Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Adran 4 - Aelodau clwb neu gorff chwaraeon a’r sector chwaraeon a’r rhai sy’n helpu i gefnogi’r sector chwaraeon

Adran 4 - Aelodau clwb neu gorff chwaraeon a’r sector chwaraeon a’r rhai sy’n helpu i gefnogi’r sector chwaraeon

Pa wybodaeth bersonol y byddwn yn ei defnyddio?

Eich enw;

Eich cyfeiriad;

Eich cyfeiriad e-bost;

Eich rhif ffôn;

Eich cysylltiad gyda/safle mewn clwb neu gymdeithas chwaraeon.

Eich delwedd neu ddelweddau lle bo hynny'n briodol. 

Sut y byddwn ni’n cael yr wybodaeth bersonol      

Bydd yn cael ei darparu gennych chi neu gan y clwb, y gymdeithas neu'r sefydliad rydych yn gysylltiedig â nhw, neu yn cael eu darparu gan ffotograffwyr sy'n gweithio ar ran eich clwb/chwaraeon neu Chwaraeon Cymru.

At ba ddibenion y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth bersonol?

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gyfathrebu â chi ac at ddibenion gweinyddu cyffredinol, ac i helpu i hyrwyddo eich clwb, chwaraeon neu gymryd rhan mewn chwaraeon. 

Y seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu rydym yn dibynnu arnyn nhw        

Bydd angen ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer yr awdurdod swyddogol sydd wedi ei breinio ynom. Lle byddwn yn defnyddio delweddau, rydym yn dibynnu ar ganiatâd rydych wedi ei ddarparu i'ch clwb neu chwaraeon, neu'n uniongyrchol i Chwaraeon Cymru.

Am ba hyd rydym yn cadw'r wybodaeth bersonol a pham?  

Fel arfer, rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol drwy gydol eich cysylltiad â'r clwb neu'r gymdeithas benodol. Caiff delweddau eu cadw a'u defnyddio am gyfnod o saith mlynedd oni nodir yn wahanol.