Main Content CTA Title

Plas Menai

Plas Menai yw Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru ac mae'n eiddo i Chwaraeon Cymru ac yn cael ei rheoli gan Legacy Leisure i danio angerdd a chyfranogiad oes mewn gweithgareddau awyr agored. 

Mae’r Ganolfan wedi bod yn ysbrydoli pobl i brofi’r awyr agored ers dros 35 mlynedd, gan ymfalchïo mewn dull o weithredu proffesiynol, cyfeillgar a hyblyg gyda'n holl gwsmeriaid.

Mae Plas Menai mewn lleoliad perffaith ar gyfer yr antur awyr agored eithaf, wedi’i leoli ar lannau’r Fenai a dim ond siwrnai fer mewn car o Barc Cenedlaethol Eryri.

Dyn yn hwylfyrddio gydag adeilad Plas Menai yn y cefndir

Mae’r ganolfan yn arbenigo yn y canlynol:

  • Gweithgareddau awyr agored i bob oedran
  • Cyrsiau a hyfforddiant
  • Tripiau ysgolion a grwpiau ieuenctid
  • Corfforaethol, Hyfforddiant a Chynadleddau, cyfarfodydd a Digwyddiadau 

Newyddion Diweddaraf - Canolfannau Cenedlaethol

O Ynys Môn i Gwpan America – Ymgyrch morwr o Gymru am fri mawr

Gall dychweliad y morwr o Gymru, Bleddyn Môn, i Gwpan America lunio llwybr i ieuenctid ei efelychu -…

Darllen Mwy