YN BRESENNOL: Lawrence Conway (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir, Ian Bancroft, Rajma Begum, Dafydd Trystan Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Hannah Murphy, Judi Rhys, Professor Leigh Robinson, Phil Tilley, Alison Thorne, Martin Veale
Staff: Brian Davies (PSG), Graham Williams, Emma Wilkins, Liam Hull, Jo Nicholas, Rachel Davies, Owen Hathway, James Owens, Amanda Thompson (cofnodion)
Allanol: Sian Dorwood a Janine Dube (Step To Non-Exec), Jac Chapman (Panel Ieuenctid), Neil Welch (Llywodraeth Cymru)
1. Croeso / cyflwyniadau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Datgan Buddiannau
· Hannah Murphy, mewn perthynas ag Eitem 7.2 yn rhinwedd ei chyflogaeth gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.
3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf dyddiedig 25 Tachwedd 2021
Derbyniwyd y cofnodion fel cofnod manwl gywir. Materion yn codi:
· Cyfarfu’r Cadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol â Chadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol Criced Cymru ar 15 Rhagfyr 2021.
· Byddai cais y Bwrdd i ddysgu mwy am y Gronfa Buddsoddi Cymunedol Digidol yn cael ei gynnal mewn sesiwn ar wahân pan fyddai’r Ganolfan Gwasanaethau Digidol ar gael.
· Dadansoddiad o'r dyraniad cyllid cyfalaf ychwanegol o £4.5m (ffigurau wedi'u talgrynnu):
o £300,000 i BMX i gynyddu maint rampiau drwy'r Uned Digwyddiadau Mawr
o £1.3m i CBDC yn uniongyrchol.
o £1.5m drwy 13 prosiect ychwanegol o'r cyflwyniadau Mynegi Diddordeb
o £1.2m yn ychwanegol i’r grŵp cydweithio ATP gyda CBDC, URC a Hoci Cymru
Edrychwch ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Amrywiaeth a Chynhwysiant a gynhaliwyd ar 10 Chwefror am ragor o fanylion.
4. Adroddiad y Cadeirydd a’r Weithrediaeth – SW(22)01
Nododd yr Aelodau yr adroddiad ac ychwanegwyd y canlynol:
· Recriwtio Cadeirydd: Roedd adroddiad ar yr ymgeiswyr y gellid eu penodi gerbron y Dirprwy Weinidog a'r Pwyllgor Dethol. Roedd disgwyl newyddion am benderfyniad yn ystod y mis nesaf.
· Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC): Byddai DCMS yn dyfarnu'r swm cyfan i CBDC. Eleni byddai 30% yn cael ei ddyrannu i aml-chwaraeon gan dargedu ardaloedd o amddifadedd a chynyddu/amrywio cyfranogiad. Y ganran y flwyddyn nesaf fydd 40%. Roedd y PSG yn aelod o’r panel craffu. Roedd yr Adran Dddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi hysbysebu am Fynegi Diddordeb ar gyfer rheoli'r broses ond nid oedd taliad i fynd gydag ef. Roedd adroddiad yr adolygiad llywodraethu annibynnol i'w gyhoeddi cyn bo hir.
· Roedd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd yn cynnal ymchwiliad i gyfranogiad mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig. Byddai'n ystyried y materion sy'n effeithio ar bobl mewn ardaloedd y dangosir eu bod yn gymharol ddifreintiedig yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Byddai'r ymgynghoriad ar gyfranogiad mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig yn weithredol tan 18 Mawrth.
· Adolygiad y Bwrdd Ymchwilio i Ddamweiniau Morol o’r digwyddiad Rhwyf-fyrddio yn Sefyll yn Hwlffordd ym mis Hydref 2021: Roedd y ffordd o feddwl oedd yn dod i’r amlwg yn arwain at yr angen am lywodraethu a hyfforddiant ar wahân ar gyfer y ddau fath o rwyf-fyrddio, mewndirol ac ar y môr.
· Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd: Gofynnodd yr Is Gadeirydd i'r Aelodau hyrwyddo hyn o fewn eu rhwydweithiau. Ni wnaeth Chwaraeon Cymru enwebiadau’n uniongyrchol gan fod Swyddfa Cabinet y DU wedi ymgynghori â’r sefydliad ynghylch yr enwebiadau.
5. Adroddiad y Panel Ieuenctid
Cyfarfu’r Panel Ieuenctid ddiwethaf ar 25 Ionawr a thynnodd ei Gadeirydd sylw at y prif feysydd ffocws:
• Diwygio terminoleg yr Arolwg Chwaraeon Ysgol
• Perthynas waith gyda Swyddfa'r Comisiynydd Plant
• Gwelededd – Cynrychiolaeth y Panel Ieuenctid yn Adolygiad Blynyddol Chwaraeon Cymru
• Mewnbwn i waith addysg, ysgolion bro, cwricwlwm newydd, a chyflwyno Addysg Gorfforol
Diolchodd y Bwrdd a'r PSG i'r Panel am eu cyfraniad amhrisiadwy at y meysydd gwaith hyn.
Roedd rhai o Aelodau'r Panel yn gobeithio parhau am ail flwyddyn ac roeddent yn dadansoddi'r hyn yr oedd yr Aelodau eisiau ei gael o'r rôl yn y tymor hwy. Roedd Aelodau'r Bwrdd ar gael i weithredu fel mentoriaid neu i awgrymu eraill o fewn eu rhwydweithiau ar gyfer y rôl hon. Gofynnwyd i'r Aelodau Panel hynny a oedd eisiau mynd ar ôl hyn i roi eu bywgraffiadau a'u meysydd diddordeb a datblygiad gyrfa at ei gilydd i'w paru â mentoriaid a allai fod yn addas.
6. Polisi a Strategaeth
6.1 Adroddiad Ch3 Cynllun Busnes 2021/22 – SW(22)02
Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch a chyflawniad 2021/22 yn erbyn y cynllun busnes ac yn amlinellu camau gweithredu yn y dyfodol a ddatblygwyd o’r gwaith hwnnw. Y ddau faes blaenoriaeth yn y cynllun busnes a amlygwyd oedd:
· Iechyd – nodi’r cyfleoedd allweddol (a sicrhau buddsoddiad ychwanegol) i chwaraeon gyflawni blaenoriaethau strategol Pwysau Iach Cymru Iach Llywodraeth Cymru.
· Cynyddu'r ffocws ar draws y sefydliad ar Birmingham 2022 i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd ar gyfer presenoldeb yn y Gemau Cymanwlad sy’n cael eu cynnal yn y DU ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.
Trafodwyd gwydnwch y sector. Roedd data arolwg Com Res yn dangos bod anghydraddoldeb cynyddol yn ganlyniad mawr i'r pandemig. O ran sut roedd clybiau wedi goroesi’r storm, roedd rhai wedi gwneud yn well nag eraill. Roedd Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) wedi sefydlu fforwm i edrych ar wydnwch o fewn y sector. Byddai Chwaraeon Cymru yn canolbwyntio ar ymgyrch newid ymddygiad gan fod gan bartneriaid ddisgwyliadau afrealistig o hyd a gorddibyniaeth ar arian cyhoeddus. Byddai angen i’r sector cyfan feddwl yn wahanol yn y cyfnod ôl-bandemig.
6.2 Cynllun Busnes 2022/23 – SW(22)03
Ar gyfer y Cynllun Busnes yn 2022/23 byddai’r dull hyblyg o weithredu’n parhau gyda chyfarfodydd Arweinyddiaeth misol yn adlewyrchu ar yr hyn oedd yn gweithio’n dda a’r hyn y dylid ei ddysgu. Byddai mwy o amser yn cael ei dreulio ar weithredu'r Cynllun Busnes ar draws y sefydliad, gan rymuso staff i weithio gyda'i gilydd i wneud y mwyaf o gyfraniadau unigol a chyfunol. Byddai hyn yn annog cydweithio ac atebolrwydd, yn grymuso arweinwyr strategol a staff eraill sy'n gweithio ar brosiectau allweddol ac yn galluogi cynllunio, dysgu a mireinio cynlluniau i ddigwydd mewn ffordd hyblyg ac ymatebol.
Derbyniwyd y llythyr Cylch Gwaith a'r gyllideb i gyd-fynd ym mis Rhagfyr ac roeddent yn cwmpasu cyfnod tair blynedd y Rhaglen Lywodraethu. Roedd hwn yn newid i’w groesawu, gan alluogi Chwaraeon Cymru i gynllunio ar sail tymor hwy. Roedd y tîm Arweinyddiaeth wedi nodi'r meysydd ffocws ar gyfer yr ail a'r drydedd flwyddyn a byddai'r eitemau hyn yn cael eu hadolygu'n barhaus. Y camau nesaf oedd cyflwyno’r Cynllun Busnes i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo, cyfathrebu’r cynllun i randdeiliaid allweddol, ymgysylltu â staff a mapio camau gweithredu, adolygu adnoddau’n barhaus i sicrhau bod y meysydd gwaith cywir yn cael eu blaenoriaethu, a rheoli unrhyw risgiau i gyflawni drwy'r broses rheoli risg bresennol. Byddai adroddiadau ansoddol a meintiol yn cael eu rhoi i Lywodraeth Cymru a'r Bwrdd. Cymeradwyodd yr Aelodau y Cynllun Busnes.
Pwyntiau trafod:
· Bydd y cynllun cyfathrebu llawn yn cael ei rannu ag Aelodau'r Bwrdd pan fydd ar gael.
· Mae'r llythyr Cylch Gwaith yn llawer mwy rhagnodol nag yn y gorffennol, ond mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r dull hwn ar draws y sector cyhoeddus.
· Nid yw'r sector chwaraeon yn mynegi ei hun yn ddigon clir ac mae rôl i WSA i wella'r sefyllfa honno a helpu i ysgogi newid ymddygiad.
· Bydd yn heriol iawn cyflawni'r llythyr Cylch Gwaith gyda’r adnoddau sydd ar gael. Bydd cyfleoedd i fanteisio ar adnoddau Llywodraeth Cymru o is-adrannau eraill yn cael eu harchwilio gan fod llawer o ymrwymiadau ar draws rhaglenni.
· Mae angen rhwydwaith ehangach o bartneriaid er mwyn darparu chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg. Canmolwyd modiwl hyfforddi dwyieithog CBDC.
· Ystyried ymgysylltu â'r Tasglu Anabledd.
· Edrych ar sut mae Chwaraeon Cymru wedi’i leoli fel arweinydd sector. Mae rhesymau dros gynyddu gwybodaeth allanol am Chwaraeon Cymru a’i weledigaeth a’i strategaeth.
6.3 Cyllideb 2022/23 – SW(22)04
Roedd y papur hwn yn amlinellu cyllideb refeniw arfaethedig Chwaraeon Cymru ar gyfer 2022/23 yn seiliedig ar setliad drafft Llywodraeth Cymru. Roedd y papur yn cyfeirio at y broses o bennu’r gyllideb, y rhagdybiaethau allweddol, a'r dewisiadau a ystyriwyd gan y tîm Gweithredol wrth ddatblygu'r gyllideb.
• Roedd y setliad tair blynedd yn cynnwys cynnydd bach mewn refeniw. Fodd bynnag, o ystyried bod chwyddiant yn 5.4% ar hyn o bryd, roedd cyllideb 2022/23 i bob pwrpas yn ostyngiad mewn termau real. Nid oedd y codiad refeniw o £329k yn cynnwys y cynnydd mewn costau cysylltiedig â chyflogeion sy’n deillio o'r taliad pensiwn atodol, cynnydd mewn yswiriant gwladol a dyfarniad tâl.
• Y setliad tair blynedd ar gyfer gwariant cyfalaf oedd £8m y flwyddyn.
• Roedd dyraniad Chwaraeon Cymru o incwm net y Loteri Genedlaethol yn ganran sefydlog (0.9% ar hyn o bryd) ac roedd hwn wedi’i gronni mewn cronfa wedi’i chlustnodi. Roedd y gyllideb yn rhagdybio y byddai cyllid grant yn cael ei ddosbarthu’n fwy ‘normal’ yn 2022/23.
• Roedd y gyllideb yn cyd-fynd â'r Cynllun Busnes ac roedd pob maes gwaith yn adlewyrchu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol.
Byddai pwysau gwirioneddol ar Chwaraeon Cymru i gyflawni’r llythyr Cylch Gwaith o fewn y lefel hon o adnoddau. Roedd gobeithio wedi bod am ddyfarniad uwch a fyddai wedi rhoi cyfle i gyflwyno mwy drwy'r Partneriaethau Chwaraeon newydd. Awgrymwyd safiad cryfach, cadarnach oherwydd bod partneriaethau o'r fath yn mynd i fod yn allweddol i gyflawni'r cylch gwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Cymeradwyodd yr Aelodau y gyllideb.
6.4 Amgylchedd Gwaith Swyddfa yn y Dyfodol – SW(22)05
Yn dilyn arolygon staff ac adolygiad o arferion yn ystod cyfnod y pandemig, roedd y Weithrediaeth yn argymell y byddai cynnal egwyddorion eang yn hytrach na mabwysiadu strwythur rhagnodol ar gyfer yr amgylchedd gwaith yn caniatáu i'r sefydliad ymateb i adborth a datblygu ei ddull gweithredu yn seiliedig ar anghenion yr unigolyn a’r sefydliad. Argymhellwyd parhad y mesurau peilot ar gyfer misoedd Ebrill i Hydref, gan roi'r cyfrifoldeb i'r tîm Arweinyddiaeth am drefnu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gartref yn rheolaidd, a oedd yn briodol i bob tîm. Byddai archebu gofod swyddfa yn parhau gan ddefnyddio'r calendr desg boeth a byddai gweithgor yn edrych ar ad-drefnu gofod. Byddai calendr o ddigwyddiadau strategol a chymdeithasol yn cael ei lunio.
Er bod bwriad i’r egwyddorion a amlinellwyd yn y papur fod yn rhai hirdymor ac yn sail i ddull gweithredu mwy strategol, roedd amgylchedd swyddfa’r dyfodol wedi’i gysylltu’n anorfod â phenderfyniad ynghylch dyfodol Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, yr oedd y Grŵp Adolygu Cyfleusterau yn ei bennu. Cymeradwyodd yr aelodau yr egwyddorion a'r trefniadau a argymhellwyd ar gyfer y dull peilot o weithredu.
Pwyntiau trafod:
• Byddai archebu lle fwy na phythefnos ymlaen llaw yn fanteisiol.
• Rhaid rhoi cymorth i'r tîm Arweinyddiaeth o ran sgyrsiau gyda staff.
• Byddai defnyddio gofod swyddfa a rennir yn gofyn am brotocol i sicrhau mynediad cyfartal a theg.
• Sicrhau bod rheswm da dros ofyn i bobl ddod i mewn i'r swyddfa a bod yn gydymdeimladol â'u sefyllfaoedd gartref a'r pellter a deithir.
• Byddai parhau â dull cyfunol o weithredu’n helpu i gynyddu amrywiaeth ymhlith y gweithlu.
• Defnyddiwyd asesiadau risg a phrotocolau Iechyd a Diogelwch i weithio gartref.
6.5 Diweddariad addysg – creu system addysg actif – SW(22)06
Rhoddwyd diweddariad ar y gwaith i gefnogi lefelau uwch o weithgarwch corfforol i bob disgybl yn ystod y diwrnod ysgol. Roedd y papur yn ymdrin â dwy agwedd:
o Y cynlluniau peilot/braenaru - y cynnydd a wnaed gyda’r cyllid a dderbyniwyd gan Addysg fel rhan o’r fenter haf o hwyl/gaeaf llawn lles
o Datblygiadau diweddar wrth sefydlu Grŵp Llywio Actif yn Dydddiol i fod, gyda'i gilydd, yn ddull cydlynol, hirdymor o gefnogi lefelau uwch o weithgarwch corfforol.
Roedd cydnabyddiaeth, oherwydd nifer y mentrau sy'n cael eu datblygu, bod potensial am ddryswch a risg nad oedd y ffrydiau gwaith amrywiol yn gydlynol. Gofynnwyd i Chwaraeon Cymru gadeirio Grŵp Llywio Actif yn Ddyddiol sy’n gyfrifol am wneud argymhellion i’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Lles y Meddwl ar fframwaith i gefnogi lefelau uwch o weithgarwch corfforol ar draws y diwrnod ysgol cyfan - cyrraedd yr ysgol, yn ystod gwersi, yn ystod amser chwarae, ac ar ôl ysgol.
Yn ddiweddar, cytunodd y grŵp llywio ar Ddogfen Sefydlu Prosiect Actif yn Ddyddiol a byddai ffocws ar unwaith ar y ddau gam cyntaf:
1. Deall y dystiolaeth ryngwladol ac arfer gorau.
2. Mapio'r ddarpariaeth, y polisïau a'r dulliau gweithredu presennol ledled Cymru.
3. Datblygu is-grwpiau i arwain ar elfennau craidd y ddarpariaeth.
4. Datblygu ystod o opsiynau cyllido i Weinidogion ystyried y camau nesaf.
5. Datblygu dull gweithredu ledled Cymru, gan drafod amserlenni, ond disgwyliad y Gweinidogion i fwrw ymlaen yn gyflym.
Cynlluniau Braenaru: Roedd Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi £235k mewn 12 cynllun braenaru ledled Cymru, a gynhaliwyd yn ystod tymhorau'r gwanwyn a'r haf. Roedd gwerthusiad allanol o'r peilot hwn allan i dendr ar hyn o bryd. Byddai gwerthusiad yn helpu i nodi sut bu i’r peilot helpu i fynd i’r afael ag effeithiau negyddol y pandemig, a gobeithio eu gwyrdroi. Lansiwyd y Cynlluniau Braenaru cyn i’r Bartneriaeth Chwaraeon gyntaf, Chwaraeon Gogledd Cymru, fod mewn sefyllfa i gymryd rhan, ond roedd yn cyd-fynd â hwy bellach.
Yn ystod y misoedd nesaf byddai staff yn edrych eto ar y gwaith a wnaed gyda’r sector Addysg i ddeall ymhellach yr effaith y gallai Chwaraeon Cymru ei chael a’r rôl unigryw y gallai ei chwarae. Byddai diweddariad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd eto ym mis Gorffennaf.
6.6 Arolwg Chwaraeon Ysgol – SW(22)07
Yn dilyn proses ymgynghori helaeth, byddai’r arolwg yn fyrrach, yn symlach ac yn haws ei lenwi a byddai’n canolbwyntio ar gwestiynau a oedd fwyaf defnyddiol a pherthnasol i Chwaraeon Cymru a’i bartneriaid. Roedd yn rhaid i fethodoleg yr arolwg a'i ganlyniadau fod yn ddibynadwy a chael eu defnyddio i ysgogi newid ystyrlon. Roedd y rhestr o newidiadau a ystyriwyd drwy’r peilot yn cynnwys dylunio fformat Hawdd ei Ddeall ar gyfer yr arolwg, adolygiadau i’r cwestiynau sy’n canolbwyntio ar ethnigrwydd ac anabledd, rhestr wedi’i diweddaru o chwaraeon i adlewyrchu dealltwriaeth plant, ailgyflwyno cwestiwn am amledd chwaraeon a blaenoriaeth ar gyfer hynny a chwestiynau eraill yn cyd-fynd â buddsoddiad o fewn strwythur yr arolwg. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r cwestiynau yn ymwneud â hyder, cymhelliant a rhwystrau i chwaraeon a fydd yn helpu ysgolion a phartneriaid i dargedu eu darpariaeth.
Byddai’r tîm Dirnadaeth yn cynnal gweminar cyn bo hir i esbonio'r newidiadau a bydd yr arolwg yn mynd yn fyw o fis Ebrill i fis Gorffennaf. Byddai'r canfyddiadau'n cael eu dadansoddi yn ystod mis Awst a mis Medi, gyda'r canlyniadau'n cael eu rhagweld ddiwedd mis Medi ar lefel genedlaethol. Roedd cyfres o gamau cyfathrebu a materion cyhoeddus wedi’u cynllunio yn ystod y misoedd dilynol cyn i werthusiad ôl-arolwg ac ymgynghoriad gael eu rhoi ar waith yn gynnar yn 2023. Rhannwyd y ffordd yr oedd y cwestiwn ethnigrwydd yn mynd i gael ei ofyn gyda'r Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwn.
6.7 Effeithiolrwydd Bwrdd – SW(22)08
Cynhaliwyd yr adolygiad effeithiolrwydd blaenorol ym mis Tachwedd 2020 a chytunwyd ar gynllun gweithredu yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Chwefror 2021. Yn dilyn yr adolygiad diweddar hwn byddai’r matrics sgiliau’n cael ei ddiweddaru’n flynyddol. Dyma adnodd defnyddiol i helpu Chwaraeon Cymru i wneud y defnydd gorau o sgiliau Aelodau ac ymgysylltu’n ehangach y tu hwnt i'r Cadeirydd a'r Is Gadeirydd yn unig.
Roedd y penodiadau i'r Bwrdd yn parhau i fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Defnyddiwyd y matrics sgiliau ganddynt fel rhan o'u proses recriwtio ac yn fwyaf diweddar roedd y staff wedi cymryd rhan yn y broses gyfweld. Gofynnodd yr Aelodau am fwy o drafodaethau anffurfiol rhwng cyfarfodydd, awgrym i'w gyflwyno i'r Cadeirydd newydd ar ôl ei benodi, yn ogystal â chadarnhau cynlluniau ar gyfer diwrnod cwrdd i ffwrdd i'r Bwrdd.
7. Cyllid a Risg
7.1 Adroddiad Cyllid Ebrill - Rhagfyr 2021 – SW(22)09
Cyfanswm y gwariant refeniw am y cyfnod oedd £21.57m yn erbyn proffil cyllideb o £21.95m. Dyrannodd Llywodraeth Cymru £2m pellach i'r gronfa Gyfalaf sydd bellach yn gyfanswm o £7m.
Lansiwyd cynllun Cyllido Torfol Chwaraeon Cymru ym mis Medi a hyd yma, roedd 12 addewid wedi’u derbyn a £43k wedi’i dalu. Roedd elfen Cynnydd Cronfa Cymru Actif wedi talu £1.5m hyd yma. Roedd elfen Diogelu Cronfa Cymru Actif yn parhau ar agor, ond roedd y galw wedi lleihau'n sylweddol o gymharu â cheisiadau'r flwyddyn flaenorol. Hyd yn hyn, roedd £241k wedi'i ddyfarnu.
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y Cynllun Gaeaf Llawn Lles, cafwyd atodiad ym mis Tachwedd o £1m i roi grantiau i bartneriaid. Derbyniwyd atodiad pellach o £300k ym mis Tachwedd ar gyfer Llwybr Addysg Actif / Ysgolion Bro.
Roedd addasiadau i'r broses a'r symiau a dderbyniwyd ar gyfer cynlluniau cysylltiedig ag iechyd a oruchwyliwyd gan yr Is-adran Iechyd y Cyhoedd, fel y manylir yn yr adroddiad.
Cyfanswm gwariant y Loteri oedd £12.95m yn erbyn cyllideb o £13.62m. Roedd arian y Loteri ar sail dreigl heb unrhyw gyfyngiad ar ddiwedd y flwyddyn ar y swm sy’n cael ei ddal gyda DCMS nac o fewn cyfrif banc y Loteri (o fewn lefel resymol). Roedd gwerthiant tocynnau’r Loteri Genedlaethol wedi parhau i fod yn gryf, ac yn uwch na’r disgwyl a gyllidebwyd gan DCMS ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Derbyniodd Chwaraeon Cymru 0.9% o’r gronfa Achosion Da, oedd yn cyfateb i tua £1.35m o incwm y mis.
Roedd cyfarfodydd wedi'u cynnal gydag uwch staff i nodi unrhyw danwariant neu bwysau cost. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid y byddai'r arian yn cael ei wario erbyn diwedd y flwyddyn.
7.2 Buddsoddiadau Partner– SW(22)10
Ym mis Tachwedd 2020 cydnabu’r Bwrdd bod Covid19 wedi rhoi pwysau sylweddol ar y sector chwaraeon a chytunwyd y byddai cyllid partneriaid yn cael ei ddiogelu cymaint â phosibl am ddwy flynedd. 2022/23 fyddai blwyddyn olaf y warchodaeth ac yn 2023/24 byddai agwedd olaf y model buddsoddi yn cael ei gweithredu. Byddai Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i drosglwyddo i’r lefelau buddsoddi newydd i’w gweithredu’n llawn yn 2025/26 fel y cytunwyd yn flaenorol.
Roedd gwaith wedi dechrau ar ddatblygu meini prawf priodol ar gyfer partneriaid lle nad oedd data ar gael yn hwylus, a disgwylid y byddai'n barod i ddod i'r Bwrdd yn y cyfarfod nesaf ym mis Mai.
Roedd yn ofynnol i bob partner a oedd yn gofyn am gyllid fodloni'r meini prawf hanfodol yn y Fframwaith Gallu. Gyda chyflwyniad polisi Gwrth Gyffuriau newydd y DU (UKAD), roedd Chwaraeon Cymru wedi bod yn gweithio gydag UKAD a’r holl Gyrff Rheoli Cenedlaethol i sicrhau bod yr elfen hon o’r fframwaith yn ei lle cyn i gyllid gael ei ryddhau i bartneriaid.
Roedd cais wedi'i wneud i Lywodraeth Cymru am hyblygrwydd cario drosodd a byddai mwy o fanylion yn dilyn ynghylch sut byddai cyllid yn cael ei ddyrannu mewn ymateb i'r penderfyniad hwnnw.
Cymeradwyodd yr Aelodau y buddsoddiadau partner a argymhellwyd ar gyfer 2022/23.
8. Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd
8.1 Crynodeb o Gyfarfodydd yr Is-Grwpiau – SW(22)11
Crynhoi trafodaethau a phenderfyniadau cyfarfodydd is-grwpiau’r Bwrdd ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd. Roedd y diweddariadau a roddwyd yn adlewyrchu’r cyfarfodydd canlynol:
• Cyfarfu'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar 17 Rhagfyr, penodwyd Hywel Tudor yn Aelod Annibynnol
• Cyfarfu'r Pwyllgor Tâl ar 19 Ionawr a chymeradwyo dyfarniad tâl o 2% ar gyfer 2021/22.
• Cyfarfu'r Bwrdd Prosiect Partneriaethau Chwaraeon ar 1 Chwefror a nodi bod ffurfio Partneriaethau Chwaraeon ledled Cymru yn gwneud cynnydd da.
• Cyfarfu'r Grŵp Buddsoddiadau Cyfalaf Strategol ar 4 Chwefror, cymeradwyodd y cylch gorchwyl a chwmpas gwaith, trosolwg o wariant cyfalaf yn 2021/22.
• Cyfarfu'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar 10 Chwefror a chymeradwyo swydd lefel uchel newydd ar gyfer ffocws ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, trosolwg o gwmpasu perthnasoedd a mapio’r ddarpariaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
• Cyfarfu'r Grŵp Adolygu Cyfleusterau ar 14 Chwefror a phenodwyd ymgynghorwyr i ymchwilio i opsiynau ar gyfer CGChC yn y dyfodol. O ran y partner a gomisiynwyd ar gyfer Plas Menai, byddai asesiad SQ ‘dall’ yn cael ei gynnal ar 4 Mawrth.
8.2 Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor Tâl a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg – SW(22)12
Cytunodd yr Aelodau ar y newidiadau i'r cylch gorchwyl ar gyfer y ddau Bwyllgor.
9. Unrhyw Fater Arall
Ni chodwyd unrhyw faterion.
10. Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf
13 Mai*, 15 Gorffennaf*, 16 Medi a 25 Tachwedd 2022. *Aildrefnwyd ar ôl hynny ar gyfer 6 Mai a 29 Gorffennaf
Cymeradwywyd y cofnodion yng nghyfarfod y Bwrdd ar 6 Mai 2022.