Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Adran 6 - Athletwyr sy’n defnyddio gwasanaethau Athrofa Chwaraeon Cymru

Adran 6 - Athletwyr sy’n defnyddio gwasanaethau Athrofa Chwaraeon Cymru

Pa wybodaeth bersonol fyddwn ni’n ei defnyddio           

Er mwyn gallu eich cefnogi chi fel athletwr, rhaid i ni gasglu’r wybodaeth bersonol ganlynol:

  • enw
  • cyfeiriad
  • manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn
  • nodiadau hyfforddi a hanes cystadlu 
  • manylion am hyfforddwyr a staff y tu allan i Chwaraeon Cymru sy’n cefnogi eich hyfforddiant ar hyn o bryd neu wedi gwneud hynny yn flaenorol 

Rydym hefyd yn casglu’r wybodaeth categori arbennig ganlynol:

  • hanes iechyd 
  • ethnigrwydd
  • cofnodion maeth   
  • cofnodion meddygol, gan gynnwys cofnodion iechyd corfforol a meddyliol                             
  • delweddau meddygol, gan gynnwys pelydr X, sganiau a lluniau fideo   
  • delweddau ffotograffig a fideo o’ch perfformiadau i helpu eich tîm cefnogi i wella eich perfformiad

Sut byddwn yn sicrhau’r wybodaeth bersonol   

At ba ddiben rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer y pethau canlynol:

  • I helpu eich perfformiad ac asesu sut mae’n mynd   
  • I helpu i drin unrhyw broblemau meddygol 
  • I helpu Chwaraeon Cymru i fonitro a gwerthuso ei arferion ei hun 
  • I helpu i ymchwilio i well ffyrdd o weithio gydag athletwyr 

Er mwyn i ni allu eich cefnogi chi, rhaid i ni rannu eich gwybodaeth â gwahanol dimau yn Chwaraeon Cymru a gyda sefydliadau allanol.         

Dyma rai esiamplau:

  • Anfon eich gwybodaeth feddygol at feddyg chwaraeon mewn ysbyty                     
  • Rhannu eich nodiadau hyfforddi gyda’ch hyfforddwr a chorff rheoli eich camp
  • Rhannu eich gwybodaeth o un tîm cefnogi i dîm arall yn Chwaraeon Cymru.

Pan rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol, rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny’n ddiogel, a bod gan unrhyw berson sy’n ei derbyn ddyletswydd i’w gwarchod.     

Gall y bobl sy’n gweithio yn Chwaraeon Cymru ac a all weld eich gwybodaeth bersonol gynnwys y canlynol:

  • Meddygon Chwaraeon 
  • Ffisiotherapyddion 
  • Seicolegwyr Clinigol 
  • Ffisiolegwyr Ymarfer   
  • Podiatryddion 
  • Osteopaths
  • Ceiropractyddion
  • Cwnselwyr   
  • Cynghorwyr Perfformiad 
  • Maethegwyr Perfformiad   
  • Ymarferwyr Ffordd o Fyw yn Perfformio 
  • Seicolegwyr Chwaraeon 
  • Ymarferwyr Caffael Sgiliau       
  • Ymarferwyr Cryfder a Chyflyru                 
  • Therapyddion Tylino 
  • Staff Chwaraeon Cymru sy’n gyfrifol am gofnodi neu ddiweddaru cofnodion.   

Hefyd efallai y bydd rhaid i ni rannu eich gwybodaeth gyda phobl sy’n gweithio y tu allan i Chwaraeon Cymru, gan gynnwys y canlynol:

  • Cyfarwyddwr Perfformiad eich corff rheoli chwaraeon cenedlaethol 
  • Eich Hyfforddwr
  • Eich Rheolwr 
  • Staff meddygol a meddygon mewn sefydliadau eraill 
  • Rheolwyr Perfformiad Uchel 
  • Rheolwr Rhwydwaith yr Athrofa 
  • Cyrff Rheoli eraill Cymru   
  • Unrhyw gyrff sydd wedi eich cyllido chi 
  • Cyrff Team GB neu UK sport           

Mae pob athletwr yn wahanol felly efallai na fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth â phawb sydd wedi’u rhestru ac weithiau efallai y bydd rhaid i ni rannu eich gwybodaeth â phobl eraill heb eu rhestru yma.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu rydym yn dibynnu arni

Mae Chwaraeon Cymru yn casglu’r wybodaeth yma fel rhan o lunio contract i’ch cefnogi chi. Rydym yn gofyn am eich caniatâd er mwyn i ni allu casglu, defnyddio a rhannu gwybodaeth categori arbennig. 

Am faint o amser rydym yn cadw’r wybodaeth bersonol a pham

Bydd Chwaraeon Cymru yn cadw eich gwybodaeth tra rydych yn gweithio gyda ni, ac wedyn am gyfnod o amser yn seiliedig ar y math o wybodaeth ydyw a gofynion cyrff rheoli ein Hymarferwr. Fel rheol, bydd hyn yn bum mlynedd. Ni fyddwn yn cadw’r wybodaeth am gyfnod hirach na sy’n angenrheidiol.

Gallwch ddweud wrthym am roi’r gorau i ddefnyddio neu rannu eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg ond gall hyn ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Cysylltwch â[javascript protected email address]os ydych chi eisiau cyngor ar hyn, neu i ofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth.