Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r canlynol:
- Aelodau ein canolfannau;
- Unigolion sy’n aros yn un o’n canolfannau neu’n cymryd rhan mewn cwrs neu weithgaredd;
- Unigolion sy’n ymwneud â chymdeithasau chwaraeon a chlybiau chwaraeon;
- Unigolion sy’n defnyddio ein gwefan;
- Unigolion sy’n prynu nwyddau ar ein gwefan;
- Unigolion sy’n gwneud cais am grantiau;
- Unigolion sy’n cael sylw yn ein erthyglau a/neu gylchlythyrau;
- Unigolion sy’n cysylltu â ni gydag ymholiad neu gŵyn;
- Unigolion sydd wedi’u cofnodi ar ein system CCTV;
- Unigolion sy’n tanysgrifio i’n cylchlythyrau/diweddariadau;
- Unigolion sy’n gweithio gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol;
- Unigolion sy’n cymryd rhan yn un o’n harolygon neu ein holiaduron;
Yn yr adrannau isod, wrth gyfeirio at yr unigolion a restrir uchod, rydym yn defnyddio’r termau “chi” neu “eich”.
Ein Dull o Weithredu gyda Phreifatrwydd
Mae eich preifatrwydd chi’n eithriadol bwysig i ni ac rydym eisiau i chi deimlo’n hyderus bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel yn ein dwylo.
Dim ond yn unol â’r gyfraith diogelu data sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr o dro i dro y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
O dan y gyfraith diogelu data, pan rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn gweithredu fel rheolydd data. Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu y byddwn yn gwneud penderfyniadau am sut rydym eisiau defnyddio eich gwybodaeth bersonol a pham.
Isod, rydym yn crynhoi’r prif reolau sy’n berthnasol i ni o dan y gyfraith diogelu data pan rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol:
1. Rhaid i ni roi gwybod ymlaen llaw am sut rydym yn bwriadu defnyddio eich gwybodaeth bersonol a rhaid i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn deg. Mae darparu gwybodaeth am breifatrwydd i unigolion (fel yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn) yn un agwedd ar ddefnyddio gwybodaeth bersonol yn deg.
2. Ni ddylem ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol oni bai fod gennymsail gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny o dan y gyfraith diogelu data. Mae’r sail gyfreithiol hon yn cynnwys y canlynol:
- Eich bod wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol;
- Ein bod angen defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gyflawni contract rhyngom (neu i gymryd camau ar sail cais gennych chi cyn llunio contract);
- Bod gennym ni (neu rywun arall) reswm dilys dros fod angendefnyddio eich gwybodaeth bersonol ac nad yw’r buddiannau dilys hynny’n cyfrif llai na’ch hawliau neu eich buddiannau chi. Rhaid i ni bwyso a mesur ein hawliau a’n buddiannau perthnasol cyn y gallwn ddibynnu ar y sail gyfreithiol hon; ac mae CHWARAEON CYMRU yn Gorff Cyhoeddus ac mae’n dymuno dibynnu ar Fudd Cyhoeddus ac ymarfer Awdurdod Swyddogol.
- Bod rhaid i ni ddefnyddio eich gwybodaeth.
- Bersonol i gydymffurfio â’r cyfreithiau y mae’n rhaid i ni gadw atynt.
3. Ni ddylem ddefnyddio mathau penodol o wybodaeth bersonol sensitif (fel gwybodaeth berthnasol i’ch iechyd, tarddiad o ran hil neu ethnig neu grefydd) oni bai ein bod hefyd yn gallu bodloni un o’r amodau ar gyfer prosesu’r math yma o wybodaeth sydd wedi’i datgan yn ygyfraith diogelu data. Mae’r amodau hyn yn cynnwys y canlynol:
- Eich bod yn rhoi caniatâd penodol i ni ddefnyddio’r wybodaeth; a
- Bod y prosesu’n angenrheidiol am resymau’n ymwneud â budd cyhoeddus sylweddol.
4. Dim ond o dan rai amgylchiadau y gallwn rannu eich gwybodaeth bersonol gydag eraill, ac os byddwn yn cymryd camau i sicrhau y bydd eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel.
5. Yn gyffredinol, dim ond at y dibenion penodol yr ydym wedi dweud wrthych chi amdanynt ddylem ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. Os ydym eisiau defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion eraill, rhaid i ni gysylltu â chi eto i ddweud wrthych am hyn.
6. Ni ddylem gadw mwy o wybodaeth bersonol na sydd angen at y dibenion rydym wedi dweud wrthych amdanynt ac ni ddylem gadw eich gwybodaeth bersonol am fwy na sydd raid at y dibenion hynny (mae hwn yn cael ei alw’n “gyfnod cadw”). Rhaid i ni hefyd gael gwared yn ddiogel ar unrhyw wybodaeth nad oes arnom ei hangen mwyach.
7. Rhaid i ni sicrhau bod gennym fesurau diogelwch priodol yn eu lle i warchod eich gwybodaeth bersonol.
8. Rhaid i ni weithredu yn unol â’ch hawliau o dan y gyfraith diogelu data.
9. Ni ddylem drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop (“AEE”) oni bai fod rhai mesurau diogelu penodol yn eu lle. Un mesur diogelu o’r fath yw [dim ond i wlad sydd wedi cael ei chymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd fel un sydd â lefel dderbyniol o gyfraith diogelu data y caiff ydata personol eu trosglwyddo].
Cysylltu â ni ar Gyfryngau Cymdeithasol
Bydd unrhyw negeseuon neu sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol rydych yn eu hanfon atom (ar dudalen Facebook Chwaraeon Cymru, er enghraifft) yn cael eu rhannu o dan delerau’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol perthnasol (e.e.Facebook, Twitter, Instagram) y maent yn cael eu hysgrifennu arno a gallant gael eu gwneud yn gyhoeddus. Pobl eraill, nid ni, sy’n rheoli’r llwyfannau hyn. Nid ydym yn gyfrifol am y math yma o rannu.
Cyn i chi wneud unrhyw sylwadau am unrhyw beth, dylech adolygu telerau ac amodau a pholisïau preifatrwydd y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol rydych yn eu defnyddio. Wedyn byddwch yn deall sut byddant yn defnyddio eich gwybodaeth, pa wybodaeth sy’n berthnasol i chi fyddant yn ei gwneud yn gyhoeddus, a sut gallwch chi eu hatal rhag gwneud hynny os ydych yn anhapus am y peth.
Pryd byddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag eraill?
Weithiau, bydd rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill. Mae’r adran hon yn nodi manylion am bwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda hwy a pham. Mae hefyd yn dweud wrthych am ein sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny o dan y gyfraith diogelu data a’r camau y byddwn yn eu cymryd i warchod eich gwybodaeth bersonol.
Ni fyddwn yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol ymlaen i unrhyw drydydd parti.
Ein Partneriaid Gwasanaethu
Pwy yw ein partneriaid gwasanaethu?
Mae ein partneriaid gwasanaethu’n cynnwys y canlynol:
- Darparwyr systemau talu â cherdyn;
- Cludwyr a chyflenwyr eraill ar wasanaethau darparu.
Nid ydym wedi cynnwys enwau ein partneriaid gwasanaethu yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn oherwydd byddant yn newid o dro i dro. Fodd bynnag, os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’n darparwyr gwasanaethu cyfredol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion ar dudalen34 y ddogfen hon.
Pam mae’n rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol â hwy.
Rydym yn defnyddio’r partneriaid gwasanaethu a ddisgrifir uchod i alluogi i ni gyflawni ein contractau gyda chi.
Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni wrth rannu eich gwybodaeth bersonol.
Mae rhannu eich data personol â chyflenwyr ac is-gontractwyr yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni ein contract gyda chi.
Pa ragofalon ydym yn eu rhoi ar waith?
Rydym yn llunio contractau gyda’n darparwyr gwasanaethu sy’n gofyn iddynt roi mesurau diogelwch priodol yn eu lle ac sy’n cyfyngu ar eu defnydd o’ch gwybodaeth bersonol.
Ein Partneriaid Marchnata
Pwy yw ein partneriaid marchnata.
Mae ein partneriaid marchnata’n asiantaethau marchnata rydym yn eu defnyddio i greu a/neu ddarparu hysbysebion a deunyddiau hyrwyddo eraill ar ein rhan.
Nid ydym wedi cynnwys enwau ein partneriaid marchnata yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn oherwydd byddant yn newid o dro i dro. Fodd bynnag, os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’n partneriaid marchnata cyfredol, cysylltwch â ni.
Pam mae’n rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol â hwy.
Efallai y bydd rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol gyda’n partneriaid marchnata os byddwn yn gofyn iddynt greu deunyddiau marchnata ar eich cyfer chi neu gysylltu â chi gyda marchnata uniongyrchol ar ein rhan.
Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni wrth rannu eich gwybodaeth bersonol.
Byddwn naill ai’n dibynnu ar eich caniatâd penodol neu ein buddiannau dilys wrth ddatblygu ac ehangu ein busnes.
Pa ragofalon ydym yn eu rhoi ar waith?
Rydym yn llunio contractau gyda’n partneriaid marchnata sy’n gofyn iddynt roi mesurau diogelwch priodol yn eu lle ac sy’n cyfyngu ar eu defnydd o’ch gwybodaeth bersonol.
Darparwyr Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth
Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol?
Cyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gwybodaeth fel Cyflenwyr Meddalwedd Gyfrifiadurol a Darparwyr Storio ar y Cwmwl (gan gynnwys darparwyr rhaglenni a gynhelir a Meddalwedd fel Darparwyr Gwasanaethau).
Nid ydym wedi cynnwys enwau ein darparwyr TG/ Gwasanaethau ar y Cwmwl yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn oherwydd byddant yn newid o dro i dro.
Pam mae’n rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol â darparwyr o’r fath.
Rydym yn defnyddio cyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gwybodaeth mewn perthynas â chyflenwi, cynnal a chadw a/neu wella ein rhwydwaith TG a chreu, datblygu, cynnal a chadw ein gwefan.
Rydym yn defnyddio darparwyr storio ar y cwmwl i ddarparu dull diogel o storio data electronig.
Rydym yn defnyddio darparwyr dadansoddeg a pheiriannau chwilio i’n cynorthwyo i wella ein gwefan.
Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni wrth rannu eich gwybodaeth bersonol.
Rydym yn dibynnu ar ein buddiannau dilys i sicrhau bod ein busnes yn gallu gweithredu’n briodol ac yn effeithlon a bod ein rhwydwaith TG yn ddiogel.
Mae rhannu eich data personol gyda darparwyr dadansoddeg a pheiriannau chwilio’n seiliedig ar ein buddiannau dilys mewn cael gwefan effeithlon a defnyddiwr-gyfeillgar.
Pa ragofalon ydym yn eu rhoi ar waith?
Rydym yn llunio contractau a Chytundebau Prosesu Data gyda’n darparwyr TG/darparwyr storio ar y cwmwl sy’n gofyn iddynt roi mesurau diogelwch priodol yn eu lle ac sy’n cyfyngu ar eu defnydd o’ch gwybodaeth bersonol.
Pam mae’n rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol â darparwyr o’r fath.
Rydym yn defnyddio cyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gwybodaeth mewn perthynas â chyflenwi, cynnal a chadw a/neu wella ein rhwydwaith TG a chreu, datblygu, cynnal a chadw ein gwefan;
Rydym yn defnyddio darparwyr storio ar y cwmwl i ddarparu dull diogel o storio data electronig.
Rydym yn defnyddio darparwyr dadansoddeg a pheiriannau chwilio i’n cynorthwyo i wella ein gwefan.
Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni wrth rannu eich gwybodaeth bersonol.
Rydym yn dibynnu ar ein buddiannau dilys i sicrhau bod ein busnes yn gallu gweithredu’n briodol ac yn effeithlon a bod ein rhwydwaith TG yn ddiogel.
Mae rhannu eich data personol gyda darparwyr dadansoddeg a pheiriannau chwilio’n seiliedig ar ein buddiannau dilys mewn cael gwefan effeithlon a defnyddiwr-gyfeillgar.
Pa ragofalon ydym yn eu rhoi ar waith?
Rydym yn llunio contractau a Chytundebau Prosesu Data gyda’n darparwyr TG/darparwyr storio ar y cwmwl sy’n gofyn iddynt roi mesurau diogelwch priodol yn eu lle ac sy’n cyfyngu ar eu defnydd o’ch gwybodaeth bersonol.
TRYDYDD PARTÏON ERAILL
Hefyd efallai y bydd rhaid i ni rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill o dan yr amgylchiadau canlynol:
Gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol.
Yn achlysurol, efallai y bydd rhaid i ni ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i sefydliadau fel llysoedd neu’r heddlu er mwyn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n berthnasol i ni a/neu i atal twyll neu droseddu.
Gwarchod ein busnes.
O dro i dro, efallai y bydd rhaid i ni ddatgelu eich gwybodaeth bersonol mewn perthynas â’r camau y mae’n rhaid i ni eu cymryd i warchod ein buddiannau busnes neu eiddo. Er enghraifft, os byddwch yn methu gwneud taliad, efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i asiantaethau credyd neu asiantau casglu neu olrhain dyledion.
Cyngor proffesiynol a gweithredu cyfreithiol.
Efallai y bydd rhaid i ni ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i’n cynghorwyr proffesiynol (er enghraifft, ein cyfreithwyr a’n cyfrifwyr) mewn perthynas â hwy’n darparu cyngor proffesiynol a/neu’n sefydlu neu’n amddiffyn hawliadau cyfreithiol.