Yn bresennol: Lawrence Conway (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir (Eitemau 1-4.5,9), Ian Bancroft, Dafydd Trystan Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Hannah Murphy, Judi Rhys, yr Athro Leigh Robinson, Phil Tilley, Alison Thorne, Martin Veale
Staff: Sarah Powell (Prif Swyddog Gweithredol), Brian Davies, Graham Williams, Rachel Davies, Liam Hull, Joanne Nicholas, Rhian Evans, Amanda Thompson (Cofnodion)
Arsylwyr: Nicola Guy a Paul Kindred, Llywodraeth Cymru (Eitemau 1-8)
1. Croeso/ymddiheuriadau am absenoldeb
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Rajma Begum. Gofynnodd i'r Bwrdd nodi ei bod yn falch o'r gwaith yn ymwneud â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar draws Chwaraeon Cymru a rhoddodd ganmoliaeth i angerdd ac ymrwymiad y staff a fu'n ymwneud â hyn.
2. Datgan budd
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau newydd. Oherwydd ei swydd newydd fel Ymddiriedolwr gyda Newport Live, roedd Phil Tilley wedi camu i lawr dros dro o fod yn aelod o'r Grŵp Adolygu Cyfleusterau (FRG). Diolchodd y Cadeirydd iddo am ei gyfraniad i waith FRG hyd yma.
3. Cofnodion y cyfarfod blaenorol dyddiedig 25 Chwefror 2021
Derbyniwyd y cofnodion fel cofnod manwl gywir. Nid oedd unrhyw faterion yn codi.
4. Cynllunio Strategaeth ac Adfer
4.1 Cynllun Busnes 2020/21 – Adroddiad Diwedd Blwyddyn - SW(21)16
Roedd yr adroddiad yn ymdrin â gweithgarwch a darpariaeth chwarter blaenorol y flwyddyn yn erbyn y cynllun busnes, gan dynnu sylw at y prif feysydd busnes a'r hyn a ddysgwyd ohono. Nododd yr aelodau:
· Nid oedd strategaeth chwaraeon Elitaidd newydd gan ei bod wedi'i chynnwys yn strategaeth gyffredinol Chwaraeon Cymru.
· Roedd cyfuno adnoddau mewnol i ddelio â chwaraeon yn dychwelyd yn golygu bod newidiadau wedi'u gwneud i'r amserlen wreiddiol ar gyfer cyflawni.
· Roedd yr ymgynghorydd Andy Brogan yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru ar y dull newydd o ymdrin ag atebolrwydd.
Pwyntiau trafod:
· Cais am y gwaith Addysg Actif sy'n ymwneud ag ysgolion cynradd i bwyso am yr angen i gynnwys pob plentyn mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
· Roedd asesiadau effaith yn cael eu cynnal yn gywir, ond nid oedd y canlyniadau'n cael eu hadrodd yn gyson ym mhapurau cyfarfod y Bwrdd.
· Roedd y £12.5m o gyllid ychwanegol a gafodd ei sianelu drwy Chwaraeon Cymru ar gyfer y pecynnau adfer chwaraeon wedi'i ymrwymo ac wedi'i wario'n llawn. Rhoddwyd yr arian i gefnogi'r rhai a oedd mewn perygl o fethu yr ystyriwyd eu bod yn hyfyw ar ôl mis Mawrth 2021. Roedd y broses gwneud penderfyniadau wedi bod yn gadarn, ac roedd ei hyblygrwydd yn galluogi Chwaraeon Cymru i ymateb yn gyflym i ddulliau dysgu ac adlewyrchu. Byddai templed log Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y trywydd archwilio. Byddai'r gwerthusiad o'r effaith wedi'i gwblhau mewn pryd ar gyfer cyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Gorffennaf.
· Roedd Llywodraeth Cymru wedi dechrau ei phroses archwilio fewnol ei hun ar gyllid adfer. O'r adran Chwaraeon, byddai hyn yn canolbwyntio ar becyn Goroesi'r Gaeaf a'r SLRP. Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau yn gwbl hyderus ym mhrosesau Chwaraeon Cymru i ddosbarthu'r gefnogaeth.
4.2 Blaenoriaethau Cynllun Busnes 2021/22 - SW(21)17
Yn dilyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Chwefror cynhaliwyd trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a oedd yn fodlon â'r dull arfaethedig o ymdrin â'r Cynllun Busnes. Roedd y naratif wedi'i ddiweddaru i ddangos y cysylltiad rhwng y blaenoriaethau a'r datganiadau bwriad strategol.
Pwyntiau trafod:
· Roedd pryder na fyddai'r gynulleidfa allanol yn deall y ddogfen yn hawdd ac nad oedd blaenoriaethau busnes yn glir nac yn gysylltiedig â chael Cymru'n fwy actif.
· Dylid cyfeirio'n agosach at Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol ynghyd â mesurau manwl o ran sut byddai Chwaraeon Cymru yn cyflawni ei nodau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
· Dylai'r Cynllun Busnes hefyd ddangos manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol a'r cysylltiad â datblygiad diwylliannol.
· Adolygu'r ddogfen i adlewyrchu blaenoriaethau'r Gweinidogion sydd newydd eu dewis, yn enwedig i adlewyrchu sefyllfa chwaraeon o fewn portffolio'r Economi.
· Disgwylid y byddai Aelodau'r Senedd yn gofyn mwy o gwestiynau, felly roedd angen i Chwaraeon Cymru fod ar gael yn rhwydd i ddangos effaith ar lefel leol.
· Nodi'r gwaith sy'n cael ei wneud ynghylch amrywiaeth a'r newidiadau sydd i'w gwneud ar bob lefel.
Cytunwyd y byddai'r ddogfen yn cael ei golygu ymhellach i sicrhau bod y sefydliad yn canolbwyntio ar y Weledigaeth a'r strategaeth a'u gwneud yn fwy penodol yn allanol.
CAM GWEITHREDU: Cymeradwywyd y Cynllun Busnes yn amodol ar y Bwrdd Gweithredol yn goruchwylio diwygiadau pellach, ac wedyn cafodd ei anfon at Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo. Byddai'r Bwrdd yn gweld y fersiwn derfynol.
4.3 Dull o Ddigideiddio – SW(21)18
Rhoddodd yr adroddiad yr wybodaeth ddiweddaraf am y broses weithredol o ddigideiddio ar draws Chwaraeon Cymru. Byddai'r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol er mwyn cynllunio a darparu gwasanaethau digidol o amgylch anghenion y bobl sy'n eu defnyddio. Roedd y strategaethau'n cynnwys:
· Ymgysylltu mewnol er mwyn ennyn cefnogaeth y staff a sicrhau dylanwad cadarnhaol ar bob maes o'r busnes.
· Ymgysylltu allanol i adeiladu rhwydweithiau newydd a deall sut i gyflawni'r Weledigaeth.
· Uwchsgilio staff i fagu hyder a gallu.
· Strategaeth ddigidol i ddefnyddio adnoddau yn well a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau sy'n diwallu anghenion nifer o dimau yn y ffordd orau.
· Datblygu hunaniaeth ddigidol gyda phlatfformau a chynnwys a oedd yn hygyrch ac yn ddiddorol.
· Cefnogi'r sector gan ddechrau gydag arolwg i nodi themâu cyffredin a lefelau ymrwymiad ar gyfer dull mwy strategol o ddigideiddio sefydliadol a diogelwch data.
· Edrych at y dyfodol i fapio'r systemau a ddefnyddir ar hyn o bryd a sefydlu sut i'w datblygu dros amser wrth i dechnoleg newydd ddod i'r amlwg. Bydd rhannu'r gwaith hwn â phartneriaid yn eu helpu i ddod yn wydn.
· Prosiectau allweddol: dull newydd ar gyfer buddsoddi cymunedol i gyrraedd y rhai sydd fwyaf angen y cymorth a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau; dull newydd i'r Sefydliad ddeall heriau perfformiad partneriaid yn well a dyrannu adnoddau yn unol â hynny; moderneiddio gwasanaeth a chysylltedd blaen tŷ CGChC.
Pwyntiau trafod:
· Cais i gynnwys y Bwrdd o fewn cynlluniau uwchsgilio a hyfforddi.
· Meddwl am fformat ac addasrwydd cynnwys digidol fel y gall gael ei raeadru drwy'r sector.
· Cysylltedd digidol ar draws gwahanol feysydd o'r busnes.
· Cymeradwyo'r dull a gymerwyd ar gyfer ymgysylltu â staff a'r sensitifrwydd ynghylch hynny.
· A oes digon o adnoddau wedi'u nodi a beth fydd yn digwydd os nad yw hyn yn wir?
· Dull 'sbrintio' o gynllunio gwasanaethau ac ymrwymo adnoddau, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o broblemau wrth newid, ond bydd yn caniatáu i Chwaraeon Cymru gyrraedd pobl mewn ffordd newydd a chasglu data newydd.
· Yr her o ddiwallu anghenion pobl pan nad yw'r anghenion hynny bob amser yn hysbys.
· Dylid cydblethu'r deialogau mewnol ac allanol.
· Ni ellir tynnu pobl allan o'u swyddi bob dydd a'u gwneud yn arbenigwyr newid.
· Dylid cynnwys partneriaid yn y gwaith hwn yn gynharach na'r hyn a gynlluniwyd oherwydd bod cymaint wedi newid yn ddiweddar. Defnyddir dulliau digidol yn eang, ac mae gan bobl ddisgwyliad gwahanol erbyn hyn.
· Digideiddio a dadgarboneiddio yw'r ddau faes gwaith y dylid eu blaenoriaethu i symud ymlaen yn gyflym.
· Roedd y Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o'r angen i reoli disgwyliadau a'r gallu i gyflawni o fewn yr adnoddau a'r capasiti staff sydd ar gael.
4.4 Amgylchedd gwaith yn y dyfodol – SW(21)19
Dangosodd yr adroddiad sut yr oedd trefniadau gweithio Chwaraeon Cymru yn y dyfodol yn esblygu. Byddai cynllunio tymor hwy yn dilyn yn sgil ymchwil pellach a thueddiadau ehangach. Gofynnwyd i'r Bwrdd roi sylwadau ar gyfeiriad y daith. Byddai cynlluniau cadarnach yn barod ar gyfer cyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Gorffennaf.
Dechreuodd y rota 6 wythnos ar gyfer dychwelyd yn wirfoddol i'r swyddfeydd ar 10 Mai ac roedd wedi cael adborth cadarnhaol gan staff hyd yma. Dangosodd arolwg cyflym diweddar fod staff o blaid dychweliad cyfunol yn y dyfodol.
Pwyntiau trafod:
· Nid oes modd gwybod yr effaith ar ddiwylliant a hunaniaeth y sefydliad eto. Roedd barn staff am arferion gwaith yn y dyfodol yn sicr o fod yn wahanol felly byddai angen rheoli hyn yn ofalus.
· Roedd llai o gymudo yn gyfraniad cadarnhaol iawn at ostwng yr ôl troed carbon.
· Byddai'r defnydd o CGChC yn y dyfodol yn cael ei gyflwyno eto i'r Grŵp Adolygu Cyfleusterau ym mis Medi. Byddai trefniadau gweithio yn y dyfodol yn cyfrannu at hyn.
· Dylai Chwaraeon Cymru fod yn glir gyda staff ynglŷn â'i ddisgwyliadau o ran perfformiad a chyflawni.
· Bod yn glir ynglŷn â'r egwyddorion ehangach a phenderfynu beth oedd Chwaraeon Cymru am i'r gweithle fod - dim ond wedyn y gellid siarad am sut i gyflawni hynny ac ym mha fath o le.
· Mae parhau i weithio o bell yn cynyddu'r risgiau o golli cysylltiad, colli diwylliant corfforaethol, colli creadigrwydd, cydberthnasau tîm gwaeth, colli morâl a disgwyliadau aneglur.
· Dylai'r trefniadau gweithio fod yn seiliedig ar waith perthynol yn hytrach na gwaith trafodol.
· Efallai y bydd staff gradd is yn teimlo effeithiau colli cysylltiad fwy. Roedd yn bwysig sicrhau bod pobl yn gallu cwrdd â'i gilydd a chael cymorth. Roedd yn rhaid i'r diwylliant corfforaethol fod yn gwbl gynhwysol.
· Roedd timau sydd wedi hen ennill eu plwyf wedi parhau i weithio'n effeithiol, roedd wedi bod yn fwy heriol gydag aelodau newydd o staff a oedd wedi ymuno dros y flwyddyn ddiwethaf.
· Roedd angen meddwl llawer am adeiladu a chynnal diwylliant sefydliadol mewn model hybrid.
· Ni fyddai pa gynlluniau bynnag a ddeilliodd o'r ffurflen rota beilot yn cael eu nodi ar gyfer y tymor hir, yn hytrach byddai'n rhaid i'r sefydliad ymateb i amgylchiadau sy'n newid yn y dyfodol.
· Cofiwch y gallai fod yn anodd dychwelyd i ganiatáu patrwm gweithio hybrid yn y dyfodol.
· A allai Chwaraeon Cymru gysylltu â chorff academaidd neu grŵp arall i weithredu fel astudiaeth achos a chyfrannu at newidiadau ehangach yn y sector?
· Awgrym o gynnig CGChC i'w defnyddio fel Canolfan Gymunedol.
Cytunodd y Bwrdd Gweithredol fod hon wedi bod yn drafodaeth ddefnyddiol iawn a fyddai'n helpu i lunio'r egwyddorion a’r fframwaith sy'n ymwneud ag anghenion busnes ochr yn ochr â sicrhau y gallai'r unigolyn ffynnu hefyd.
4.5 Trosolwg o wariant cyfalaf – SW(21)20
Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad pellach ar ddosbarthiad buddsoddiad cyfalaf chwaraeon £7m a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â'r cynlluniau ar gyfer dull gweithredu tymor hwy.
Tymor byr 2021/22:
· Buddsoddi yng Nghronfa Cymru Actif ar gyfer prosiectau cyfalaf (e.e. offer, meysydd chwarae), tua £700k
· 2) Ailagor cynllun ymgeisio cyhoeddus 'Lle i Chwaraeon' (gan ddefnyddio partner Crowdfunding tebyg i gynllun 'Active Together' Sport England) tua £300k
· Parhau i fuddsoddi yn y cynllun Cydweithredu ATP, tua £2.7m
· Adolygiad o Gyfleusterau Elitaidd, os oedd unrhyw brosiectau a nodwyd yn flaenorol dal yn hyfyw, tua £2.5m
· Buddsoddiad uniongyrchol gyda phartner(iaid) addas ar gyfer y cam cyntaf i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, yn enwedig o ran hil, tua £200k. Archwilio'r posibilrwydd o ehangu gyda phartneriaid eraill yn y dyfodol fel rhan o gam pellach yn dilyn adolygiad o'r dulliau dysgu cychwynnol a'r effaith.
Dadansoddiad cychwynnol dangosol yn unig oedd hwn ac roedd yn destun trafodaethau ac adolygiadau pellach. Byddai dull hyblyg rhwng pob elfen yn cael ei gymryd eto. Roedd hyd at 10% ar gael ar gyfer Canolfannau Cenedlaethol a dibenion gweinyddol Chwaraeon Cymru.
O ran y strategaeth tymor hwy, roedd grŵp prosiect mewnol wedi'i sefydlu dan arweiniad Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfleusterau Chwaraeon Cenedlaethol a byddai strategaethau a chynigion blaenorol yn cael eu hadolygu cyn drafftio cynllun newydd i'w drafod. Byddai diweddariad pellach yn cael ei roi i'r Bwrdd yn y cyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf.
5. Adroddiadau Grŵp Llywio Llysgenhadon Ifanc (YASG) / Panel Ieuenctid
5.1 Adroddiad Grŵp Llywio Llysgenhadon Ifanc
Nid oedd cynrychiolydd YASG yn bresennol yn y cyfarfod hwn. Nodwyd yr adroddiad.
5.2 Diweddariad y Panel Ieuenctid – SW(21)21
Yn dilyn trafodaethau gyda'r Youth Sport Trust i edrych ar fodelau posibl, penderfynwyd bod angen i Chwaraeon Cymru drosglwyddo o'r YASG presennol i Banel Ieuenctid newydd. Cytunwyd ar y cylch gorchwyl gyda'r Bwrdd Gweithredol. Diben y Panel Ieuenctid oedd rhoi llais i bobl ifanc yng ngwaith Chwaraeon Cymru drwy gysylltu'n uniongyrchol â'r Bwrdd a goruchwylio'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru.
Cafodd Aelodau'r Bwrdd Ieuenctid eu recriwtio ym mis Mawrth/Ebrill. Penodwyd saith o bobl a byddai saith arall yn trosglwyddo o YASG. Byddai Dafydd Trystan Davies yn gweithredu fel pwynt cyswllt y Bwrdd. Dros y mis nesaf byddai'r Panel yn cyfarfod i benodi cadeirydd a llunio cynllun gwaith. Byddai’r tîm Cyfathrebu yn ymdrin â chyhoeddiadau'r Panel i bartneriaid. Cyflwynwyd cais i gadw sedd ar y Panel ar gyfer cynrychiolydd Panel Ieuenctid Chwaraeon Anabledd Cymru ac i gynnwys hyn yn y cylch gorchwyl, a fyddai'n cael ei gyflwyno gerbron y Panel i’w ystyried. Roedd yr aelodaeth bresennol yn cynnwys pobl ifanc ag anableddau.
6. Grwpiau Bwrdd a Phwyllgorau Sefydlog
6.1 Crynodeb o gyfarfodydd Grŵp y Bwrdd – SW(21)22
Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r pynciau a drafodwyd yng nghyfarfodydd diweddar y Bwrdd Prosiect Partneriaethau Chwaraeon (a elwid gynt yn Fwrdd Prosiect CSAP), y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a'r Grŵp Adolygu Cyfleusterau. Nododd yr aelodau'r adroddiad.
6.2 Grŵp Adolygu Cyfleusterau (FRG) – SW(21)23
Roedd nifer aelodau’r FRG wedi cynyddu yn sgil ychwanegu Hannah Murphy a Nicola Mead-Batten. Yn y cyfarfod ar 29 Ebrill, nododd FMG Consultants yr amserlen ar gyfer eu gwaith a rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adborth a gafwyd drwy brofion marchnad meddal gydag amrywiaeth o weithredwyr a allai fod â diddordeb. Roedd yr adborth hwn wedi bod yn gadarnhaol gyda nifer iach o bartïon â diddordeb yn dangos dealltwriaeth ac yn nodi’r hyn a fyddai'n bwysig iddynt er mwyn symud ymlaen. Mesurau hanfodol ar gyfer Chwaraeon Cymru oedd sut y cafodd y bartneriaeth ei hadeiladu, sut y tyfwyd y farchnad gweithgareddau awyr agored, ymgysylltu effeithiol drwy gydol y broses a gwerth cyflwyniadau a oedd yn gystadleuol ond a oedd hefyd yn caniatáu negodi a llunio. Roedd y llinellau amser yn ddangosol ar hyn o bryd.
Pwyntiau trafod:
· Nid oedd FRG wedi gweld dadansoddiad llawn o gostau ac arbedion posibl eto, ond pan fyddai'n cael ei wneud byddai'r Bwrdd yn cael gwybod.
· Roedd rhedeg unrhyw fath o gyfleuster chwaraeon neu hamdden ar ôl Covid 19 yn debygol o fod yn seiliedig ar ddiffyg yn y tymor byr. Roedd yn bwysig bod Aelodau'r Bwrdd yn deall ac yn cytuno ar y blaenoriaethau a'r disgwyliadau. Roedd yn rhaid egluro'r rhain.
· Roedd angen gwybod beth oedd safbwynt Llywodraeth Cymru o ran buddsoddi cyfalaf oherwydd ei bod yn ganolog i'r penderfyniad ynghylch pa fath o sefydliad y dylid ei ddewis. Nid oedd yr arwydd presennol i swyddogion Llywodraeth Cymru yn optimistaidd. Cynghorwyd y Prif Swyddog Gweithredol i ofyn am ychwanegu Plas Menai yn ffurfiol fel prosiect penodol o fewn rhaglen Llywodraeth Cymru. "Buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf, hyrwyddo mynediad cyfartal i chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a thalentog a chlybiau llawr gwlad. Roedd “Byddwn yn buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fel caeau 4G" wedi'i ysgrifennu ym maniffesto Llafur Cymru. Byddai'r Cadeirydd yn trafod y sefyllfa hon ymhellach gyda'r Prif Swyddog Gweithredol.
Cymeradwyodd y Bwrdd gynllun y prosiect mewn egwyddor a phroses dendro dau gam (gweithdrefn gystadleuol gyda thrafodaethau) mewn egwyddor. Bydd gofyn i'r Bwrdd wneud penderfyniadau pellach yn ei gyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf.
6.3 Diweddariad y Grŵp Amrywiaeth – SW(21)24
Rhoddodd yr adroddiad yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran Hil mewn Chwaraeon, Cynhwysiant Trawsryweddol, recriwtio Chwaraeon Cymru, Partneriaeth Ecwiti Cyrff Cyhoeddus Chwaraeon Cymru, a'r Grŵp Menywod Rhyngwladol.
Un o flaenoriaethau allweddol y cynllun busnes ar gyfer y flwyddyn oedd cael gwell dealltwriaeth o'r rhwystrau i gyfranogiad drwy ddatblygu'r rhwydweithiau EDI (gan ganolbwyntio'n gyntaf ar hil). Y canlynol oedd y prif feysydd gwaith parhaus i gefnogi'r flaenoriaeth honno:
· Parhau i fuddsoddi mewn partneriaeth ag AKD dros y 9-12 mis nesaf.
· Sicrhau bod adnoddau ar gael i fynd i'r afael â'r rhwystrau a'r heriau sy'n wynebu'r wyneb hwnnw.
· Ymrwymo adnoddau pobl i weithio mewn partneriaeth ag AKD.
· Cael eglurder ynghylch rôl Chwaraeon Cymru o ran datblygu rhwydweithiau gwell a'i gefnogaeth i bartneriaid ar gyfer y maes gwaith hwn.
· Sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn datblygu'r sgiliau, yr arbenigedd a'r ymddiriedaeth arbenigol sydd eu hangen yn fewnol er mwyn gallu datblygu a chynnal rhwydweithiau gwell.
· Ymchwilio i 'pwy ydym ni' fel prosiect sefydliadol.
Yn ogystal, byddai dull newydd o ymdrin ag interniaethau, cynlluniau prentisiaeth a chyfleoedd profiad gwaith yn cael ei ddatblygu, ynghyd â mwy o bresenoldeb mewn ffeiriau swyddi a digwyddiadau cymunedol. Byddai gwaith hefyd yn parhau fel rhan o'r bartneriaeth gyda SCEG i gefnogi Carbmill Consulting yng nghamau olaf cynhwysiant trawsryweddol mewn ymchwil ac arweiniad chwaraeon.
Pwyntiau trafod:
· Roedd y Bwrdd Gweithredol am osgoi dull sy'n seiliedig ar dargedau ar sail ystadegau cenedlaethol o ran nodweddion gan na fyddai'n sbarduno ymddygiad cadarnhaol.
· Cytunwyd y dylai'r Bwrdd gael golwg gynnar ar bapur datblygu polisi drafft SCEG. Gall y Bwrdd fynd i'r afael â hyn mewn sesiwn drylwyr ar wahân.
· Roedd y trafodaethau'n cynnwys ystyriaethau rhyngsectorol. Roedd ystyried amrywiaeth cymysg yn allweddol, yn ogystal ag ystyried anableddau nad ydynt yn weladwy.
· Roedd Chwaraeon Cymru yn nodi sbectrwm o wyliau crefyddol a diwylliannol yn fewnol, a'r diweddaraf oedd Ramadan.
· Gall patrwm gweithio hybrid alluogi pobl o ledaeniad daearyddol ac ystod fwy amrywiol o'r boblogaeth i ymuno â Chwaraeon Cymru.
· Byddai Chwaraeon Cymru yn cyflwyno ymateb ffurfiol i Gynllun Gweithredu Hiliol a Chydraddoldeb Llywodraeth Cymru. Byddai ymgynghoriad pellach yn dilyn cynllun gweithredu LGBTQ+.
· Byddai'r cynllun buddsoddi cyfalaf yn chwilio am bartner(iaid) i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, yn enwedig o ran hil (cam cyntaf 2021/22) – roedd hyn yn enghraifft o ffocws arloesol ar ariannu pethau'n wahanol mewn ymateb i heriau'r EDI.
7. Cyllid, Risg a Sicrwydd
7.1 Adroddiad Cyllid 2020/21 – SW(21)25
Roedd y broses archwilio wedi dechrau, a diolchwyd i'r staff am eu gwaith yn paratoi'r cyfrifon mewn modd cywir ac amserol. Cadarnhaodd RD y gallai ddarparu dadansoddiad ar gyfer llinell y gyllideb farchnata. Nododd yr aelodau'r adroddiad.
7.2 Cofrestr Risg Gorfforaethol a Fframwaith Sicrwydd – SW(21)26
Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r newid i risg ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd ym mis Chwefror.
· Methiant i gydymffurfio â rheoliadau holl ddeddfwriaeth y llywodraeth: Cynnydd bach
· Ailgynllunio Sefydliadol yn llesteirio cynnydd y strategaeth: Gostyngiad bach
· Methu gweithredu'r strategaeth adnoddau newydd yn llesteirio cynnydd strategaeth newydd: Gostyngiad
· Diffyg o ran cyflawni nodau corfforaethol oherwydd lefelau lles a morâl staff isel yn sgil y pandemig. Risg newydd
Parhaodd Covid19 i effeithio ar y sector chwaraeon a'i risg ar gynnydd y Weledigaeth a'r strategaeth oedd y risg uchaf o hyd o fewn y CRR. Yn gysylltiedig â hynny roedd y risg o lai o arian wrth gyflawni'r amcanion strategol yng ngoleuni incwm is y ddwy Ganolfan Genedlaethol a llai o wariant cyhoeddus drwy'r adferiad economaidd ar ôl y pandemig.
8. Adroddiad y Cadeirydd a’r Bwrdd Gweithredol
8.1 Adroddiad y Cadeirydd a'r Bwrdd Gweithredol – SW(21)27
Nododd y Prif Swyddog Gweithredol:
· Rhannodd Georgina Haarhoff, Dirprwy Gyfarwyddwr y Cwricwlwm, uchelgeisiau Chwaraeon Cymru a nododd ei bod yn deall y cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol ac adferiad o fewn Addysg.
· Penodwyd Emma Wilkins yn Gyfarwyddwr newydd Cyllid a Gwasanaethau Busnes.
· Roedd y Prif Swyddog Gweithredol yn cynnal sgyrsiau ar-lein gydag arweinwyr cyrff rheoli cenedlaethol, awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol eraill i adlewyrchu ar yr hyn a ddysgwyd a nodi cynlluniau ar gyfer symud ymlaen.
· Roedd yr ymgyrch 'Nôl yn y Gêm' wedi cael adborth cadarnhaol.
8.2 Yr wybodaeth ddiweddaraf am etholiad Senedd Cymru
Nododd yr Aelodau ganlyniadau diweddar etholiad Senedd Cymru a’r newid i bortffolios.
9. Unrhyw Fater Arall
Nododd yr Aelodau y diwrnod arfaethedig i ffwrdd ar gyfer 21 Hydref 2021.
10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Byddai Aelodau'r Bwrdd yn cael eu gwahodd yn ôl i gyfarfod wyneb yn wyneb yn CGChC ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 7 Gorffennaf. Byddai dewis parhaus hefyd i ymuno â'r cyfarfod ar-lein.
Cymeradwywyd y cofnodion hyn yng nghyfarfod y Bwrdd ar 7 Gorffennaf 2021