyniad gan DG / CS. Nodwyd rhai pwyntiau o ddiddordeb gan y Fonesig Kath Grainger o safbwynt UKSport.

5.6     Dull y DU o Weithredu gyda Chwaraeon Diogel SW(24)27

Rhoddodd JO ddiweddariad i’r Bwrdd ar y gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu cynnig ar gyfer fframwaith sengl ar gyfer chwaraeon diogel ar draws y Deyrnas Unedig.

6. Cyllid a Risg

6.1     Adroddiad Cyllid SW(24)28

Nododd y Cadeirydd mai hwn oedd adroddiad cyntaf 24/25 a chadarnhaodd RD fod y papur er gwybodaeth yn unig. Dim pryderon na materion i'w nodi. Mae'r adolygiadau cyllideb adrannol mewnol ar gyfer Ch1 yn dod i ben cyn y cyfarfod nesaf o’r Bwrdd a byddant yn sail i’r sefyllfa a ragwelir yn y cyfarfod hwnnw. Roedd yr archwiliad wedi dechrau a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn y cyfarfod nesaf o’r Bwrdd.

6.2     Cofrestr Risg Gorfforaethol SW(24)29

Gofynnwyd i'r Bwrdd nodi'r Gofrestr Risg Gorfforaethol gyfredol gydag un pwynt i'w amlygu, sef y risg uwch dros dro sy'n ymwneud â seibrddiogelwch o ganlyniad i'r Gemau Olympaidd / Paralympaidd sydd i ddod a'r mesurau lliniaru dilynol sy'n cael eu gweithredu.

7. Adroddiadau’r Bwrdd, Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog

7.1     Crynodeb o’r Is-grwpiau SW(24)30

Roedd y papur hwn yn crynhoi trafodaethau a phenderfyniadau cyfarfodydd is-grwpiau’r Bwrdd ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd. Cyflwynir unrhyw ddiweddariadau sylweddol neu faterion y mae angen gwneud penderfyniadau yn eu cylch mewn papurau ar wahân.

7.2     Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg SW(24)31

Diben y papur oedd i'r Bwrdd ystyried gwaith y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg drwy gydol 2023-24. Amlygodd MV, Cadeirydd ARAC, fod Deloitte (archwilydd a oedd yn gadael) wedi nodi prosesau mewnol da ac wedi canmol y tîm cyllid cyfan. Gyda chyfnod un aelod allanol yn dod i ben, mae aelod newydd, Andy Butler, wedi cael ei benodi. RSM fydd yn cynnal archwiliad mewnol.

8. Unrhyw Fater Arall

Cyfarfod mis Medi o’r Bwrdd i'w gynnal yng Ngorllewin Cymru – Gwesty'r Village, Abertawe am y noson cyn y Bwrdd (19 Medi). Lleoliad Cyfarfod y Bwrdd i'w gadarnhau.

9. Dyddiad y cyfarfod nesaf: 20 Medi 2024

22 Tachwedd 2024 (Abertawe).

Dyddiadau dros dro 2025 – 21 Chwefror, 16 Mai, 18 Gorffennaf, 19 Medi, 21 Tachwedd

Cymeradwywyd y cofnodion gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ar 20 Medi 2024.