YN BRESENNOL: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir, Ian Bancroft (Eitemau 1-5.6), Hannah Bruce, Dafydd Davies (Eitemau 1–5.5), Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Yr Athro Leigh Robinson, Phil Tilley, Alison Thorne, Martin Veale
STAFF: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Graham Williams, Emma Wilkins, Jo Nicholas, Owen Lewis, James Owens, Craig Nowell, Liam Hull, Fay Benningwood, Claire Skidmore, Amanda Thompson (cofnodion)
ALLANOL: Neil Welch (Llywodraeth Cymru), Jac Chapman (Panel Ieuenctid), Eloise Stingemore (Step to Non Exec).
1. Croeso / ymddiheuriadau am absenoldeb
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rajma Begum a Judi Rhys. Llongyfarchodd yr Aelodau Brian Davies ar ei benodiad ffurfiol yn Brif Swyddog Gweithredol.
2. Datgan budd
Nicola Mead-Batten, mae TLT Solicitors yn gweithredu fel cynghorydd cyfreithiol i Sport England.
3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf dyddiedig 17 Chwefror 2023, cofnod gweithredu a materion yn codi
Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod manwl gywir. Materion yn codi:
• Roedd y staff wedi rhoi adborth cadarnhaol ar y system ariannol newydd.
• Ni chyhoeddwyd penderfyniad ffurfiol ynghylch Canlyniad Barnett o ran cyllid i gefnogi costau ynni cynyddol pyllau nofio. Roedd Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn parhau i weithio ar hyn.
4. Adroddiad y Cadeirydd a’r Weithrediaeth – SW(23)14
Tynnwyd sylw at yr eitemau canlynol a’u trafod:
Ymchwiliad Adolygiad Annibynnol URC: Nid oedd y ddau adroddiad cyntaf wedi bod yn gynhwysfawr iawn ond roedd disgwyl i'r trydydd adroddiad gynnwys mwy o fanylion am y cynnydd a wnaed. Byddai dysgu o'r profiad hwn yn bwysig, yn enwedig yng ngoleuni'r hinsawdd anwadal bresennol o ran llywodraethu, safonau a moeseg.
• Roedd pryder ynghylch gallu clybiau i ymdrin â materion o'r fath.
• Roedd y broses gwyno, rôl Chwaraeon Cymru yn y maes hwn a phroses ar gyfer staff a allai ddatgelu pryderon o fewn sefydliadau partner neu hyd yn oed deimlo bod staff sefydliadau partner yn gwahaniaethu yn eu herbyn dan ystyriaeth.
• Roedd y Weithrediaeth wedi egluro rôl anrheoleiddiol Chwaraeon Cymru gyda Phwyllgor y Senedd.
Dull gweithredu sy'n seiliedig ar egwyddorion: Byddai'r panel, gyda chefnogaeth tri aelod o'r Bwrdd, yn adolygu'r sgôr terfynol yn fuan. Roedd mwy o ystyriaethau i'w hystyried a byddai'r penderfyniad ar lefel y buddsoddiad a'r dull gweithredu yn cael ei ddwyn yn ôl ger bron y Bwrdd ym mis Gorffennaf.
Buddsoddiad Cyfalaf: Roedd nifer cynyddol o sefydliadau yn cofrestru yn y cam Mynegi Diddordeb.
Cais Chwaraeon Tîm i newid y model buddsoddi: Cadeiriwyd y cyfarfod gan Is-adran Chwaraeon Llywodraeth Cymru ar 5 Mai. Mae pob un o'r pum camp wedi arwyddo eu cynigion buddsoddi bellach.
Byddai Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol newydd Gemau’r Gymanwlad Cymru yn cyfarfod â Chwaraeon Cymru ar 16 Mai.
Diogelu: Yn disgwyl i DCMS gyhoeddi strategaeth ond nid oedd amserlen benodol ar gyfer hyn. Gwariwyd symiau mawr yn Lloegr ar fesurau diogelu ond nid oedd y lefel honno o adnoddau ar gael yng Nghymru.
Diweddariad ar waith hybrid: Roedd y gweithgor trawslywodraethol a edrychodd ar y mater hwn yn canolbwyntio mwy ar effeithlonrwydd cyfleusterau, tra mai lles a diwylliant oedd blaenoriaeth Chwaraeon Cymru. Roedd y syniadau gwreiddiol wedi newid yn sgîl y sefyllfa costau byw a mwy o staff yn dychwelyd i'r swyddfa. Byddai'r arolwg staff nesaf yn cael ei gyhoeddi dros yr haf. Roedd y gofod yn CGChC wedi'i aildrefnu ond nid o reidrwydd at ddibenion llogi. Roedd disgwyl diweddariad yn ôl ger bron y Bwrdd ym mis Medi.
Cytunwyd i ailenwi’r English Institute of Sport yn UK Sports Institute yn 2019 ac nid oedd disgwyl canlyniad negyddol. Roedd hon yn farchnad gystadleuol gan fod yn well gan rai CRhC fynd at ddarparwyr preifat. Roedd Chwaraeon Cymru yn croesawu’r gallu i ddefnyddio ymarferyddion eraill ac roedd y newid yn helpu i egluro rôl Chwaraeon Cymru ei hun oedd ag enw da.
Byddai recriwtio ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Systemau Chwaraeon yn digwydd dros yr haf. Ers ymadawiad y Prif Swyddog Gweithredol blaenorol, roedd y ddau Gyfarwyddwr Cynorthwyol wedi camu i fyny i lenwi'r rôl wag a diolchwyd iddynt am eu cyfraniadau. Diolchwyd i LH am ei waith ar y broses o recriwtio Prif Swyddog Gweithredol.
5. Polisi a Strategaeth
5.1 Cydnabod Padlfyrddio Yn Sefyll (SUP) Canŵio Cymru – SW(23)15
Yn dilyn trasiedi Padlfyrddio Yn Sefyll (SUP) yng Ngorllewin Cymru ym mis Hydref 2021 ac adroddiad y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) o ganlyniad, gwnaeth y papur hwn dri argymhelliad:
(i) Cadarnhau y bydd CRhC Canŵio Cymru yn cael cydnabod Padlfyrddio Yn Sefyll fel disgyblaeth Canŵio.
(ii) Cefnogaeth ariannol untro o hyd at £48k i Ganŵio Cymru i gynorthwyo gyda datblygu diogelwch SUP mewn perthynas ag Adroddiad MAIB.
(iii) Cadarnhau bod Ffederasiwn Syrffio Cymru wedi'i ddadgydnabod o SUP ac wedi cael cynnig cefnogaeth i wella ei lywodraethu drwy broses adolygu cydnabyddiaeth lawn.
Byddai Chwaraeon Cymru yn adolygu ei bolisi cydnabod i sicrhau bod mwy o graffu ar risg a diogelwch a byddai’n gwirio a ddylai’r gamp ddarparu mwy o wybodaeth i’w chyfranogwyr ynghylch y gofynion ar gyfer offer, hyfforddwyr, diogelu, diogelwch ac ati.
Gallai Syrffio Cymru apelio yn erbyn y penderfyniad hwn ond dim ond ar sail y broses ac nid y canlyniad. Fodd bynnag, roedd yr adolygiad wedi'i gynnal gan ymgynghorydd annibynnol ac roedd British Surfing yn ymwybodol mai dyma'r argymhelliad tebygol. Byddai Chwaraeon Cymru yn cefnogi Syrffio Cymru i ddatblygu eu galluoedd i sicrhau bod syrffwyr yn cael eu diogelu. Byddai Chwaraeon Cymru unwaith eto yn pwyso ar Ganŵio Cymru a Syrffio Cymru i gytuno ar Femorandwm o Ddealltwriaeth. Roedd gan y ddwy gamp yn Lloegr un ar waith eisoes a byddai'r ddwy yn cydweithio i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol. Byddai'r gefnogaeth i Ganŵio Cymru hefyd yn helpu'r gamp i gysylltu â British Canoeing.
Cymeradwyodd yr Aelodau'r argymhellion fel yr amlinellwyd uchod.