Mae buddsoddiad o £5m mewn cyfleusterau wedi helpu Cymru i ddod yn lle gwell i chwaraeon.
Mae cronfa ‘Lle i Chwaraeon’, sydd wedi cael ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru i Chwaraeon Cymru yn 2019, wedi cael ei defnyddio i helpu i foderneiddio, diogelu neu greu cyfleusterau newydd ym mhob cwr o’r wlad.
Defnyddiwyd £4m ar gyfer prosiectau mawr fel gosod mwy o gaeau artiffisial yn eu lle ond sicrhawyd bod £1m ar gael fel cronfa agored y gallai clybiau a sefydliadau cymunedol wneud cais iddi. Rhannwyd yr arian rhwng 118 o brosiectau o 28 o wahanol chwaraeon.
O drac athletau newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr i arwynebau newydd i gyrtiau tennis yn y Rhyl a phafiliwn bowlio newydd yn y Gelli Gandryll, dyma rai o’r prosiectau newydd a gafodd gyllid Lle i Chwaraeon yn 2019.
Ariannwyd gan Lle i Chwaraeon
Overhang, Caerfyrddin
Ardal: Sir Gaerfyrddin
Dyfarnwyd: £35,082
Mae’r gweddïau am ehangu dringo – sy’n gamp yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf yn 2020 –wedi cael eu hateb yng Nghaerfyrddin lle mae hen eglwys yn cael ei throi’n ganolfan ddringo dan do.
Mae’r eglwys, sydd o fewn pellter cerdded i ganol y dref, yn berffaith ar gyfer dringo oherwydd mae’n gallu cynnwys waliau hyd at 14m o uchder, yn ogystal â digon o ofod ar gyfer clogfeinio. Hefyd bydd y cyfleuster yn cael ei addasu i fod yn addas i bobl ag anableddau.
Clwb Bowlio’r Gelli Gandryll
Ardal: Powys
Dyfarnwyd: £15,000
Prosiect: Bydd y grant Lle i Chwaraeon yma’n helpu’r clwb i adeiladu pafiliwn newydd a fydd yn dod yn lleoliad llawn bwrlwm mewn cymuned wledig lle gall pob cenhedlaeth ddod at ei gilydd i fod yn egnïol a chymdeithasol. Yn ogystal â gwneud bowlio’n fwy apelgar fel camp, ac adfywio adran iau y clwb gobeithio, bydd y pafiliwn newydd hefyd yn cynnig sawl dosbarth ffitrwydd, nosweithiau bingo/gemau, a sesiynau MIND i gael effaith bositif ar les ac iechyd cymdeithasol a meddyliol.
Cyngor Sir Benfro
Ardal: Sir Benfro
Dyfarnwyd: £38,200
Prosiect: Mae cyllid Lle i Chwaraeon wedi cael ei ddyfarnu i’r cyngor fel bod modd creu dau drac beicio newydd drwy goetir Parc Gwledig Maenor Scolton ger Hwlffordd. Bydd un yn llwybr byr addas i deuluoedd a’r ail yn drac ‘pwmpio’ steil BMX ar gyfer beicwyr o bob oedran a bydd yn cynnwys sawl ramp a thro.
Clwb Tennis Y Rhyl
Ardal: Sir Ddinbych
Dyfarnwyd: £25,000
Prosiect: Bydd wyth cwrt tennis bach y mae’n amhosib chwarae arnynt ar hyn o bryd yn cael eu gwella i gyrraedd yr un safon uchel â’r cyrtiau maint llawn gerllaw y mae oedolion yn chwarae arnynt yn y clwb.
Gyda chwe ysgol gynradd ddim ond pellter ergyd gan Andy Murray o’r clwb, mae potensial aruthrol i ddwsinau o blant gymryd rhan yn y gamp ar y cyrtiau sydd o faint delfrydol i blant dan 10 oed.
Clwb Gwarchod Bywyd Aberafon
Ardal: Castell-nedd Port Talbot
Dyfarnwyd: £8,138
Prosiect: Bydd prynu byrddau achub a radios VHF llaw sy’n dal dŵr yn galluogi aelodau’r clwb i ddarparu gwasanaeth diogelwch o safon uchel mewn digwyddiadau nofio dŵr agored a thriathlon dŵr agored sy’n cynyddu mewn poblogrwydd ar hyd arfordir Cymru.
Cyngor Cymuned Llandochau
Ardal: Bro Morgannwg
Dyfarnwyd: £20,000
Prosiect: Bydd cyllid Lle i Chwaraeon yn cael ei ddefnyddio i greu man gemau aml-ddefnydd (MUGA) ar Gaeau Chwarae Coffa Brenin Siôr V lle gellir chwarae pêl droed, pêl fasged, pêl rwyd a hoci i gyd. Mae’r cyngor cymuned wedi sicrhau grant o £44,600 eisoes tuag at y prosiect o gronfa ‘Cymunedau Cadarn’ Cyngor Bro Morgannwg.
Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr
Ardal: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dyfarnwyd: £50,000
Prosiect: Bydd cyllid Lle i Chwaraeon, ynghyd â chyfraniadau gan y clwb ei hun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, yn galluogi i’r trac 300m ar Gaeau Newbridge gael ei newid am un newydd.
Bydd y trac newydd sbon yn cael ei groesawu gan redwyr y clwb a defnyddwyr cymunedol fel ei gilydd. Gyda chanolfan les newydd yn cael ei hadeiladu gyferbyn, mae’r trac hefyd yn cynnig potensial cyfeirio gwych i gleifion ddefnyddio’r trac i wella eu hiechyd a’u lles.Bydd y trac newydd yn cynnwys synwyryddion technoleg glyfar hyd yn oed, a fydd yn galluogi rhedwyr i fonitro eu symudiad.
Clwb Gymnasteg Stryd y Gorllewin, Gorseinon
Ardal: Abertawe
Dyfarnwyd: £17,600
Prosiect: Ar ôl bod wrth galon y gymuned am 40 mlynedd, mae cyfleuster y clwb yng Ngorseinon angen gwaith atgyweirio sylweddol. Bydd y to sy’n gollwng, fframiau’r ffenestri a’r toiledau sydd wedi dyddio i gyd yn cael eu huwchraddio i greu canolfan fodern y gall aelodau’r clwb sydd rhwng tri a 26 oed ei mwynhau, yn ogystal ag ysgolion lleol.
Ysgol Uwchradd Hawthorn, Pontypridd
Ardal: Rhondda Cynon Taf
Dyfarnwyd: £6,445
Prosiect: Bydd basgedi newydd y mae posib eu haddasu ac sy’n addas ar gyfer pob oedran yn cefnogi uchelgais yr ysgol o ehangu’r cyfleoedd pêl fasged i’w disgyblion. Mae’r ysgol yn gobeithio cofrestru tîm i gystadlu yng nghynghrair ysgolion De Cymru a bydd y cyfleusterau gwell o fudd hefyd i Glwb Panthers Pontypridd a Phêl Fasged Cymru, sy’n defnyddio neuadd yr ysgol.
Cymdeithas Feicio Glan Morfa (Trac Marsh), Y Rhyl
Ardal: Sir Ddinbych
Dyfarnwyd: £6,511
Prosiect: Gall beicwyr Trac Marsh edrych ymlaen at ddyfodol gwell diolch i gyllid a fydd yn helpu’r clwb i uwchraddio ei lifoleuadau gwan i oleuadau LED modern. Bydd amgylchedd diogelach, wedi’i oleuo’n well, yn helpu i sicrhau cynnydd dramatig yn y defnydd o’r trac gyda’r nos.
Newport Live
Ardal: Casnewydd
Dyfarnwyd: £30,102
Prosiect: Bydd y cyllid yma’n cefnogi adnewyddu ac ailagor canolfan yr YMCA ym Mhillgwenlli. Bydd y ganolfan yn cael offer modern fel ei bod yn cael cynnig campfa gymunedol a rhaglen o ddosbarthiadau ymarfer, gan ddarparu hwb y mae croeso mawr iddo i iechyd, ffitrwydd a lles yn un o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Campfa Hyfforddiant Personol Keri Mckibbin, Porth Tywyn
Ardal: Sir Gaerfyrddin
Dyfarnwyd: £17,286
Prosiect: Mae’r ganolfan hyfforddi un stop ym Mhorth Tywyn yn trawsnewid ei gofod awyr agored yn gwrt pêl droed/pêl rwyd/pêl fasged gyda’r holl byst angenrheidiol, llinellau wedi’u paentio, llifoleuadau ac arwyneb proffesiynol. Hefyd mae gan y gampfa gynlluniau ar gyfer rig awyr agored gydag offer hyfforddi crog, barrau mwnci, dringo rhaff ac atodiadau pwysau.
Clwb Pêl Droed Brickfield Rangers, Wrecsam
Ardal: Wrecsam
Dyfarnwyd: £18,720
Prosiect: Bydd prynu llifoleuadau symudol newydd yn galluogi’r clwb i greu ardal hyfforddi newydd gyda llifoleuadau a fydd yn hwb aruthrol i’w dimau iau, hŷn, merched, cerdded, feteran ac anabledd.
Antur Parc Margam
Ardal: Castell-nedd Port Talbot
Dyfarnwyd: £5,154
Prosiect: Prynu chwe threic newydd i bobl ag anableddau eu reidio, yn ogystal ag unrhyw un sy’n teimlo’n llai cyfforddus yn reidio beic dwy olwyn. Bydd cynhwysydd storio’n cael ei brynu ar gyfer y treiciau hefyd, i ategu’r gweithgareddau cynhwysol sy’n cael eu cynnig eisoes yn y parc gwledig, fel canŵio a chaiacio.
Undeb Beicio Cymru
Ardal: Casnewydd a Chonwy
Dyfarnwyd: £12,310
Prosiect: Mae sawl beic unigol a thandem hygyrch, yn ogystal â nifer o feiciau balans, yn cael eu prynu fel bod posib sefydlu dwy ganolfan parafeicio. Bydd un yn Nhrac Athletau Parc Eirias ym Mae Colwyn a bydd y llall yng Nghasnewydd, lle bydd y felodrom dan do a’r trac athletau gerllaw yn cael eu defnyddio.
Clwb Tennis Bwrdd y Rhondda
Ardal: Rhondda Cynon Taf
Dyfarnwyd: £728
Prosiect: Mae cyllid yn cael ei ddefnyddio gan glwb Tonypandy i brynu robot partner ymarfer newydd a fydd yn bwydo peli cyflym a throelli amrywiol i brofi chwaraewyr ar bob lefel.
Clwb Nofio Amatur Aberhonddu a’r Cyffiniau
Ardal: Powys
Dyfarnwyd: £3,528
Prosiect: Mae blociau dechrau sydd mewn cyflwr gwael ac sydd wedi bod yn y pwll am 25 o flynyddoedd yn cael eu newid am rai newydd a fydd o fudd i gael plant yn gyfarwydd â’r blociau dechrau y byddant yn eu defnyddio mewn galas nofio cystadleuol.
Mae gan y blociau newydd gefn y mae posib ei addasu er mwyn ei symud i’r lleoliad cywir i gefnogi pob nofiwr, gan gynnwys y rhai ag anableddau. Mae hyn yn hynod bwysig i’r clwb gan fod ganddo un aelod â pharlys yr ymennydd.
Lle i Chwaraeon - rhestr lawn o’r dyfarniadau
- Clwb Gymnasteg West Street Abertawe £17,600.00
- Clwb Criced Ynystawe Abertawe £17,582.00
- Clwb Criced Gorseinon Abertawe £17,238.00
- Clwb Pêl Droed Amatur Brynawel Abertawe £16,255.00
- Clwb Achub Bywyd y Mwmbwls Abertawe £15,097.00
- Bocsio Uwch Clwb Hafod Abertawe £14,997.00
- Clwb Pêl Droed Tref Pontarddulais Abertawe £14,292.00
- Clwb Bowls Dyfatty Abertawe £4,000.00
- Prosiect Lles Kingsway Abertawe £3,500.00
- Parc Y Werin 2000 Abertawe £1,296.00
- Clwb Bowls Abertileri Blaenau Gwent £14,035.00
- CIC Bocsio a Ffitrwydd AB Blaenau Gwent £12,000.00
- Clwb Pêl Droed Mini ac Iau Glynebwy RTB Blaenau Gwent £8,704.00
- Clwb Bowls Glynebwy RTB Blaenau Gwent £7,600.00
- Clwb Criced Glynebwy Blaenau Gwent £6,432.00
- Clwb Bowls Six Bells Cyf. Blaenau Gwent £4,000.00
- Cyngor Cymuned Llandochau Bro Morgannwg £20,000.00
- Clwb Gymnasteg YMCA Y Barri Bro Morgannwg £9,162.00
- Her Cymru Bro Morgannwg £6,314.00
- Clwb Trampolinio Bro Caerau Bro Morgannwg £5,000.00
- Clwb Bowlio Millwood Bro Morgannwg £4,000.00
- Clwb Bowlio Romilly Y Barri Bro Morgannwg £4,000.00
- Clwb Bowlio Belle Vue Penarth Bro Morgannwg £4,000.00
- Motion Control Dance Bro Morgannwg £2,106.00
- Snowsport Cymru Wales Caerdydd £24,510.00
- Clwb Rhwyfo Llandaf Caerdydd £10,920.00
- Jiwdo Honto Caerdydd £7,183.00
- Clwb Bocsio Catholig Grange Caerdydd £6,600.00
- ABC Caerau a Threlái Caerdydd £6,396.00
- Clwb Bowls Sain Ffagan Caerdydd £4,000.00
- Clwb Bocsio Amatur Llanedeyrn a Phentwyn Caerdydd £2,400.00
- Clwb Athletau Cwm Rhymni Caerffili £11,222.00
- Clwb Gymnasteg Islwyn Caerffili £7,668.00
- Grŵp Van Road Trails Caerffili £6,816.00
- Newport Live Casnewydd £30,102.00
- Clwb Athletau Harriers Casnewydd Casnewydd £25,000.00
- Canolfannau GOL Cyf. Casnewydd £22,360.00
- CAPD Caerllion Casnewydd £13,520.00
- Undeb Beicio Cymru Casnewydd £12,310.00
- Clwb Bocsio Sant Joseph Casnewydd £9,493.00
- Clwb Criced Malpas Casnewydd £5,000.00
- Riverside Rovers Casnewydd £4,400.00
- Clwb Bowlio Caerllion Casnewydd £4,326.00
- Academi Gymnasteg Cyfyngedig Dinas
- Casnewydd Casnewydd £3,139.00
- Clwb Nofio a Pholo Dŵr Dinas Casnewydd Casnewydd £2,080.00
- Cyrtiau Tennis Cymunedol Castell-nedd
- Cyfyngedig Castell-nedd Port Talbot £36,988.00
- Clwb Achub Bywyd Aberafon Castell-nedd Port Talbot £8,138.00
- Antur Parc Margam Castell-nedd Port Talbot £5,154.00
- Clwb Trampolinio Flyers Castell-nedd Castell-nedd Port Talbot £5,000.00
- Clwb Bowls Lles Pontrhydyfen Castell-nedd Port Talbot £4,000.00
- CAPD Tref Pontardawe Castell-nedd Port Talbot £3,500.00
- Clwb Sboncen Aberteifi Ceredigion £16,699.00
- Clwb Saethu Penrhiwpal Ceredigion £11,775.00
- Clwb Rhwyfo Crannog Ceredigion £6,000.00
- Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi Ceredigion £4,000.00
- Clwb Pêl Droed Tregaron Turfs Ceredigion £2,545.00
- Clwb Rygbi Nant Conwy Conwy £15,000.00
- Clwb Nofio Amatur Bae Colwyn Conwy £5,610.00
- Cymdeithas Chwaraeon Mochdre Conwy £4,000.00
- Clwb Pêl Droed Amatur Athletig Dolgellau Gwynedd £15,296.00
- Clwb Gymnasteg Caernarfon Gwynedd £2,398.00
- Ysgol Bro Lleu Gwynedd £1,000.00
- Clwb Bowls Trethomas Merthyr Tudful £12,000.00
- Clwb Rygbi a Phêl Droed Mini ac Iau Ynysowen Merthyr Tudful £5,000.00
- Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr Pen-y-bont ar Ogwr £50,000.00
- Clwb Rygbi a Phêl Droed Nantyffyllon Pen-y-bont ar Ogwr £25,000.00
- Clwb Saethu Targedau Tondu Pen-y-bont ar Ogwr £10,000.00
- Clwb Athletau Bechgyn a Merched Pencoed Pen-y-bont ar Ogwr £9,800.00
- Grŵp Dawns Funk Force Pen-y-bont ar Ogwr £4,467.00
- Clwb Bowls Mynydd Cynffig a’r Pîl Pen-y-bont ar Ogwr £4,000.00
- Clwb Hwylio Llangors Powys £22,668.00
- Clwb Bowlio Y Gelli Gandryll Powys £15,000.00
- Clwb Bowlio Aberhonddu Powys £6,263.00
- Clwb Bowlio Trefaldwyn Powys £4,000.00
- Clwb Nofio Amatur Aberhonddu a’r Cyffiniau Powys £3,528.00
- Sgwad Nofio Perfformiad RhCT Rhondda Cynon Taf £22,225.00
- Pwyllgor Rheoli Canolfan Gymunedol Brynna Rhondda Cynon Taf £17,000.00
- Ysgol Uwchradd Hawthorn Rhondda Cynon Taf £6,445.00
- Clwb Pêl Droed Trefforest Rhondda Cynon Taf £5,000.00
- Clwb Bowls Cwm Elái Rhondda Cynon Taf £4,960.00
- Adran Mini ac Iau Clwb Rygbi a Phêl Droed
- Pontypridd Rhondda Cynon Taf £3,242.00
- Clwb Tennis Bwrdd Y Rhondda Rhondda Cynon Taf £728.00
- Clwb Bowlio Parc Gelli Rhondda Cynon Taf £295.00
- Cyngor Sir Benfro Sir Benfro £38,200.00
- Clwb Tennis Llandyfái Sir Benfro £16,851.00
- Clwb Rygbi Pêl Droed Arberth Sir Benfro £10,240.00
- Ffederasiwn Codi Pwysau Sir Benfro Sir Benfro £10,000.00
- CAPD Chwaraeon Abergwaun Sir Benfro £9,178.00
- Clwb Bowls Abergwaun a Gwdig Sir Benfro £4,000.00
- Academi Gymnasteg Elements Sir Benfro £3,440.00
- Saethyddwyr Reach Cleddau Sir Benfro £3,218.00
- Cymdeithas Chwaraeon Hundleton Sir Benfro £2,279.00
- Clwb Pêl Droed Johnston Sir Benfro £2,200.00
- Clwb Hwylio Dinbych-y-pysgod Sir Benfro £1,684.00
- Clwb Achub Bywyd Syrff Porthmawr Sir Benfro £983.00
- RFC Y Rhyl a’r Fro Cyf. Sir Ddinbych £25,000.00
- Clwb Tennis Y Rhyl Sir Ddinbych £25,000.00
- Cymdeithas Feicio Glan Morfa (Traciau Marsh)
- Cyf. Sir Ddinbych £6,511.00
- Reidwyr y Ddraig Y Rhyl Sir Ddinbych £4,176.00
- Prosiect Cornfield Sir Fynwy £25,000.00
- Clwb Athletau Brynbuga Sir Fynwy £13,649.00
- Cyngor Sir Mynwy Sir Fynwy £8,000.00
- Clwb Criced Cas-gwent Sir Fynwy £1,760.00
- Overhang Sir Gaerfyrddin £35,082.00
- Canolfan Iechyd a Ffitrwydd Evolution Cyf. Sir Gaerfyrddin £25,000.00
- Campfa Hyfforddiant Personol Keri Mckibbin Sir Gaerfyrddin £17,286.00
- Clwb Criced Yr Wyddgrug Sir y Fflint £5,000.00
- Clwb Bowlio Copperfields Sir y Fflint £4,000.00
- Ieuenctid Clwb Pêl Droed Maes-glas Sir y Fflint £3,500.00
- Canolfan Berfformio Dolffiniaid Torfaen Torfaen £15,733.00
- CAPD Iau Sebastopol Torfaen £15,000.00
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Torfaen £8,000.00
- Clwb Bowls Parc Panteg Torfaen £4,000.00
- Ysgol Gyfun Gwynllyw Torfaen £1,868.00
- Clwb Gymnasteg Olympus Wrecsam £25,000.00
- Clwb Pêl Droed Brickfield Rangers Wrecsam £18,720.00
- Clwb Pêl Droed Ieuenctid Rhosddu Unedig Wrecsam £1,262.00
- Cyngor Sir Ynys Môn Ynys Môn £40,000.00