Yn Bresennol: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd) (Eitemau 1-3), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir, Ian Bancroft (Eitemau 1-4), Rajma Begum, Dafydd Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Hannah Murphy, Judi Rhys, Yr Athro Leigh Robinson (Eitemau 6-10), Phil Tilley, Alison Thorne, Martin Veale. Staff: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Graham Williams, Emma Wilkins, Owen Hathway, Owen Lewis, Amanda Thompson (cofnodion). Allanol: Neil Welch (Llywodraeth Cymru)
1. Croeso / ymddiheuriadau am absenoldeb
Arwydd o barch i'r ddiweddar EM y Frenhines Elizabeth II
Fel un o sefydliadau cenedlaethol Cymru sydd â Siarter Frenhinol, mae Bwrdd a staff Chwaraeon Cymru yn cydymdeimlo’n ddiffuant â’r teulu brenhinol ar farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Bydd Chwaraeon Cymru yn cofio’n annwyl am ymweliadau Ei Mawrhydi â digwyddiadau chwaraeon ledled Cymru a’r gefnogaeth a roddodd i’r gymuned chwaraeon drwy gydol ei theyrnasiad.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, a fyddai'n cael ei gadeirio'n rhannol gan yr Is Gadeirydd oherwydd bod y Cadeirydd yn gorfod gadael yn gynnar i fynychu ymweliad Ei Fawrhydi Brenin Charles â Chaerdydd. Cydymdeimlwyd hefyd â theulu Eddie Butler a fu farw’n sydyn yr wythnos hon, yn drist iawn.
2. Datgan buddiannau (os ydynt yn newydd)
• Roedd tymor swydd y Cadeirydd gyda Sefydliad Chwaraeon y Gymanwlad wedi dod i ben.
• Byddai'r Is Gadeirydd yn ymuno â Bwrdd y Comisiwn Elusennau ar 29 Medi.
• Roedd Alison Thorne wedi dod yn Gadeirydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Eitem 5.1: Y Partner a Gomisiynwyd ar gyfer Plas Menai – SW(22)38
Yng nghyfarfod Ymddiriedolaeth Cyngor Chwaraeon Cymru yn gynharach yn ystod y dydd, cynhaliwyd y trafodaethau terfynol cyn i’r Ymddiriedolwyr gymeradwyo’n unfrydol i benodi Parkwood Leisure fel y partner comisiynu a ffafrir ar gyfer Plas Menai. Cyfarwyddwyd y Weithrediaeth i gwblhau'r holl drefniadau cytundebol i alluogi i'r bartneriaeth gychwyn ar 30 Ionawr 2023.
Roedd cais yn awr i Fwrdd Chwaraeon Cymru ystyried yr argymhelliad yn rhinwedd ei safle fel corff corfforaethol Chwaraeon Cymru, sy'n fater ar wahân i ystyriaethau Ymddiriedolaeth Chwaraeon Cymru.
Yn gynharach yr wythnos hon cyfarfu'r Cadeirydd a'r Prif Swyddog Gweithredol â'r Dirprwy Weinidog a fu'n ymgynghori â'r Prif Weinidog. Roedd hwn yn gyfle i bwysleisio'r achos cadarn dros fwrw ymlaen â'r bartneriaeth hon yn ogystal â'r broses gadarn a thrylwyr a gynhaliwyd. Roedd y Dirprwy Weinidog yn deall pam fod Chwaraeon Cymru wedi mabwysiadu’r dull hwn o weithredu.
Byddai'r bartneriaeth yn cael ei monitro'n rheolaidd ar ganlyniadau, gwerth a risg. Byddai Plas Menai yn parhau i fod â rôl arweiniol mewn hyfforddi uwch hyfforddwyr chwaraeon dŵr yng Nghymru.
Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion Llywodraeth Cymru a gymerodd ran am eu cymorth ac i Grŵp Adolygu Cyfleusterau’r Bwrdd a staff Chwaraeon Cymru am eu hymroddiad i’r broses adolygu. Roedd yn sicr bod Plas Menai yn wynebu dyfodol disglair a chynaliadwy.
Byddai cyfarfod gydag Aelod Seneddol Arfon (Gwynedd) yn gynnar yr wythnos nesaf, yn dilyn cyfarfod gyda staff Plas Menai. Byddai’r cyfarfod cyntaf gyda staff Plas Menai yn cael ei gynnal ddydd Sul 18 Medi a byddai cyfleoedd pellach hefyd yn ystod y dyddiau dilynol i staff ymgysylltu â’r Cadeirydd, y Prif Weithredwr a’r uwch arweinwyr.
Gofynnwyd am gyngor cyfreithiol i sicrhau bod dadansoddiad priodol ac ar wahân gan Fwrdd Cyngor Chwaraeon Cymru (CChC) (Cyngor Chwaraeon Cymru, cwmni cofrestredig rhif RC000579 – y Cwmni) o fuddiannau gwahanol CChC ac Ymddiriedolaeth CChC o ran y mater hwn. Mae'r Cwmni yn berchen ar Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai, Caernarfon, yn rhinwedd ei safle fel unig ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth, ac mae'r Cwmni’n ei gweithredu a'i rheoli ar ran yr Ymddiriedolaeth. Hyd yma mae'r Cwmni wedi darparu cyllid refeniw a chyfalaf parhaus i alluogi Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai, Caernarfon i weithredu. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (Cwmni), wrth gymeradwyo’r argymhelliad yn y papur hwn, yn cytuno i ddarparu cyllid refeniw a chyfalaf fel y nodir yn y contract a’r brydles gyda Parkwood Leisure Limited.
Cymeradwyodd Bwrdd Chwaraeon Cymru yn unfrydol benodi Parkwood Leisure fel y partner a gomisiynir ar gyfer Plas Menai ac i’r Weithrediaeth gwblhau’r holl drefniadau partneriaeth a chytundebol i alluogi i’r bartneriaeth gychwyn ar 30 Ionawr 2023.
3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf dyddiedig 29 Gorffennaf 2022, cofnod gweithredu a materion yn codi
Cytunwyd bod y cofnodion yn gofnod manwl gywir.
Cofnod Gweithredu: Cytunwyd y byddai’r camau gweithredu'n cael eu hegluro fel na fyddai dim yn cael ei golli o'r cofnod. Materion yn codi:
• Cytunwyd ar gynnig buddsoddi ffurfiol gyda CBDC felly roedd y mater hwnnw wedi dod i ben.
• Roedd Jess Williams wedi'i phenodi i Bwyllgor Llywio'r Gweithgor Rhyngwladol (IWG) ar gyfer Merched mewn Chwaraeon.
4. Adroddiad y Cadeirydd a'r Weithrediaeth – SW(22)36
Nododd yr aelodau yr adroddiad. Trafodwyd y canlynol:
Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru (ArWAP): Roedd cais wedi'i wneud ac roedd yn aros am benderfyniad. Roedd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer y fenter Hyrwyddwr Cymunedol.
Y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol: Byddai cyfarfod yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos nesaf gyda grŵp cydnabod yr HCSC i edrych ar yr effaith bosibl a’r materion a godwyd gan ymchwiliad MAIB i Badlfyrddio (SUP).
4edd Drwydded y Loteri Genedlaethol: Roedd y broses bontio ar fin ailgychwyn.
Panel Ieuenctid: Byddai ymweliad â Sport Scotland yn cael ei gynnal yn fuan i edrych ar strwythur a rôl ei banel ieuenctid a'i berthynas â'r cynllun Llysgenhadon Ifanc. Byddai Cadeirydd y Panel Ieuenctid presennol a chynrychiolydd yr Youth Sports Trust yn rhan o'r daith. Byddai'r Prif Swyddog Gweithredol yn ysgrifennu at aelodau presennol y Panel Ieuenctid i'w cadw'n rhan o hyn ac i roi gwybodaeth iddynt.
CAM GWEITHREDU: Y Weithrediaeth i adrodd yn ôl yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Tachwedd.
Rhwydwaith Rhyngwladol y Cynghorau Chwaraeon Cenedlaethol (INNSC): Roedd hwn yn gyfle cyffrous a oedd yn adlewyrchu'r rhagolygon cyffredin ar gyfer gweledigaeth a materion a rennir yn rhyngwladol.
CAM GWEITHREDU: Byddai'r Weithrediaeth yn dod â hyn yn ôl i'r Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf ym mis Tachwedd ar ôl i'r prosiect gael ei lunio'n briodol, i gynnwys manylion ynghylch sut byddai chwaraeon yng Nghymru yn elwa ohono.
Argyfwng Costau Byw: Roedd trafodaeth fewnol eisoes wedi dechrau ar effaith yr argyfwng sydd i ddod, a beth ellir ei wneud i reoli defnydd ynni a'r baich ar staff sy'n wynebu costau cynyddol gyda gweithio o gartref. Roedd Chwaraeon Cymru yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd sector cyhoeddus ar y cyd wedi’u trefnu gan Brif Swyddog Gweithredol newydd Llywodraeth Cymru a’r Pennaeth Adnoddau Dynol. Roedd y Bwrdd yn falch o glywed bod CGChC eisoes wedi ymrwymo i gytundeb cyflenwad ynni hirdymor sy’n dod i ben yn 2025/26. Byddai Plas Menai yn elwa o osod y system wresogi sydd newydd ei chwblhau.
Uwchgynhadledd Chwaraeon ar 8 Rhagfyr: Roedd hon wedi’i threfnu yn dilyn llwyddiant seminar ymgysylltu â phartneriaid Chwaraeon Cymru ym mis Ebrill. Arweiniodd staff Chwaraeon Cymru y gwaith o drefnu’r digwyddiad gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn cael eu cynrychioli ar y grŵp llywio. Byddai’n gyfle i gael partneriaid i ganolbwyntio ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig, heriau costau byw, creu sector mwy cynaliadwy a dilyn yr ethos ‘un gwasanaeth cyhoeddus’ (yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru i gael ei ddosbarthu pan fydd ar gael).
Gemau’r Gymanwlad Birmingham 2022: Llongyfarchodd y Bwrdd yr holl athletwyr a’r staff cefnogi a fu’n rhan o Dîm Cymru, yn dilyn perfformiadau cyffredinol gwych.
5. Polisi a Strategaeth (Ar Gyfer Penderfyniad)
5.1 Cydnabod Cicfocsio WAKO-GB – SW(22)40
Gwnaeth y papur hwn argymhellion am y cais am gydnabyddiaeth gan y Corff Rheoli Cenedlaethol WAKO-GB ar gyfer cydnabod Cicfocsio fel camp. Cymeradwyodd yr Aelodau'r argymhelliad gyda'r cafeat y dylid sicrhau darpariaeth ddigonol ar gyfer diogelu yng Nghymru.
6. Polisi a Strategaeth (Ar Gyfer Trafodaeth)
6.1 Cynllun Busnes 2022/23 Adroddiad Pum Mis – SW(22)37
Roedd y papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y gweithgarwch hyd yma yn ystod y flwyddyn a’r cyflawni yn erbyn y cynllun busnes (misoedd Gorffennaf ac Awst 2022). Trafodwyd y canlynol:
Citbag: Roedd yr adnodd hwn wedi cael ei ddefnyddio gan nifer cynyddol o staff addysgu ond oherwydd eu baich gwaith prysur ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd, dim ond ychydig iawn o adborth a dderbyniwyd a byddai mwy yn cael ei geisio. Mae’r Gweinidog Addysg a’r adran addysg wedi ei hyrwyddo.
Cynaliadwyedd Amgylcheddol:
CAM GWEITHREDU: Y Weithrediaeth i ystyried ymhellach y ffordd orau o gyflwyno'r pwnc hwn, boed yn sesiwn deifio dwfn â ffocws neu'n bapur i'r cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd.
Prentisiaethau Digidol: Gweithiodd y newid i warantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr â nodweddion gwarchodedig a oedd yn bodloni’r meini prawf hanfodol, ynghyd â chynnal sesiynau galw heibio hyblyg, yn dda a chafwyd ymateb da gan ystod amrywiol o ymgeiswyr. Roedd y nodweddion gwarchodedig yn adlewyrchu’r meysydd o ddiffyg cynrychiolaeth yng ngweithlu Chwaraeon Cymru. Awgrymwyd gwelliant pellach, sef gofyn a oedd angen cymorth ar ymgeiswyr i fynychu cyfweliadau, a allai gynnwys ad-dalu costau teithio perthnasol.
Partneriaethau Chwaraeon: Gyda sefydlu rhwydwaith o Bartneriaethau Chwaraeon, cynigiwyd na fyddai unrhyw fuddsoddiad uniongyrchol yn cael ei roi i awdurdodau lleol unigol y tu hwnt i 2025. Adroddwyd ar gynnydd cadarnhaol ar ddatblygu Partneriaethau Chwaraeon yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd Prosiect, ac roedd ymgysylltu pellach ar lefel Prif Swyddog Gweithredol wedi’i gynllunio ar gyfer ardal Gwent.
Pwyllgor Cyfergyd mewn Chwaraeon DCMS: Roedd Hannah Murphy yn ymwneud â’r gweithgor ac mae gan Chwaraeon Cymru gynrychiolaeth ar y grŵp meddygol. Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu eto pryd na sut y gallai Chwaraeon Cymru neu’r sector yng Nghymru gymryd rhan. Roedd NW wedi mynd ar ôl DCMS ar y mater hwn a byddai'n ymchwilio ymhellach.
6.2 Ymateb i adroddiad Pwyllgor Diwylliant y Senedd – SW(22)39
Diolchodd NW i'r tîm Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus am eu cymorth wrth ymateb i'r adroddiad a fyddai'n helpu swyddogion i gyflwyno'u hargymhellion i'r Dirprwy Weinidog.
7. Cyllid a Risg
7.1 Adroddiad Cyllid Mis 5 2022/23
Gofynnwyd i'r Bwrdd nodi bod codiad cyflog o 2% wedi'i ymgorffori'n wreiddiol yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn, ond byddai hyn yn cael ei ystyried eto yng ngoleuni'r argyfwng costau byw. Byddai dyfarnu swm uwch yn effeithio ar rannau eraill o'r gyllideb. Roedd y mater hwn yn cael ei drafod yn y cyd-grŵp sector cyhoeddus. Am bob cynnydd canrannol, yr effaith oedd tua £80k (£30K Loteri £50K Trysorlys). Mae'n debygol y byddai'n rhaid dod o hyd i unrhyw gynnydd o'r adnoddau presennol.
Roedd diddordeb mewn gofyn cwestiynau pellach am feysydd o'r gyllideb y tu allan i'r cyfarfod hwn ac awgrymodd yr Is Gadeirydd y dylid eu dosbarthu wedyn i holl Aelodau'r Bwrdd.
CAM GWEITHREDU: EW/RJ i adolygu fformat y papur gan nad yw'r wybodaeth yn y siart cylch yn ddigon clir.
7.2 Diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol
Ystyriodd y Grŵp Rheoli Risg a Sicrwydd (RMAG) y Gofrestr Risg Gorfforaethol ar 10 Mehefin ac adolygwyd hon gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar 15 Gorffennaf 2022. Roedd risgiau newydd wedi'u hychwanegu mewn ymateb i gostau byw cynyddol ac i gydnabod seibr ddiogelwch fel risg amlwg. Cafwyd trafodaeth am y risgiau sy'n ymwneud â'r sefyllfa bresennol yn Wcráin a Rwsia.
Roedd RMAG yn treialu ffordd newydd o weithio i gynnwys adolygiad gan gymheiriaid yn ei drefniadau rheoli risg. Cynhaliwyd yr adolygiad cymheiriaid cyntaf ym mis Mehefin 2022, rhwng Cyllid a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, a chanfuwyd ei fod yn hynod ddefnyddiol felly byddai’r broses yn awr yn cael ei hymestyn i ail grŵp cymheiriaid.
8. Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd
8.1 Crynodeb o’r Is Grwpiau
Nododd yr aelodau yr adroddiad. Ni chodwyd unrhyw faterion.
9. Unrhyw Fater Arall
Awgrymwyd y dylid cofnodi cyfarfodydd y Bwrdd ar Teams rhag ofn y byddai cysylltiad rhyngrwyd yn cael ei golli.
10. Dyddiad y cyfarfod nesaf: 25 Tachwedd 2022
Dyddiadau yn 2023: 17 Chwefror, 12 Mai, 7 Gorffennaf, 22 Medi 2023, 24 Tachwedd 2023.
Cymeradwywyd y cofnodion yng nghyfarfod y Bwrdd ar 25 Tachwedd 2022